Dysgu gwersi'r gorffennol i wella profiadau plant sy’n ffoaduriaid heddiw
O’r chwith i’r dde, llun a dynnwyd yn lansiad yr adroddiad: Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru; Mark Jones, Cyfarwyddwr Higher Plain Research & Education; Anita H. Grosz, Prifysgol Aberystwyth; Dr Andrea Hammel, Prifysgol Aberystwyth; Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru; a John Davies, Pennaeth Cynhwysiant a Chydlyniant, Llywodraeth Cymru
20 Mehefin 2022
Dylai’r gefnogaeth i geiswyr noddfa ifanc heddiw gael ei llywio gan brofiadau ffoaduriaid o blant a ffodd rhag y Sosialwyr Cenedlaethol yng Nghanolbarth Ewrop yn y 1930au, yn ôl adroddiad newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yr adroddiad, ‘Gwahaniaethu a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ym Mywydau Plant Ffoaduriaid y 1930au: Dysgu ar gyfer y Presennol a’r Dyfodol’, a lansiwyd gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl i gyd-fynd ag Wythnos Ffoaduriaid 2022, sy'n dechrau heddiw, yw ail ran prosiect ymchwil sy'n archwilio hanesion llafar pobl a ddihangodd rhag bygythiadau unbennaeth y Sosialwyr Cenedlaethol a'r Holocost pan oeddent yn blant.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr Anita H. Grosz, Dr Stephanie Homer a Dr Andrea Hammel dystiolaethau gan bobl a geisiodd noddfa yn y Deyrnas Unedig pan oeddent yn blant ac a ymgartrefodd yma'n barhaol ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Roedd eu profiadau'n gyfle unigryw i edrych ar ganlyniadau hirdymor yr hyn a ddigwyddodd iddynt pan oeddent yn blant, ac yn enwedig felly i ymchwilio i effeithiau'r hiliaeth, yr wrth-Semitiaeth, y senoffobia a’r gwahaniaethu y bu iddynt ddioddef yn eu sgil.
Mae'r adroddiad yn awgrymu ffyrdd o leihau cymaint â phosibl ar allgáu a gwahaniaethu ar sail hil, crefydd a statws ffoaduriaid, ac mae'n cynnig ffyrdd o wella’r graddau y mae’r unigolion hynny sy'n cael eu gorfodi i fudo yn cael eu cynnwys a’u derbyn.
Yn ôl Arweinydd y Prosiect, Dr Andrea Hammel: “Gellir dysgu llawer iawn o wersi o'r tystiolaethau a archwiliwyd gennym. Er enghraifft, gwyddom fod yr awydd llethol i 'gymhathu' plant a oedd yn ffoaduriaid yn y 1930au wedi arwain at ganlyniadau negyddol o ran eu hymdeimlad o hunaniaeth ac o berthyn. Felly, mae'n hanfodol bod profiadau diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol ffoaduriaid sy'n dod o wledydd amrywiol fel Wcráin, Affganistan a Syria heddiw yn cael eu parchu.
“Mae angen i oedolion a phlant mewn ysgolion a chymunedau gael eu paratoi ar gyfer cymhlethdod gwleidyddol cefndir y plant sy'n ffoaduriaid, cael eu dysgu am eu diwylliant, a chael dealltwriaeth o'r hyn y gallent fod wedi'i wynebu yn y gwledydd y daethant ohonynt ac wrth iddynt ymfudo dan orfod.”
“Mae hi’r un mor bwysig sicrhau bod oedolion a phlant yn ymwybodol o sut i osgoi gwahaniaethu, bwlio, cam-drin geiriol, a defnyddio iaith hiliol a gwahaniaethol, yn ogystal â gwybod sut i dynnu sylw at ymddygiad o’r fath.”
“Hefyd, dylai mudiadau ffoaduriaid sicrhau bod rhyw fath o gymuned leol ar gael sy’n cynnwys ffoaduriaid eraill neu bobl sy’n dod o'r un wlad, sy'n siarad yr un iaith, neu sy’n rhannu’r un grefydd. Byddai'r cysylltiadau ehangach hyn yn caniatáu i blant sy’n ffoaduriaid gael rhywfaint o annibyniaeth â chefnogaeth, yn ogystal ag ymestyn eu rhwydwaith cymorth a'i gwneud yn haws iddynt gefnu ar sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol.”
Ariannwyd y prosiect gan y Ganolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ôl Jo Hopkins, Cyfarwyddwr y Rhaglen Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cyfiawnder Troseddol ac Atal Trais yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Heddiw, mae penawdau’r newyddion yn trafod ffoaduriaid sy’n ffoi rhag yr argyfwng yn Wcráin. Felly, mae'r adroddiad hwn yn amserol, yn enwedig ei argymhellion ynghylch sut y gallwn ni, fel gwlad sy'n eu croesawu, sicrhau’r ddarpariaeth orau ar gyfer ffoaduriaid, lleihau cymaint â phosibl ar unrhyw wahaniaethu, a gwella’r graddau y mae unigolion sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u gwledydd cartref yn cael eu cynnwys a’u derbyn.”
Dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn gan Brifysgol Aberystwyth. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu o’r gorffennol, fel ein bod yn datblygu gwasanaethau wedi’u llywio gan drawma sy’n cefnogi’r rhai sy’n ceisio ailadeiladu eu bywydau yma. Rwyf am ddweud wrth ffoaduriaid yma yng Nghymru heddiw fod Llywodraeth Cymru yma i sefyll ochr yn ochr â chi, i weithio gyda chi, i ddysgu oddi wrthych, wrth inni ail-ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymroddedig i wneud Cymru yn Genedl Noddfa, lle mae pobl o bob hil, ffydd a lliw yn cael eu gwerthfawrogi am eu cymeriad a’u gweithredoedd.
“Mae amseriad yr adroddiad hwn yn arbennig o ddefnyddiol wrth i ni barhau i ymateb a chefnogi’r rhai sy’n cyrraedd Cymru o bob rhan o’r Byd ac yn arbennig y rhai o Afghanistan a Wcráin. Fel Cenedl Noddfa, mae mabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma at ein hymateb yn hanfodol – a gall canfyddiadau’r adroddiad hwn helpu i lunio a llywio polisi ar lefel genedlaethol a lleol. Mae’n dangos i ni fod yn rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar fod yn garedig a thosturiol, yn empathetig, a chreu ymdeimlad o ddiogelwch – yn ogystal â chyfeirio ar gyfer y rhai sydd angen cymorth a gwasanaethau penodol.”
Drwy ddysgu mwy am brofiadau hanesyddol ffoaduriaid sy'n blant, mae'r ymchwilwyr yn gobeithio dylanwadu ar bolisïau ac arferion sydd ar waith ar hyn o bryd a llywio strategaethau arfaethedig sy'n cael eu datblygu er mwyn cefnogi ceiswyr noddfa ifanc heddiw.
Mae hwn yn obaith a leisiwyd gan lawer o'r ffoaduriaid a rannodd eu profiadau, fel Kurt Fuchel a ffodd i Loegr ar y Kindertransport yn 1938 o Fienna yn Awstria, ac yntau’n 7 oed.
Yn rhan o'i dystiolaeth dywedodd: “Y gobaith yw y bydd adrodd ein straeon a gweithredu ar eu sail yn helpu i sicrhau y bydd yna eneidiau caredig a chartrefi cynnes bob amser i groesawu plant sy'n ffoaduriaid, ym mha le bynnag y bydd hanes yn mynd â hwy.”