Nid yw trafod ‘colled ddysgu’ yn sgil y pandemig yn ddefnyddiol nac yn gywir – cyflwyniad yn yr Eisteddfod
Addysgu gartref - darllen gyda'n gilydd
28 Gorffennaf 2022
Yn groes i’r 'golled ddysgu' y cyfeirir ati’n aml, mae llawer o ddisgyblion ysgol Cymru wedi elwa o wahanol brofiadau dysgu wrth iddynt addasu i'r newid i ddysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, yn ôl ymchwil y bu academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn rhan ohoni.
Mae'r ymchwil, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ymhlith nifer o astudiaethau ar thema addysg a fydd yn cael eu cyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Llun 1 Awst.
Cynhaliwyd 'Archwilio Effaith Pandemig COVID-19 ar Ddysgwyr yng Nghymru' gan dîm o academyddion o brifysgolion Aberystwyth a Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Eglurodd Prysor Mason Davies, Uwch-ddarlithydd Addysg o Brifysgol Aberystwyth, a oedd yn gyd-ymchwilydd ar yr ymchwil:
"Mae yna berygl ein bod ni'n stigmateiddio cenhedlaeth gyfan fel un sydd wedi dioddef 'colled ddysgu', pan nad yw'r disgrifiad hwn yn ddefnyddiol nac yn gywir mewn gwirionedd. Mae ein hymchwil yn dangos yn gyffredinol bod y pandemig yn gyfnod o ddysgu i bawb oedd yn ymwneud ag addysg.
"Mae'n wir bod yr anfanteision a brofwyd gan ddysgwyr mwy agored i niwed wedi gwaethygu neu wedi dod yn fwy amlwg pan gaewyd yr ysgolion yn ystod y pandemig. Roedd methu defnyddio caledwedd priodol a diffyg cyswllt â’r rhyngrwyd, yr amrywiadau yng ngallu rhieni a gofalwyr i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol yn y cartref, a heriau o ran manteisio ar wasanaethau cymorth arbenigol, yn creu rhwystrau i ddysgwyr.
"Serch hynny, ffynnodd rhai dysgwyr oherwydd yr annibyniaeth gynyddol a ddarparwyd iddynt, am eu bod yn gallu gweithio ar eu cyflymder eu hunain, ac oherwydd y gefnogaeth yr oedd eu rhieni neu eu gofalwyr yn gallu ei chynnig.
"Hefyd, dysgodd rhai o’r plant a gymerodd ran yn ein hymchwil sgiliau newydd yn ystod y cyfnod clo, fel torri coed, gwneud bara, garddio, coginio, a chwarae offerynnau cerdd. Dysgodd blant lawer trwy fynd am dro gyda’u teuluoedd - gan ddysgu gwybodaeth am eu hardaloedd a'u cynefinoedd lleol - neu trwy gymryd rhan mewn gwaith i wella’u cartrefi.
"Felly yn hytrach na 'cholled ddysgu', efallai y byddai'n fwy priodol defnyddio’r ymadrodd 'colled gwricwlaidd', i bwysleisio nad yw disgyblion o bosib wedi cyflawni'r amcanion dysgu penodol a osodwyd yng nghwricwlwm yr ysgolion."
Gwnaeth yr astudiaeth nifer o argymhellion i lywio ymateb uniongyrchol y system addysg ac er mwyn cynllunio ar gyfer unrhyw darfu yn y dyfodol. Un argymhelliad oedd gwella'r ddarpariaeth bresennol mewn addysg gychwynnol i athrawon trwy roi mwy o sylw i feysydd fel yr amgylchedd dysgu yn y cartref, y berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, dysgu cyfunol a dysgu o bell, anghenion dysgu ychwanegol ac iechyd meddwl a lles.
Arweinir y drafodaeth 'Addysg, amser a lle: Ymchwil diweddar ar faterion cyfoes yn y byd addysg yng Nghymru’ gan ymchwilwyr o Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth am 2yp ddydd Llun 1 Awst ar stondin y Brifysgol (Stondin M05)yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod yma.