Penodi academydd Aberystwyth yn gadeirydd grŵp dileu TB y llywodraeth
Yr Athro Glyn Hewinson
12 Gorffennaf 2022
Mae’r Athro Glyn Hewinson o Brifysgol Aberystwyth wedi ei benodi’n gadeirydd Grŵp Cynghori Technegol newydd ar Dwbercwlosis (TB) gwartheg Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y penodiad mewn datganiad ar 11 Gorffennaf wrth ddiweddaru’r strategaeth dileu TB yng Nghymru.
Mae’r Athro Glyn Hewinson yn Bennaeth Canolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Sefydlwyd y ganolfan yn 2018 a’i nod yw darparu sylfaen tystiolaeth gref er mwyn cynorthwyo gwaredu’r clefyd a datblygu a meithrin arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.
Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd yr Athro Glyn Hewinson o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae wir yn anrhydedd fawr i gael fy mhenodi i’r swyddogaeth bwysig hon. Bydda i’n gwneud popeth y galla i gefnogi strategaeth y Llywodraeth ar ei newydd wedd. Byddwn ni’n parhau i ymgysylltu â'r holl randdeiliaid wrth i bob un ohonynt ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o fynd i'r afael â'r clefyd dinistriol hwn.”
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’n bleser gen i benodi’r Athro Hewinson i sefydlu’r Grŵp Cynghori Technegol.
“Bydd yn dod ag arbenigedd sylweddol i’r rôl, yn cynghori ar agweddau technegol ein rhaglen ac yn sicrhau bod ein polisi yn parhau i gael ei lywio gan y dystiolaeth ddiweddaraf.”