Cysylltiad posibl rhwng morfilod peilot yn mynd yn sownd ar draethau a ‘tharfu ar y teulu’ yn ôl ymchwil newydd
Morfil Peilot – delwedd gan Bernhard Staärck o Pixabay
30 Awst 2022
Mae’n bosibl bod cysylltiad rhwng morfilod peilot yn mynd yn sownd ar raddfa fawr ac amharu ar eu grwpiau teulu yn ôl ymchwil newydd.
Mae dadansoddiad genetig diweddar yn hemisffer y gogledd a'r de gan dîm sy'n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn herio'r ddamcaniaeth bresennol ynghylch effaith ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid hyn wrth iddynt fynd yn sownd.
Mae morfilod (cetaceans) yn grŵp o famaliaid morol sy’n cynnwys morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion. Mae adroddiadau ohonynt yn mynd yn sownd ar raddfa fawr wedi'u cofnodi ers cyfnod Aristotlys a bu ymdrech hir i ddeall beth sy'n eu hachosi.
Morfilod peilot asgellog hir - rhywogaeth gwmnigar gyda chysylltiadau cymdeithasol cymhleth - yw'r rhai yr effeithir arnynt amlaf.
Ar y môr maent yn ffurfio unedau teuluol a elwir yn bodau. O fewn pod mae cenedlaethau gwahanol o forfilod peilot sydd i gyd yn perthyn i un fenyw. Y gred ers tro yw y gallant fynd yn sownd oherwydd bod aelodau o'r teulu yn ceisio aros gyda'i gilydd.
Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o’r achosion mae'r data'n dangos bod morfilod peilot sy’n mynd yn sownd yn cynnwys sawl pod sydd ddim yn perthyn, yn hytrach nag un pod fel y tybiwyd o’r blaen.
Mae hyn yn awgrymu y gall tarfu ar deulu, yn hytrach na chydlyniant teuluol, fod yn un o brif achosion y digwyddiadau hyn.
Mae goblygiadau i’r ymchwil newydd hwn o ran sut i’w hachub: gallai rhagdybio bod yr holl anifeiliaid a oedd yn sownd yn perthyn i'w gilydd fod wedi peryglu ymdrechion blaenorol, gan y gallai ymdrechion bwriadol i ail-arnofio anifeiliaid nad ydynt yn perthyn i’w gilydd achosi iddynt fynd yn sownd eto.
Dywedodd un o’r tîm ymchwil, Dr Niall McKeown, darlithydd mewn Bioleg Môr ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r tîm wedi cydweithio i ganfod a dadansoddi samplau genetig o ddigwyddiadau pan fo’r anifeiliad yn mynd yn sownd am y tro cyntaf yng ngogledd ddwyrain yr Iwerydd ac Ynysoedd y Falkland. Mae'r canfyddiadau'n cynnig tystiolaeth bellach y gall fod yna gymysgu unedau teuluol ar ryw adeg wrth iddyn nhw fynd yn sownd. Dyw hi ddim yn amlwg eto i ba raddau y mae hyn yn achosi, neu’n ganlyniad, i ddigwyddiadau pan fo’r anifeiliad hyn yn mynd yn sownd.”
Yn ogystal ag academyddion o Brifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Adran Pysgodfeydd Ynysoedd y Falkland, Prifysgolion Glasgow, Caer, Utrecht, Sefydliad Technoleg Galway-Mayo a’r Scottish Marine Animal Stranding Scheme
Ychwanegodd Dr McKeown:
“Mae ein hastudiaeth yn dangos grwpiau teulu cymysg yn yr achosion pan fo’r anifeiliad yn mynd yn sownd ar raddfa fawr. Gall hefyd adlewyrchu cymdeithas gymdeithasol fwy cymhleth morfilod peilot hir-asgellog nac a dybiwyd. Bydd ymchwil pellach yn helpu i wahaniaethu rhwng ffactorau o'r fath a bydd yn hynod berthnasol i strategaethau achub.”