Hwb i ymchwil i glefydau trofannol wrth i "arweinydd y dyfodol" ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Dr Gabriel Rinaldi.

Dr Gabriel Rinaldi.

15 Mehefin 2022

Mae astudiaeth fyd-arweiniol o glefydau trofannol sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael hwb sylweddol wrth i wyddonydd o fri rhyngwladol ymuno o Sefydliad Sanger Wellcome, Caergrawnt.

Mae Dr Gabriel Rinaldi, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi derbyn Cymrodoriaeth fawreddog Arweinwyr y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI). Bydd yn ymuno â'r brifysgol ym mis Awst i ymgymryd â'r gymrodoriaeth.

Mae'r wobr yn dathlu academyddion blaenllaw ar ddechrau eu gyrfa yn y DU ac yn rhoi cymorth iddynt barhau â'u hymchwil i broblemau mwyaf cymdeithas.

Bydd prosiect ymchwil uchelgeisiol Dr Rinaldi, a gynhelir dros y pedair blynedd nesaf, yn canolbwyntio ar gael gwell dealltwriaeth o fioleg sgistosomau llyngyr y gwaed, llyngyr lledog parasitig sy'n gyfrifol am glefyd trofannol o bwys sydd wedi’i esgeuluso hyd yma ac sy'n effeithio ar wledydd incwm isel a chanolig.

Mae Sgistosomiasis yn effeithio ar fwy na 250 miliwn o bobl y flwyddyn yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu yn y trofannau. Mae'n anodd amcangyfrif nifer y marwolaethau ond gall achosi niwed i'r iau, y coluddyn a'r llwybr wrinol/organau cenhedlu, yn ogystal â chael effaith andwyol ar ddatblygiad plant, gan gynnwys eu gallu i ddysgu.

Mae’r driniaeth yn dibynnu ar un cyffur ond mae arwyddion o ymwrthedd i’r cyffur hwnnw yn dechrau dod i'r amlwg. Mae hyn yn golygu bod angen dirfawr am strategaethau newydd i reoli'r clefyd.

Bydd ymchwil Dr Rinaldi yn canolbwyntio ar ddatblygiad cynnar y parasit mewn mamaliaid a'i fioleg rywiol unigryw. Drwy ddefnyddio dulliau bioleg foleciwlaidd arloesol, ei nod yw datgelu ffactorau allweddol sy'n gysylltiedig â datblygiad cynnar parasitiaid gwrywaidd a benywaidd a'u rhyngweithio â'r organeb letyol. Bydd hyn yn y pen draw yn datgelu gwendidau a fydd yn cael eu hecsbloetio gan strategaethau rheoli newydd, gan gynnwys cyffuriau a brechlynnau. 

Bydd Dr Rinaldi yn ychwanegu at y cryfderau presennol ym maes parasitoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfrannu at ymdrechion Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr i reoli parasitiaid sy'n gyfrifol am glefydau amaethyddol, milfeddygol a biofeddygol.

Dywedodd Dr Rinaldi: "Bydd y gymrodoriaeth nodedig hon yn fy ngalluogi i newid o fod yn wyddonydd yn gweithio o fewn tîm i fod yn arweinydd arloesol ar fy rhaglen fy hun yn astudio bioleg ddatblygiadol llyngyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae graddfa a hyd y gymrodoriaeth yn caniatáu ar gyfer prosiect ymchwil uchelgeisiol iawn, sy’n golygu y bydd modd datblygu trywyddau ymchwil newydd.

Bydd y cyfle hwn hefyd yn ehangu fy sylfeini proffesiynol ar gyfer cynnal rhaglen ymchwil hirdymor a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygiad y sgistosom, ei wahaniaethiad rhywiol anarferol ymhlith llyngyr lledog parasitig eraill a’r modd y mae’n rhyngweithio â'r organeb letyol."

Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Fonesig Ottoline Leyser: "Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn rhoi rhyddid a chefnogaeth hirdymor hael i ymchwilwyr ac arloeswyr i ddatblygu syniadau newydd arloesol, ac i symud ar draws ffiniau disgyblaethol a rhwng y byd academaidd a byd diwydiant.

"Mae'r cymrodyr a gyhoeddwyd heddiw yn enghreifftiau disglair o'r ymchwilwyr a'r arloeswyr dawnus o bob disgyblaeth a ddenwyd i ddatblygu eu syniadau mewn prifysgolion a busnesau ledled y DU, gyda'r potensial i ddarparu ymchwil drawsnewidiol a fydd yn cael effaith ar draws cymdeithas a'r economi."

Meddai Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr, Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn hynod falch bod Gabriel wedi llwyddo i gael y Gymrodoriaeth fawreddog hon gan UKRI ac rydym yn falch iawn o’i groesawu ef a'i dîm ymchwil i Aberystwyth. Bydd tîm Gabriel yn ymuno â chymuned ymchwil  sefydledig yn y Brifysgol sy’n ymchwilio i glefydau heintus, gan arwain at ehangu ein cyrhaeddiad a'n henw da yn y maes hwn yn rhyngwladol.

"Yn bwysig, bydd canlyniadau ymchwil Gabriel yn arwain at strategaethau newydd y mae angen dirfawr amdanynt i reoli sgistosomiasis mewn pobl sy'n byw yn rhai o'r cymunedau tlotaf o ran adnoddau ar y blaned. Mae'r ymchwil hwn yn hanfodol er mwyn cyflawni nod Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu sgistosomiasis yn ystod y degawd nesaf.

"Mae Gabriel mewn sefyllfa dda i ymateb i'r her hon yn uniongyrchol ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio gydag ef ar yr agenda rhyngwladol hwn."

Ychwanegodd Dr Iain Donnison, Pennaeth Adran - Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig: "Mae gwobr Dr Rinaldi yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'i ddawn enfawr yn ogystal â phwysigrwydd y prosiect ymchwil. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ymchwil sy'n arwain y byd ym maes parasitoleg, ac mae'r prosiect hwn yn tanlinellu pwysigrwydd gwaith o'r fath i fynd i'r afael ag effeithiau sgistosomiasis. Mae datblygu polisïau newydd i reoli clefydau a thrwy hynny leihau trosglwyddiad clefyd trofannol sydd wedi cael ei esgeuluso hyd yma, yn cynnig y potensial i sicrhau manteision sylweddol i gymdeithas."

Derbyniodd Dr Rinaldi ei radd MD mewn Meddygaeth Gyffredinol a PhD mewn Parasitoleg Foleciwlaidd o Brifysgol y Weriniaeth, Uruguay. Ar ôl hynny, bu'n gweithio fel Cymrawd Ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol George Washington ac yn fwyaf diweddar fel Uwch Wyddonydd Staff yn nhîm Genomeg Parasitiaid Sefydliad Sanger Wellcome.