Podlediad yn rhoi llais i ddioddefwyr hŷn cudd cam-drin domestig
15 Mehefin 2022
Mae’r actorion adnabyddus Tessa Peake-Jones (Only Fools and Horses), Maggie Ollerenshaw (Open All Hours), Siobhan Redmond (Taggart), a Peter Guinness (Tom Clancy’s Jack Ryan) yn rhoi llais newydd i ddioddefwyr hŷn sy'n goroesi cam-drin domestig, diolch i waith gan Brifysgol Aberystwyth.
Gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd Christian Gordine mae Dewis Choice, menter ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cynhyrchu podlediad newydd, Out of Sight, sy'n archwilio profiadau byw'r grŵp hwn sy'n aml yn guddiedig a heb wrandawiad mewn cymdeithas.
Yn seiliedig ar ymchwil gan y Fenter Dewis Choice, mae'r podlediad yn portreadu bywydau dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi cam-drin domestig, gan gynnwys pobl LHDTC+ a’r rhai sy'n byw gydag anabledd. Mae'r podlediad wedi cael ei gyllido gan y Moondance Foundation a'i nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu pobl am gam-drin domestig yn hwyrach mewn bywyd.
Dywed Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd Dewis Choice, sydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol: "Mae cam-drin domestig eisoes wedi'i guddio. Fodd bynnag, pan fydd dioddefwyr camdriniaeth yn 60 oed ac yn hŷn, maent yn dod yn anweledig. Ychydig iawn sy’n hysbys am brofiadau dioddefwyr hŷn sy’n goroesi cam-drin domestig, ond caiff hyn ei helaethu gan ddiffyg adrodd yn y cyfryngau ffrwd eang, darpariaethau gwasanaeth arbenigol annigonol, sylw cyfyngedig i bolisi a rhagfarn oed ddiwylliannol o fewn y gymuned ehangach."
Ychwanegodd Rebecca Zerk, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol: "Mae ein dealltwriaeth ddiwylliannol, wleidyddol a thros dro o gam-drin domestig yn canolbwyntio'n bennaf ar y syniad bod dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn bennaf yn fenywod gwyn, iau mewn perthynas heterorywiol. Er bod hyn yn wir, nid yw'n gadael llawer o le i unrhyw un sydd y tu allan i'r ddemograffig hon. Roeddem eisiau creu podlediad yn seiliedig ar ein hymchwil a'n cyfoeth o wybodaeth a allai helpu i gyfrannu at gydnabod pobl hŷn fel dioddefwyr posibl cam-drin domestig."
Caiff y podlediad Out of Sight ei ryddhau i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd (15 Mehefin) a Mis Pride (Mehefin).
Ychwanegodd Sarah Wydall: "Gobeithiwn y bydd Out of Sight yn dechrau sgwrs y mae mawr ei hangen am yr angen i greu mannau i bobl hŷn o bob cefndir gael rhannu ac adrodd eu straeon, ac i ystyried a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cudd sy'n wynebu rhai pobl LHDTC+ hŷn. Pan fyddwn yn anwybyddu profiadau a phroblemau pobl hŷn, rydym yn y pen draw yn creu hinsawdd lle na allwn, neu yn hytrach lle nad ydym yn siarad am bobl hŷn yng nghyd-destun cam-drin domestig."
Mae Dewis Choice wedi'i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Caiff ei harwain gan Sarah Wydall, sy'n gweithio gyda'r Cyd-ymchwilwyr Rebecca Zerk ac Elize Freeman. Ers 2015, mae Dewis Choice wedi siarad â thros 1,700 o bobl hŷn ac wedi codi ymwybyddiaeth gyda bron i 20,000 o ymarferwyr ac aelodau cyhoeddus.
Mae’r podlediad Out of Sight ar gael am http://outofsightpodcast.co.uk