Pennaeth newydd Adran Gwyddorau Bywyd Aberystwyth
Yr Athro Iain Barber, Pennaeth Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth
09 Awst 2022
Mae’r Athro Iain Barber wedi’i benodi’n Bennaeth newydd Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r Athro Barber yn ymuno â’r Brifysgol o Brifysgol Nottingham Trent lle mae’n Ddirprwy Ddeon gyda chyfrifoldeb am ddysgu ac addysgu yn yr Ysgol Gwyddor Anifeiliaid, Gwledig ac Amgylcheddol, ac yn ehangach, am brofiad myfyrwyr ar Gampws Brackenhurst.
Cyn ymuno â Nottingham Trent, roedd yr Athro Barber yn Bennaeth yr Adran Bioleg ac, wedi hynny, yn Ddirprwy Bennaeth yr Adran Niwrowyddoniaeth, Seicoleg ac Ymddygiad ym Mhrifysgol CaerlÅ·r.
Mae hefyd yn gyn-aelod staff yn Aberystwyth, gan iddo ymuno gyda’r Brifysgol fel cymrawd NERC yn 2000 ac yna’n dod yn ddarlithydd ymchwil.
Mae ymchwil yr Athro Barber yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’n fiolegydd anifeiliaid ac yn ecolegydd ymddygiadol ag arbenigedd ym meysydd rhyngweithiadau gwesteiwr-parasit, ecoleg ymddygiad pysgod ac ymchwil personoliaeth anifeiliaid.
Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd yr Athro Iain Barber, a fydd yn dechrau yn ei rôl newydd ddiwedd mis Hydref eleni:
“Braint o’r mwyaf yw cael fy mhenodi’n Bennaeth yr Adran, a chael dychwelyd i Brifysgol lle y bues i’n darlithio am y tro cyntaf. Mae ymchwil ac addysgu o’r radd flaenaf wedi’u ffocysu ar faterion hanfodol bwysig yma - o newid hinsawdd a bioamrywiaeth i iechyd anifeiliaid a phobl – ac mae gennym arbenigwyr sy’n arwain yn eu meysydd. Mae eu haddysgu a’u hymchwil yn gwneud cyfraniad cadarnhaol yn lleol ac yn rhyngwladol.
“Mae Aberystwyth yn arwain y gad gyda’i haddysgu, fel mae canlyniadau diweddar yr NSS yn dangos yn glir. Rwy’n llawn cyffro am arwain yr adran newydd ac am gyfrannu at ragor o dwf a llwyddiant yn y Brifysgol ragorol hon.”
Ychwanegodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd:
“Rydyn ni wrth ein boddau bod rhywun o galibr Iain yn ymuno â’r tîm yma yn Aberystwyth. Mae e’n arweinydd profiadol ym maes addysg uwch gydag arbenigedd mewn dysgu ac addysgu ar draws y Gwyddorau Bywyd a phroffil ymchwil rhyngwladol. Bydd yn hwb enfawr i’n hadran. Rwy’n ei longyfarch yn wresog ar ei benodiad. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y datblygiadau cyffrous o’n blaenau.”
Mae’r penodiad yn dilyn newidiadau a gymeradwywyd yn y gwanwyn eleni i rannau cyfansoddol Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd (FELS) y Brifysgol.
O fewn y gyfadran, mi fydd yr Adran Gwyddorau Bywyd yn addysgu cyrsiau megis bioleg, amaethyddiaeth a milfeddygaeth. Hefyd o fewn cyfadran mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) sy’n ymwneud yn bennaf ag ymchwil, yn enwedig rhaglenni ymchwil y Brifysgol sy'n derbyn cyllid craidd gan y BBSRC.