Disgyblion yn disgleirio mewn cynllun peilot ysgol haf
Disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn gwneud ffilmiau
23 Gorffennaf 2022
Mae disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgol haf breswyl ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel rhan o raglen Sylfaen Seren.
Mae'r ysgol haf, sydd wedi ei chyllido gan Llywodraeth Cymru, yn rhan o raglen beilot sy'n gweithio gyda phrifysgolion yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Mae'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i ehangu'r partneriaethau ysgolion haf presennol a sefydlu cynlluniau peilot newydd mewn sefydliadau yng Nghymru.
Thema'r gweithdy 3 diwrnod yn Aberystwyth yw Llythrennedd Hinsawdd, a sut y gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at yr agenda hinsawdd. Yn ogystal â chael darlithoedd ar hinsawdd gan ddarlithwyr arbenigol, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu creadigol ar thema agenda'r hinsawdd, megis gweithdai celf, ioga a sesiynau gwneud ffilmiau.
Mae rhaglen Seren ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion gwladol ym mlynyddoedd 8 i 13 ledled Cymru. Mae'r dysgwyr yn cael eu nodi gan eu hysgolion a'u colegau fel y rhai mwyaf disglair, waeth beth fo'u cefndir, ac mae'r rhai sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y rhaglen yn cael arweiniad, cymorth a chyfleoedd i feithrin eu hyder a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am y prifysgolion gorau.
Mae Seren mewn dau gam; Sylfaen Seren sydd ar gyfer y rhai ym Mlynyddoedd 8 i 11, ac Academi Seren i'r rhai ym Mlynyddoedd 12 a 13. Gyda'i gilydd, mae rhaglen Seren yn ymroddedig i gefnogi'r dysgwyr mwyaf disglair i ystyried a gwneud cais i’r prifysgolion gorau a llwyddo yno.
Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Anwen Jones: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o gynnig y gyntaf yn y gyfres arloesol hon o ysgolion haf yng Nghymru a fydd yn sefydlu llwybr ysbrydoledig tuag at y dyfodol i holl ddysgwyr Seren.
“Eleni byddwn yn mynd i'r afael ag un o'r heriau byd-eang mwyaf cythryblus, sef newid hinsawdd. Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd unigryw sy'n ymdrin â’r celfyddydau a'r dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, a'r gwyddorau, gan roi cyfle i ddysgwyr Seren fynegi eu barn yn y ddadl hon.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cefnogi ein holl ddysgwyr, waeth beth fo'u cefndir, ac mae Seren yn rhaglen mor wych sy'n cynnig y profiadau mwyaf disglair i'n myfyrwyr gan gyfoethogi ac yn ysgogi eu dysgu.
"Mae cyfleoedd fel yr ysgol haf hon yn helpu i ehangu gorwelion ein dysgwyr ac yn rhoi profiadau diddorol a heriol iddynt i'w paratoi ar gyfer dysgu pellach. Rwy'n awyddus i weld sut y gallwn adeiladu ar y cynllun peilot hwn ac ehangu'r cynnig mewn partneriaeth â mwy o brifysgolion yng Nghymru, a thu hwnt, i gynyddu'r cyfleoedd i'n dysgwyr Seren."
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Sian Gwenllian: “Rydym am sicrhau bod yr hyn a gynigir drwy raglen Seren yn cefnogi dysgwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig i gael cyfleoedd cadarnhaol sy'n eu helpu i symud ymlaen a ffynnu yn y brifysgol. Bydd yr ysgolion haf hyn, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd i brofi ein prifysgolion a pharatoi dysgwyr ar gyfer addysg uwch. Mae'n hollbwysig ein bod yn dysgu o'r cynlluniau peilot hyn ac yn parhau i ehangu cyfleoedd i fwy o ddysgwyr yn y dyfodol, ac hynny ledled Cymru.”