Ysgoloriaeth cyfrwng Cymraeg newydd i fyfyrwyr milfeddygaeth Aberystwyth er cof am filfeddyg lleol
Yr Athro Elizabeth Treasure Is-Ganghellor, Elaine Davies, Ioan Matthews
04 Awst 2022
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ysgoloriaeth newydd i fyfyrwyr astudio milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i rodd hael er cof am filfeddyg lleol.
Mae’r cynllun yn cael ei sefydlu wedi rhodd gan deulu Elaine Davies i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny er cof am ei thad oedd yn filfeddyg adnabyddus ac uchel iawn ei barch yn ardal Llandysul.
Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei hadnabod fel ‘Ysgoloriaeth Defi Fet’, er cof am DGE Davies, Llandysul.
Bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn £2,500 dros gyfnod pum mlynedd i astudio yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud heddiw, ddydd Iau 4 Awst, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Fe agorodd Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf ym mis Medi 2021.
Mae’r myfyrwyr yno yn astudio gradd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol (BVSc) sydd yn cael ei darparu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).
Fel rhan o’r ysgoloriaeth newydd, a sefydlir ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y myfyrwyr yn gwneud dros hanner o’u profiad gwaith ar fferm a phrofiad clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â manteisio’n llawn ar y ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg ar y cwrs yn y Brifysgol.
Cyhoeddwyd y cynllun newydd gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae ehangu a normaleiddio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn hollol greiddiol i’n cenhadaeth fel prifysgol, ac i’n Hysgol Gwyddor Filfeddygol. Rydyn ni’n diolch yn fawr i deulu Elaine Davies am eu haelioni ac i’r Coleg Cymraeg am y bartneriaeth bwysig. Bydd hyn yn cryfhau ein cynnig Cymraeg hyd yn oed ymhellach. Bydd hefyd yn cryfhau’r berthynas rhwng ein myfyrwyr a milfeddygon Cymraeg gan greu cymhelliant ychwanegol i weithio yng Nghymru wedi iddyn nhw raddio.”
“Mae amaeth a’i diwydiannau perthynol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn Aberystwyth yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un sydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”
Dywedodd Elaine Davies ar ran y teulu a roddodd y rhodd:
"Fe fyddai fy nhad yn falch iawn o weld yr adran filfeddygol yn Aberystwyth ac, yn fwy fyth, o feddwl bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn cael cyfle i hyfforddi yn y maes allweddol hwn yn eu hiaith eu hunain. Mae'n bwysig ein bod ni'n magu to newydd o filfeddygon sy'n adnabod eu pobol ac yn gallu cynnig gwasanaeth yn Gymraeg. Roedd cynnig addysg dda a darparu gwasanaeth i gymuned yn ddau o gonglfeini bywyd Dad ac mae medru cynnig yr ysgoloriaeth hon yn goffa perffaith iddo."
Mae’r cwrs milfeddygaeth yn Aberystwyth yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn partneriaeth rhwng y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywedodd Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae’r Coleg yn falch iawn i fod yn cefnogi’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hoffwn ddiolch yn fawr i Elaine a’i theulu am y rhodd ariannol hynod o hael er cof am ei thad. Bydd y rhodd yn cefnogi myfyriwr fydd yn astudio cyfran helaeth o’r cwrs yn Aberystwyth, ac ar leoliadau ar ffermydd ac mewn milfeddygfeydd yng Nghymru, trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae’r ysgoloriaeth newydd yn un ymhlith nifer o raglenni cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio milfeddygaeth yn Aberystwyth. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy e-bostio ysgoloriaethau@aber.ac.uk.
Mae myfyrwyr Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth ar y radd bum mlynedd yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.
Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod llawn o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.