Prosiect addysg bioamrywiaeth yn derbyn cyllid gan yr Academi Brydeinig

01 Awst 2022

Mae prosiect arloesol sy'n hybu addysg am fioamrywiaeth arfordirol yn mynd i ehangu ar ôl derbyn arian gan yr Academi Brydeinig.

Bu Phil Jones, sy’n astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn gweithio gyda’i gyd-fyfyriwr Saesneg, Maï-Lyng Roberts ac Abidish Hussain o’r Ysgol Gelf, ar brosiect o’r enw ‘Gwrthsefyll dirywiad glan môr: Yr her (bio)amrywiaeth'.

Defnyddiodd y prosiect cyfuniad o ecoleg, gwyddor gymdeithasol ac ysgrifennu creadigol i helpu i greu cysylltiadau emosiynol rhwng pobl a ble maent yn byw.

Roedd yn rhan o gydweithrediad ehangach Prosiectau Effaith SHAPE, menter gan yr Academi Brydeinig a’r elusen addysg Myfyrwyr yn Trefnu ar gyfer Cynaliadwyedd (SOS-UK).

Mae'n annog myfyrwyr ac academyddion ar draws y disgyblaethau SHAPE (gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a'r celfyddydau ar gyfer pobl a'r economi) i ddefnyddio eu pynciau i helpu i fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Yna mae’r prosiectau’n mabwysiadu model ‘labordy byw’, gyda chymuned leol sefydliad yn cael ei defnyddio fel lleoliad i brofi eu syniadau.

Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol:

“Rwy’n falch iawn o weld gwaith Phil, Maï-Lyng, ac Abidish yn cael ei gydnabod ymhellach gan yr Academi Brydeinig. Rydym yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth ac mae eu prosiect wedi cynnig persbectif newydd i ni ar sut y gall cymunedau lleol fynd i’r afael â’r her.

"Rwy'n eu llongyfarch i gyd am eu dyfeisgarwch a'u brwdfrydedd wrth ddangos sut y gall y pynciau SHAPE gyfrannu at fynd i'r afael â rhai o argyfyngau mwyaf ein planed. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae eu gwaith yn datblygu."

Dywedodd Phil Jones: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyllid ar gyfer ein Prosiect Effaith Cynaliadwyedd SHAPE.Rydyn ni’n gobeithioy bydd hyn yn galluogi pobl, nid yn unig i ddysgu am fioamrywiaeth, ond hefyd i wneud cysylltiad emosiynol ag ef.Bydd hyn yn rhywbeth gwahanol i’r ‘och a gwae’ arferol a chynnig safbwynt gobeithiol ar yr hyn y gall pobl ei wneud yn wyneb newid hinsawdd.”

Dywedodd Dr Molly Morgan Jones, Cyfarwyddwr Polisi’r Academi Brydeinig: “Mae’r disgyblaethau SHAPE yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddeall dimensiynau dynol a chymdeithasol cymhleth heriau amgylcheddol.

“Mae’n wych cynnig cyfle i fyfyrwyr ac academyddion yn y pynciau hyn brofi a thyfu eu hatebion arloesol i faterion cynaliadwyedd amgylcheddol yn eu hardal leol trwy Brosiectau Effaith SHAPE.”