'Trwy lygaid dioddefwyr-oroeswyr hŷn' Sut y gall realiti rhithwir wella ymatebion ymarferwyr i drawma
Chwith i’r dde: Andra Jones, Adran Cyfrifiadureg am Prifysgol Aberystwyth; Y Ditectif Prif Arolygydd Richard Yelland, Heddlu Dyfed-Powys; Sarah Wydall, Dewis am Prifysgol Aberystwyth; Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys; Rebecca Zerk, Dewis am Prifysgol Aberystwyth; Dr Helen Miles, Adran Cyfrifiadureg am Prifysgol Aberystwyth.
13 Mehefin 2022
Mae swyddogion yr heddlu ac arbenigwyr ym maes cam-drin domestig ac iechyd wedi bod yn defnyddio'r dechnoleg realiti rhithwir ddiweddaraf i brofi’n union sut y gall pobl deimlo wrth ddatgelu trais a cham-drin, diolch i ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Dr Helen Miles ac Andra Jones o'r Adran Cyfrifiadureg, sy'n arbenigo mewn amgylcheddau rhithwir a realiti rhithwir, wedi ymuno â Rebecca Zerk, Sarah Wydall ac Elize Freeman o'r Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol i greu prototeip o offeryn hyfforddi arloesol, diolch i ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
"Bydd llawer o bobl yn meddwl am realiti rhithwir fel math o adloniant", meddai Helen Miles, y Prif Ymchwilydd, "ond mae'r potensial gymaint yn fwy na hynny: mae'r dechnoleg hon yn cynnig ffordd unigryw i weld y byd trwy lygaid rhywun arall, gan ganiatáu i ni brofi sefyllfaoedd na fyddwn byth yn eu profi yn go iawn."
Ariannwyd y peilot, o’r enw ‘Through their eyes: The virtual help-seeking experience of an older victim-survivor of domestic abuse’, gan Lywodraeth Cymru trwy brosiect Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru.
Bu’r tîm yn gweithio gyda dioddefwyr-oroeswyr hŷn, a phartneriaid o Rwydwaith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Canolbarth a Gorllewin Cymru (VAWDASV) a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i gyd-ddatblygu'r prototeip o’r profiad realiti rhithwir fel offeryn hyfforddi i alluogi partneriaid i weld pethau o safbwynt menyw hŷn sy’n datgelu iddi ddioddef trais a cham-drin domestig.
Sarah Wydall yw’r Prif Ymchwilydd ar Dewis Choice, sydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae Sarah yn esbonio: "Drwy'r penset Realiti Rhithwir, roedd modd i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn sefyllfa rithwir yn dangos ymateb cychwynnol yr heddlu yng nghartref dioddefwr-oroeswr hŷn sydd wedi dioddef trais a cham-drin domestig.
"Ar wahanol adegau yn ystod y sefyllfa, gwahoddwyd y gwyliwr i wneud dewis ynglŷn â chyfeiriad yr opsiynau cymorth a diogelu a gyflwynwyd. Byddai'r ymateb a ddewisent yn arwain at un o wyth gwahanol drywydd a chanlyniad posibl".
Ychwanegodd Rebecca Zerk y cyd-ymchwilydd: "Trwy hyn, dangosodd y profiad Realiti Rhithwir i’r cyfranogwyr sut y gall eu hymddygiad a'r modd y maent yn ymateb i rywun sy'n datgelu iddynt ddioddef trais a cham-drin domestig ddylanwadu ar natur, cyfeiriad a chanlyniad gwahanol gamau’r daith o geisio cymorth.”
Fel rhan o'r astudiaeth beilot, bu tri ar ddeg o ymarferwyr, gan gynnwys swyddogion yr heddlu ac arbenigwyr blaenllaw ym maes cam-drin domestig, yn cloriannu effaith y profiad Realiti Rhithwir hwn er mwyn rhannu eu safbwyntiau ynghylch a oedd yn cynyddu empathi a sensitifrwydd i ddioddefwyr-oroeswyr, ac i nodi cyfleoedd i’w ddatblygu.
Mae Rebecca Zerk yn parhau: "Rydym yn gwybod bod gan Realiti Rhithwir y potensial i ennyn teimladau dyfnach o empathi, ac roedd ymateb yr ymarferwyr a gloriannodd y defnydd ohono fel offeryn hyfforddi yn gadarnhaol. Tynnwyd sylw at lefel y realaeth a'r buddsoddiad emosiynol yn y sefyllfa a bortreadwyd, ac effaith fuddiol y dull Realiti Rhithwir fel adnodd addysgegol."
Un o'r partneriaid ar y prosiect oedd y Ditectif Brif Arolygydd Richard Yelland o Heddlu Dyfed Powys, a ddywedodd: "Mae hyfforddiant traddodiadol yr heddlu wedi bod yn llwyddiannus ers blynyddoedd lawer wrth ddarparu’r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen ar swyddogion rheng flaen i ymateb i ddigwyddiadau cam-drin domestig. Ond nid yw’r dull traddodiadol hwn yn llwyddo i roi ymdeimlad gwirioneddol o ymdrin â dioddefwr i recriwtiaid newydd, nac yn darparu’r wybodaeth i swyddogion mwy profiadol i’w galluogi i oresgyn dulliau arferol y swydd ac ailsefydlu empathi â’r dioddefwr.
"Rhoddodd yr offeryn hyfforddi Realiti Rhithwir brofiad i mi nad wyf wedi'i deimlo o’r blaen yn ystod fy 21 mlynedd yn gweithio ym maes plismona. Roedd y ddyfais yn syml i'w defnyddio ac roeddwn yn teimlo fy mod yn rhan wirioneddol o’r sefyllfa. Roedd gallu gweld trwy lygaid goroeswr wir yn herio fy mhrofiad helaeth o ymdrin ag achosion o gam-drin domestig. Bydd rhaid manteisio ar y dechnoleg hon wrth hyfforddi heddlu yn y dyfodol."
Un arall o bartneriaid y prosiect oedd arweinydd rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Natalie Hancock, a deimlai bod defnyddio Realiti Rhithwir yn flaengar ac yn arloesol, ac yn cynnig dewis amgen effeithiol yn lle dulliau traddodiadol megis astudiaethau achos a thechnegau hyfforddi ‘chwarae rôl’: "Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael defnyddio'r offeryn – fy nhro cyntaf yn defnyddio technoleg Realiti Rhithwir - ac fe’i cefais yn syml iawn i'w ddefnyddio ac roedd pob un o’r safbwyntiau yn hynod ddefnyddiol. Mae hyn yn caniatáu cryn hyblygrwydd wrth ddefnyddio’r offeryn, a gellir ei anelu at weithwyr proffesiynol a chanddynt amrywiol lefelau o brofiad a swyddogaethau mewn ymateb i Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
"Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i herio ymarferwyr sydd o bosib wedi colli empathi ac wedi’u disensiteiddio i brofiad dioddefwyr. Mae'r offeryn hwn yn caniatáu i unigolion brofi dulliau ymarferwyr o safbwyntiau eraill, a thrwy hynny fyfyrio ar eu harferion presennol."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'r prosiect arloesol hwn gan Brifysgol Aberystwyth yn dangos cymaint o effaith y gall ymchwil addysg uwch ei chael ar fywydau pobl. Rwy'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru trwy Gyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA) wedi helpu i wireddu hyn."
Yn sgil yr astudiaeth beilot lwyddiannus, mae tîm y prosiect yn gobeithio sicrhau cyllid pellach i gynnal astudiaeth ar raddfa fwy ar y defnydd o dechnoleg Realiti Rhithwir i gynorthwyo ymarferwyr i ddeall yn well a chynorthwyo’r rhai sy’n ceisio cymorth oherwydd trais a cham-drin domestig.
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn rhoi cynnig ar y prototeip o’r profiad Realiti Rhithwir 'Through their eyes' yn ystod ei ymweliad â'r Prosiect Dewis/Choice