Ethol Athro Hanes yr Oesoedd Canol yn Llywydd y Gymdeithas Hanes Economaidd
Yr Athro Phillipp Schofield
14 Mehefin 2022
Mae Phillipp Schofield, Athro Hanes yr Oesoedd Canol a Phennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas Hanes Economaidd.
Sefydlwyd y Gymdeithas Hanes Economaidd yn 1926, a hi yw'r brif gymdeithas ddysgedig ar gyfer hanes economaidd a chymdeithasol.
Ei phrif ddiben yw cefnogi ymchwil ac addysgu ym meysydd hanes economaidd a chymdeithasol.
Mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi The Economic History Review: aJournal of Economic and Social History, un o’r cyfnodolion gwyddor gymdeithasol a hanes uchaf ei fri yn y byd.
Mae'r gymdeithas hefyd yn cynnal cynhadledd ryngwladol nodedig bob blwyddyn, gan noddi amrywiaeth o gyhoeddiadau ysgolheigaidd, hyrwyddo hanes economaidd a chymdeithasol mewn ysgolion, darparu cymrodoriaethau ôl-ddoethurol a hyrwyddo’r rhan a chwaraeir gan fenywod yn y maes.
Gan weithio ochr yn ochr â chymdeithasau a chyrff proffesiynol eraill, mae'r Gymdeithas hefyd yn gweithredu fel carfan bwyso i ddylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth er budd hanes.
Bydd yr Athro Phillipp Schofield yn gwasanaethu fel Llywydd y Gymdeithas Hanes Economaidd am gyfnod o dair blynedd, ar ôl cael ei ethol ym mis Ebrill 2022.
Dywedodd yr Athro Schofield: "Mae'n anrhydedd fy mod wedi cael fy newis gan fy nghyd-academyddion i arwain y gymdeithas bwysig hon ac i helpu i weithredu ei strategaeth a'i pholisïau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r swydd i hyrwyddo astudio hanes economaidd ac i gefnogi'r maes pwysig hwn."
Yr Athro Phillipp Schofield
Mae’r Athro Phillipp Schofield yn Athro Hanes yr Oesoedd Canol ac ef yw Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbyniodd ei D.Phil. o Brifysgol Rhydychen ym 1992, ar ôl cwblhau ei radd mewn Hanes Hynafol a Chanoloesol yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar economi amaethyddol yr oesoedd canol, gyda phwyslais penodol ar werin Lloegr. Mae ei brosiectau presennol yn cynnwys ymchwilio i'r ymateb i brinder a newyn yn Lloegr yn yr oesoedd canol ac ymgyfreitha dros ddyled mewn plediadau rhyngbersonol mewn llysoedd maenorol. Ef oedd golygydd yr Economic History Review rhwng 2011 a 2017.