Prifysgol Aberystwyth ar y brig am foddhad myfyrwyr yng Nghymru ac yn ail yn DU
Prifysgol Aberystwyth
06 Gorffennaf 2022
Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022.
Yn ogystal, o’r holl brifysgolion sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion diweddaraf The Times / Sunday Times, mae Aberystwyth wedi dringo i’r ail safle yn DU am foddhad myfyrwyr.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Aberystwyth wedi bod ar y brig yng Nghymru ac yn un o’r deg prifysgol orau yn y DU am foddhad myfyrwyr ym mhob un o saith arolwg diwethaf yr NSS.
Mae’r Brifysgol hefyd yn parhau i berfformio yn well na chyfartaledd y sector yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr, 11 pwynt canran yn uwch eleni o’i gymharu gydag 8 pwynt canran yn 2021.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r canlyniadau hyn yn rhagorol ac yn adlewyrchu ymroddiad ein staff i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl o dan amgylchiadau anodd a heriol sydd wedi parhau dros gyfnod o dair blwyddyn academaidd. Mae eu gwaith wedi'i adlewyrchu ym mharodrwydd ein myfyrwyr i fod yn hyblyg ac addasu i'r newidiadau y maent wedi'u profi yn ystod y cyfnod hynod hwn, a'u hymrwymiad i ddysgu. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn cyflawni pethau gwych, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniad heddiw sy'n tanlinellu unwaith eto bod Prifysgol Aberystwyth yn cynnig un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU.”
Un o’r uchafbwyntiau i Aberystwyth yw adran 'Yr addysgu ar fy nghwrs', sy'n gofyn i fyfyrwyr am eu profiadau dysgu, ysgogiad deallusol a sut mae cwrs yn eu herio i gyflawni eu gwaith gorau.
Mae Aberystwyth ar y brig o blith prifysgolion yng Nghymru a Lloegr yn y categori hwn, ac yn ail yn y DU.
Dywedodd Aisleen Sturrock, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: "Llongyfarchiadau enfawr i Brifysgol Aberystwyth ar ganlyniad yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni. Mae'r tair blynedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i fyfyrwyr a staff ac mae'r ffordd y mae pawb wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod profiad y myfyrwyr wrth galon ein penderfyniadau yn cael ei hadlewyrchu yn y canlyniad heddiw. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn parhau i weithio'n galed i sicrhau bod boddhad myfyrwyr yn parhau i fod yn uchel yn Aberystwyth ac i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr."
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol o bron i hanner miliwn o fyfyrwyr mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ar draws y DU.
Mae'r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o fesuriadau boddhad myfyrwyr.
Maent yn cynnwys ansawdd yr addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, y gymuned ddysgu a llais y myfyriwr.
Comisiynir yr NSS gan y Swyddfa Myfyrwyr (OfS), ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Adran Economi Gogledd Iwerddon (DfENI), a Chyngor Cyllido'r Alban (SFC), ac yn cael ei wneud yn annibynnol gan Ipsos MORI.
Agorodd arolwg y flwyddyn 2022 ar 6 Ionawr a daeth i ben ar 30 Ebrill 2022.