Gwaith adeiladu’n dechrau ar fynedfa newydd drawiadol i’r Hen Goleg
Aelodau Tîm Dylunio’r Hen Goleg yn nodi tynnu’r lechen gyntaf o do hen adeilad Ystadau’r Brifysgol, cyn i’r gwaith ddechrau i glirio’r safle ar gyfer yr atriwm newydd drawiadol a fydd yn fynedfa i’r adeilad rhestredig Gradd 1.
05 Awst 2022
Mae prosiect Prifysgol Aberystwyth i ailddatblygu’r Hen Goleg wedi symud ymlaen yr wythnos hon wrth i brif contractiwr adeiladu’r prosiect, Andrew Scott Ltd, ddechrau’r gwaith ar fynedfa drawiadol newydd i’r adeilad rhestredig Gradd 1.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y prosiect uchelgeisiol gwerth £36m yn cynnwys trawsnewid y Filas Sioraidd, 1 a 2 Y Promenâd Newydd, ac atriwm newydd a fydd yn darparu mynediad i bob lefel o’r Hen Goleg o Stryd y Brenin.
Bydd y gwaith o baratoi’r safle ar gyfer yr atriwm newydd yn dechrau’r wythnos hon gyda dymchwel hen adeilad Ystadau’r Brifysgol ar Stryd y Brenin, sy’n dyddio o’r 1960au.
Bydd yr atriwm newydd yn cynnig mynediad hwylus i bob lefel o’r Hen Goleg, gan gynnwys y gwesty 4* ac ystafell ddigwyddiadau wydr â lle i 200 o bobl a fydd uwchben y Filas Sioraidd ac yn cynnig golygfeydd dramatig dros Fae Ceredigion.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Arweinydd Gweithredol y Brifysgol ar brosiect yr Hen Goleg: “Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn yn ein taith i ailddatblygu’r adeiladau gwych hyn. Rwy’n ddiolchgar iawn i holl aelodau tîm yr Hen Goleg am eu gwaith caled. Mae’n wych gweld y cam nesaf hwn wrth i ni wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol i ddod â bywyd newydd i’r adeilad eiconig hwn a sefydlu canolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys i Gymru lle gall cymunedau amrywiol ymgysylltu â dysg a threftadaeth, rhannu’r profiad o ddarganfod ac elwa o fentergarwch.”
“Mae hwn yn brosiect hynod bwysig i Aberystwyth, i’r Brifysgol a’r dref, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan ein partneriaid a chyn-fyfyrwyr sydd wedi addo cyllid sylweddol i’r prosiect.”
Nodwyd dechrau cymal diweddaraf y prosiect gyda tynnu’r lechen gyntaf o do adeilad Ystadau’r Brifysgol ddydd Iau 28 Gorffennaf.
Bydd y gwaith yn golygu cau rhan o Heol y Brenin sy'n arwain at Heol y Wig am hyd at bedair wythnos.
Bydd mynediad i Stryd y Brenin ar gyfer parcio i breswylwyr, ynghyd â mynediad i gerddwyr yn parhau. Bydd mesurau hefyd yn eu lle i gyfyngu ar unrhyw darfu ar bobl sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal.
Bywyd Newydd i'r Hen Goleg
Bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd yn ganolfan o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd o Wybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Arwyddair y Brifysgol yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer Byd o Wybodaeth a fydd yn cynnwys canolfan a fydd yn dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa’r Brifysgol, prosiect Pobl Ifanc i ddarparu cyfleoedd i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio myfyrwyr 24-7 a sinema â’r dechnoleg ddiweddaraf.
Y Cwad yw calon yr Hen Goleg, a bydd yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Diwylliant a Chymuned a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid o bwys. Bydd y parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc ym maes busnesau creadigol a digidol, dwy sector sy’n tyfu’n gyflym ac o bwysigrwydd economaidd mawr i orllewin Cymru.
Unwaith y bydd wedi ei orffen mae disgwyl i’r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m at yr economi leol yn flynyddol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth megis cestyll Caernarfon a Chonwy.
Caiff hyd at 130 o swyddi eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4* a mannau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys 10 ystafell gyda chapasiti yn amrywio o 60 i 200 o bobl.
Mae lluniau a chynlluniau ar gyfer prosiect yr Hen Goleg ar gael ar-lein.
Codi arian
Mae prosiect yr Hen Goleg yn un o’r prosiectau addysgol, treftadaeth, diwylliannol a chymunedol mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ac mae wedi codi’r symiau mwyaf erioed o arian cyfalaf allanol i’r Brifysgol.
Mae’r prosiect i adfer Hen Goleg eiconig Prifysgol Aberystwyth - un o adeiladau Gradd I rhagorol Cymru, wedi derbyn dros £11 miliwn (£11,111,000) gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yr arian yn helpu i sicrhau dyfodol hirdymor yr Hen Goleg fel canolfan ar gyfer diwylliant, treftadaeth, darganfod, dysgu a menter gan ddenu 200,000 o ymwelwyr blynyddol.
Yn ogystal, mae’r prosiect wedi sicrhau cyllid sylweddol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae Apêl yr Hen Goleg hefyd wedi bod yn hynod lwyddiannus. Eisoes codwyd bron i £4m, sydd yn cynnwys £2.2m gan ymddiriedolaethau a dros £1.7m mewn rhoddion hael gan gymuned cyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol o bob rhan o’r byd.
Mae llwyddiant y gwaith codi arian hwn yn golygu bod mwyafrif helaeth y cyllid sydd ei angen ar y prosiect bellach yn ei le.
Ym mis Ionawr 2022 gosododd y Brifysgol darged codi arian newydd uchelgeisiol o £1.5m ar gyfer Apêl yr Hen Goleg. Bydd yr arian a godir yn galluogi’r Brifysgol i wireddu potensial llawn y prosiect uchelgeisiol a chyffrous hwn er budd myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.