Prosiect ymchwil biomas i daclo newid hinsawdd yn derbyn buddsoddiad o £2m
Glaswellt Miscanthus
10 Awst 2022
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gallu cyflymu’r broses o fridio miscanthus, y glaswellt ynni lluosflwydd, fel rhan o becyn gwerth £37 miliwn gan lywodraeth y DU i hybu cynhyrchiant biomas.
Diolch i fuddsoddiad o fwy na £2 filiwn drwy Raglen Arloesi Porthiant Biomas Llywodraeth y DU a ariennir gan Bortffolio Arloesedd Sero Net BEIS (NZIP), bydd ymchwilwyr yn dechrau defnyddio techneg a elwir yn ddethol genomig yn y rhaglen fridio miscanthus.
Mae Miscanthus yn laswellt lluosflwydd hynod gynhyrchiol sydd angen mewnbwn isel iawn ac sy'n cael ei fridio gan wyddonwyr yn Aberystwyth fel cnwd biomas. Mae'n cynhyrchu 12-15 tunnell o fiomas bob blwyddyn hyd yn oed pan gaiff ei dyfu ar dir sy'n llai addas ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae'n cael ei gynaeafu yn y gwanwyn ac ar hyn o bryd mae'r biomas yn cael ei anfon i orsafoedd ynni i gynhyrchu trydan adnewyddadwy.
Mae biomas yn cael ei ystyried yn rhan bwysig o gynlluniau Llywodraeth y DU i gynhyrchu mwy o ynni domestig a chynhyrchodd 12.6% o gyfanswm trydan y DU yn 2020.
Mae bridio planhigion yn broses o groesi rhiant-blanhigion sydd â nodweddion dymunol penodol er mwyn creu dysgynnydd â nodweddion gwell. Yn achos miscanthus, mae'r nodweddion hyn yn cynnwys cynnyrch biomas, y gallu i wrthsefyll sychder a rhew, ac addasrwydd ar gyfer tyfu gyda mewnbynnau maetholion isel.
Dywedodd Dr Kerrie Farrar o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae Miscanthus yn cymryd tair blynedd i aeddfedu yn y DU, felly wrth ddefnyddio bridio confensiynol mae oedi hir cyn y gallwn ddewis y rhieni mwyaf addawol i groesi. Gyda’r dull dethol Genomig, yn gyntaf, rydyn ni’n cynhyrchu marcwyr genetig ar draws y genom miscanthus, ac yn eu cysylltu â nodweddion aeddfed mewn poblogaeth hyfforddi. Yna gallwn ddefnyddio'r marcwyr yn ein poblogaeth fridio er mwyn dewis y planhigion rydyn ni’n rhagweld y byddan nhw’n dangos y nodweddion aeddfed gorau tra eu bod yn ddim ond eginblanhigion, gan gyflymu'r cylch dethol o dair blynedd i un. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu mathau newydd o Miscanthus cynhyrchiol i ddarparu biomas cynaliadwy i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
“Mae ynni biomas wedi’i gyfuno â dal a storio carbon yn elfen allweddol o’r gyllideb garbon sydd ei hangen er mwyn i’r DU gwrdd â’i thargedau allyriadau carbon sero net. Planhigion, yn enwedig rhai sy'n tyfu'n gyflym fel miscanthus, yw'r ffordd orau ar hyn o bryd i dynnu carbon o'r atmosffer wrth iddynt ei godi a'i drwsio wrth iddynt dyfu. Gall mathau gwell felly gyfrannu at y DU yn cwrdd â’i thargedau cyllideb carbon.
“Roedd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o’r ymdrech ryngwladol i ddilyniannu’r genom miscanthus, ac mae’n gyffrous cymhwyso hynny i’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, tra hefyd o fudd i dyfwyr a’r diwydiant.”
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn mynd i fod yn rhan o brofi safleoedd hwb o brosiectau eraill o fewn y rhaglen arloesi porthiant biomas. Mewn prosiect a arweinir gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, bydd amrywiaeth o ddulliau arloesol a chnydau biomas yn cael eu cymharu â’i gilydd mewn lleoliadau ledled y DU, gan gynnwys yn Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r rhaglen arloesi porthiant biomas yn profi amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol, yn amrywio o wahanol fathau o blanhigion, a gwahanol dechnegau plannu, agronomeg a chynaeafu. Mae profi’r rhain ochr yn ochr yn bwysig er mwyn i ni ddeall bob datblygiad yn fanwl, a hefyd er mwyn gallu eu dangos i ffermwyr sydd â diddordeb mewn arallgyfeirio eu gweithrediadau ffermio i gynnwys cnydau biomas. Gyda strategaeth biomas newydd y Llywodraeth i fod cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, mae’n amser gwych i gael bod yn rhan o arddangos y cyfleoedd i ffermwyr.”
Dywedodd y Gweinidog Ynni, Greg Hands: “Mae cyflymu ynni adnewyddadwy cartref fel biomas yn rhan allweddol o roi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil drud ac anweddol.
“Bydd y buddsoddiad hwn o £37 miliwn gan y llywodraeth yn cefnogi arloesedd ledled y DU, gan hybu swyddi tra’n sicrhau mwy o sicrwydd ynni am flynyddoedd i ddod.”