Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i benodi i Banel o Arbenigwyr

Yr Athro Emyr Lewis

Yr Athro Emyr Lewis

23 Mehefin 2022

Mae’r Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, wedi cael ei benodi i Banel Arbenigol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol gan Lywodraeth Cymru ddiwedd 2021. Dau amcan eang sydd gan y Comisiwn.

Yr amcan cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn dal i fod yn rhan annatod ohoni. Yr ail amcan yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Wrth gyflawni ei waith bydd y Comisiwn Annibynnol yn comisiynu gwaith ymchwil a dadansoddi a barn arbenigol drwy'r Panel o Arbenigwyr sydd newydd ei sefydlu, sef y panel y penodwyd yr Athro Lewis iddo.

Cyhoeddwyd y penodiadau i’r Panel o Arbenigwyr ar 13 Mehefin 2022 gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Meddai:  "Dewiswyd aelodau'r Panel Arbenigol gan ymgynghori â'r Comisiwn, gan adlewyrchu eu barn ar y pynciau lle byddai'r Comisiwn yn elwa ar arbenigedd arbenigol. Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i bawb sydd wedi cytuno i gefnogi’r Comisiwn yn ei waith drwy gymryd rhan yn ei Banel Arbenigol."

Wrth ymateb i'w benodiad, dywedodd yr Athro Emyr Lewis: "Mae'n gyfnod o newid cyflym a rhywfaint o ansicrwydd yn nhrefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, yn enwedig o ran y berthynas rhwng canolfan draddodiadol y grym yn Llundain a'r canolfannau sy'n datblygu mewn mannau eraill. Mae'n anrhydedd cael fy ngwahodd i ymuno â'r panel o arbenigwyr a chynorthwyo'r Comisiwn wrth iddo ystyried y mater ac yn arbennig lle Cymru yn y cyd-destun hwn."

Aelodau eraill y Panel o Arbenigwyr yw:

  • Jess Blair - Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
  • Auriol Miller – Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
  • Akash Paun – Pennaeth rhaglen ddatganoli'r Institute for Government
  • Dr Hugh Rawlings – Cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Mairi Spowage – Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr y Fraser of Allander Institute
  • Yr Athro Diana Stirbu – Athro Polisi a Llywodraethiant ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain   
  • Gareth Williams (Cadeirydd) – Cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar Bontio Ewropeaidd  

Mae Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yn un o'r naw comisiynydd sy'n rhan o'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Gofynnwyd i’r comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd 2022, ac adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023.

Yr Athro Emyr Lewis

Penodwyd yr Athro Emyr Lewis yn Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym mis Medi 2019.  Cyn hynny, bu'n gyfreithiwr yn un o swyddfeydd cyfreithiol mwyaf Cymru, lle'r oedd yn Uwch Bartner, gan arbenigo mewn Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Fasnachol a chyfreithiau Cymorth y Wladwriaeth a Chaffael Cyhoeddus.

Yn y ystod ei gyfnod mewn practis, fe weithiodd hefyd am 12 mlynedd fel aelod y Deyrnas Unedig ar COMEX, Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop sy'n craffu ar sut mae gwladwriaethau yn cydymffurfio gyda Siarter Ewrop dros Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol, ac fel Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau Seneddau y DU a Chymru am gyfraith datganoli, cyfraith iaith a hawliau plant, ac yn fwyaf diweddar datganoli treth.