Ymchwil i fynediad a chynhwysiant anabledd ar reilffordd danddaearol Llundain
Dr Sam Mutter
17 Mehefin 2022
Mae’r rhwystrau a wynebir gan bobl gydag anableddau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd dinesig yn destun ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd y prosiect blwyddyn o hyd, a ariennir gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Deyrnas Gyfunol, yn edrych o’r newydd ar sut mae dyluniad gofodau trafnidiaeth yn effeithio ar eu cynhwysiant a’u hygyrchedd.
Mae’n adeiladu ar fodel cymdeithasol anabledd, sy’n pwysleisio rôl yr amgylchedd mewn achosi neu waethygu anabledd.
Bydd yr ymchwil yn edrych ar sut y gall dulliau symudol ac amlsynhwyraidd o sut mae pobl yn defnyddio ac yn ymwneud â rheilffordd danddaearol Llundain, a systemau trafnidiaeth drefol eraill, helpu i wella dealltwriaeth o hygyrchedd.
Mae'r dull hwn yn ystyried rhwystrau megis diffyg rampiau a lifftiau, ond hefyd elfennau dylunio manylach fel y defnydd o liw, sain, goleuo, gwahanol siapiau a theimlad, a llinellau golwg.
Yn aml, dim ond dros dro y deuir ar draws y manylion hyn, tra bod pobl yn symud, ond gallant effeithio’n fawr ar brofiad teithwyr.
Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried yr ystod eang o ffyrdd gwahanol, sydd weithiau'n gwrthdaro, o ddefnyddio gofodau trafnidiaeth. Yn ogystal â chludiant ei hun, mae'r rhain yn cynnwys rhyngweithio cymdeithasol, gwaith, hamdden, manwerthu a hysbysebu, sy'n gynyddol yn cynnwys hysbysebu digidol a thrwy brofiad.
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar sut mae’r nodweddion hynny’n llywio profiadau emosiynol a seicolegol o drafnidiaeth, a’u potensial i achosi teimladau o bryder ac allgau.
Meddai Dr Sam Mutter o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
"Mae'r anawsterau a wynebir gan rai grwpiau, megis y rhai â namau corfforol neu feddyliol, wrth ddefnyddio gofodau fel gorsafoedd trên tanddaearol yn sylweddol. Nid anawsterau corfforol yn unig yw’r rhain a dydyn nhw ddim yn digwydd wrth fynedfeydd neu ddrysau trên yn unig; cân nhw eu profi drwy amryfal synhwyrau ac emosiynau, ac wrth symud. Mae angen gwell dealltwriaeth o anghenion a gofynion pobl yn yr amgylcheddau hyn."
“Nod y prosiect yw archwilio effeithiau anwastad nodweddion dylunio amlsynhwyraidd ar gynhwysiant a hygyrchedd ar reilffordd danddaearol Llundain a rhwydweithiau eraill Trafnidiaeth Llundain. Mae'n dechrau o'r rhagdybiaeth ehangach bod y dulliau presennol o ddylunio hygyrch yn niwydiant trafnidiaeth y Deyrnas Gyfunol yn seiliedig ar ddehongliadau cul o hygyrchedd sy'n canolbwyntio'n bennaf ar wybodaeth weledol a rhwystrau corfforol. O ganlyniad, mae prosesau dylunio yn aml yn methu ag ystyried goblygiadau agweddau mwy cynnil, anweledol y gofodau y maen nhw’n helpu i’w cynhyrchu ar deithwyr anabl.”
Mae pandemig COVID-19 wedi newid perthynas llawer o bobl â thrafnidiaeth a bydd yr astudiaeth yn ystyried hyn ochr yn ochr ag effaith awtomeiddio cynyddol ar seilwaith trafnidiaeth.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar reilffordd danddaearol Llundain ond y gwersi sydd hefyd yn berthnasol i systemau trafnidiaeth ddinesig ar draws y byd.
Ychwanegodd Dr Mutter:
“Mae’r ymchwil yn mynd i edrych ar ehangu ein dealltwriaeth o hyn a materion hygyrchedd a chynhwysiant yn ehangach. Bydd COVID-19 ac awtomeiddio yn sicr yn cael eu hystyriaethau. Byddwn ni’n ystyried canolfannau trafnidiaeth fel mannau byw - sut mae pobl yn symud o’u cwmpas - a goblygiadau gwleidyddol a chymdeithasol hynny.”
Fel rhan o'r ymchwil, bydd ymgysylltu ag ystod eang o sefydliadau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys gweithdy yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol heddiw (17 Mehefin 2022) a fydd yn dod ag academyddion ynghyd ag ymarferwyr ym meysydd trafnidiaeth a llunwyr polisi i gyfnewid profiadau a syniadau.