Myfyrwyr yn ennill taith i ŵyl ffilmiau yn Efrog Newydd

Chwith i’r dde: Hayley Goddard, Rheolwr Cyswllt Alumni ym Prifysgol Aberystwyth; Dr Kate Woodward, Darlithydd Mewn Astudiaethau Ffilm ym Prifysgol Aberystwyth; myfyrwyr Molly Clarke, Sam Aitken, Tayjib Kerstan, a Tom Bow; a Dr Greg Bevan, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Ffilm ym Prifysgol Aberystwyth

Chwith i’r dde: Hayley Goddard, Rheolwr Cyswllt Alumni ym Prifysgol Aberystwyth; Dr Kate Woodward, Darlithydd Mewn Astudiaethau Ffilm ym Prifysgol Aberystwyth; myfyrwyr Molly Clarke, Sam Aitken, Tayjib Kerstan, a Tom Bow; a Dr Greg Bevan, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Ffilm ym Prifysgol Aberystwyth

07 Mehefin 2022

Mae pedwar myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn cael cyfle i fynychu un o brif wyliau ffilm y byd.

Bu Sam Aitken, Tom Bow, Molly Clarke a Tayjib Kerstan yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i ennill ymweliad pedwar diwrnod â Gŵyl Tribeca Efrog Newydd a gynhelir rhwng 8 a 19 Mehefin 2022.

Caiff y daith ei chyllido gan gyfraniadau hael i Gronfa Aber, y rhaglen roddi i alumni, rhieni, staff a chyfeillion y Brifysgol, er mwyn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i brosiectau sy'n cyfoethogi profiad a datblygiad myfyrwyr.

Bydd y myfyrwyr yn cael teithiau awyren i Efrog Newydd ac yn ôl, llety, a thocyn cynrychiolydd gŵyl sy'n rhoi mynediad iddynt i ddangosiadau, digwyddiadau, lolfeydd gwneuthurwyr ffilmiau ac ardaloedd VIP.

Dyma'r bumed flwyddyn y mae myfyrwyr o'r Brifysgol wedi gallu mynychu Gŵyl fawreddog Tribeca, a sefydlwyd gan Robert De Niro a Jane Rosenthal yn 2002 i helpu i adfywio Manhattan yn dilyn yr ymosodiadau ar 9/11.

Ers dau ddegawd mae'r ŵyl wedi bod yn gyrchfan ar gyfer gwaith newydd gan wneuthurwyr ffilmiau sefydledig yn ogystal â chrewyr sy'n dod i'r amlwg.

Bydd yr ŵyl eleni yn parhau â'i thraddodiad hir o archwilio datblygiadau arloesol mewn adrodd straeon drwy gyfrwng ffilmiau, teledu, realiti rhithwir, gemau, podlediadau a mwy.  Bydd rhaglen yr ŵyl yn arddangos 110 o ffilmiau hir a 15 o ffilmiau ar-lein gan 150 o wneuthurwyr ffilmiau ar draws 40 o wledydd.

Mae Tom Bow, cyn-ddisgybl o Ysgol Henry Richard yn Nhregaron, bellach yn ei ail flwyddyn yn astudio gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sinematograffeg: "Mae cael y cyfle i fynd i Tribeca yn anhygoel - dwi'n teimlo’n lwcus dros ben. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud cysylltiadau a bod ymysg pobl sydd â’r un diddordebau â mi, a hefyd i weld ffilmiau am y tro cyntaf a hynny yn Efrog Newydd ei hun, lle mae llawer o'r ffilmiau rwy'n eu caru wedi'u gosod."

Mae gan y myfyriwr Gwneud Ffilmiau sydd yn ei flwyddyn olaf, Tayjib Kerstan, o Hanover yn yr Almaen, ddiddordeb arbennig mewn ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer ffilm naratif.  Meddai: "Mynd i Tribeca yw'r cyfle mwyaf i mi ei gael hyd yn hyn. Bydd cymaint o storïwyr ac artistiaid anhygoel o bob cwr o'r byd yno, a gallaf ddysgu llawer ganddynt a gwneud cysylltiadau newydd â phobl o'r un anian. Nid wyf erioed wedi teithio y tu allan i Ewrop, felly bydd hynny yn ei hun yn brofiad gwych! Rwy'n edrych ymlaen at y ffilmiau 'Hommage' a 'Corner Office', yn ogystal â dosbarth meistr gyda Pharrell Williams. Mae Tribeca yn cynnig rhaglen anhygoel ar gyfer cyfryngau eraill megis realiti rhithwir/realiti estynedig, Sinema Ryngweithiol a Gemau, ac rwy'n edrych ymlaen at archwilio'r rheini hefyd."

Mae Molly Clarke, myfyriwr ail flwyddyn o Aberporth yng Ngheredigion, yn mwynhau cydweithio ar brosiectau creadigol yn ystod ei chwrs Astudiaethau Ffilm a Theledu, ac mae'n gobeithio mynd i gyfarwyddo ar ôl graddio:  "Rwyf wrth fy modd fy mod yn mynd i Tribeca, alla i ddim credu'r peth. Y posibilrwydd o gael y cyfle i fynd yno oedd un o'r prif atyniadau i ddod i Brifysgol Aberystwyth. Mae cymaint o bethau rwy'n edrych ymlaen atynt yn yr ŵyl, ond rwy'n arbennig o gynhyrfus am y cyfle i fod ymhlith gwneuthurwyr ffilmiau a chyfarwyddwyr llwyddiannus a fydd yn ysbrydoledig iawn ac yn anogaeth anhygoel i mi fel gwneuthurwr ffilmiau."

Dywedodd Sam Aitken, myfyriwr o Dywyn sydd yn ei flwyddyn olaf yn astudio Ffilm a Theledu: “Mae mynd i ŵyl Tribeca yn mynd i fod yn brofiad gwych, ac rwy'n hynod ddiolchgar fy mod yn cael y cyfle i fynd ac i fod yn rhan o'r ŵyl ffilmiau anhygoel hon. Rwy'n edrych ymlaen at fod yng nghanol gwneuthurwyr ffilmiau a gallu sgwrsio â nhw. Dwi'n gwybod pa mor fawr yw'r ŵyl, ond dwi ddim yn meddwl y bydda i'n llawn werthfawrogi hynny nes fy mod i yno a’n bod ni’n penderfynu pa ffilmiau neu sgyrsiau i'w gweld." 

Mae Dr Greg Bevan a Dr Kate Woodward sy'n addysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi cael eu noddi gan yr adran i fynd gyda'r myfyrwyr i Tribeca.

Dywedodd Dr Bevan, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Ffilm: "Llongyfarchiadau i'r pedwar myfyriwr ar ennill yr ymweliad hwn â Gŵyl fyd-enwog Tribeca.  Mae ein perthynas unigryw â'r ŵyl yn deillio o angerdd ac ymrwymiad un o'n graddedigion ein hunain, Ben Thompson, sydd bellach yn Rhaglennydd Ffilmiau Byr yn Tribeca. Diolch i haelioni cymuned cyn-fyfyrwyr y Brifysgol, mae’n wych ein bod yn gallu cynnig y cyfle anhygoel hwn i'n myfyrwyr ymwneud â rhai o'r bobl mwyaf dylanwadol ym myd ffilm a sinema, ac elwa o'r cyfleoedd dysgu niferus a ddaw yn ei sgil." 

Dywedodd Dr Woodward, Darlithydd Mewn Astudiaethau Ffilm: "Mae'r ymweliad hwn yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr weld sêr enwog a chwrdd â phobl hynod o greadigol. Ar yr un pryd cânt gyfle i wylio dangosiadau o ffilmiau newydd a mynychu dosbarthiadau meistr. Bydd cyfle iddynt hefyd ymwneud a rhwydweithio â gwneuthurwyr ffilmiau ifanc eraill a thrafod eu gwaith. Mae mynychu'r ŵyl yn trawsnewid y ffordd y mae'r myfyrwyr yn ystyried eu hunain, ac yn eu helpu i symud o ystyried eu hunain fel myfyrwyr, i ystyried eu hunain fel gwneuthurwyr ffilmiau, cyfarwyddwyr a sgriptwyr."

Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar rai golygfeydd cyfarwydd yn ystod yr ŵyl yn Efrog Newydd. Un o'r ffilmiau byrion a fydd yn cael eu dangos yng Ngŵyl Tribeca eleni yw Heart Valley. Wedi'i chyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau a'r ffotograffydd dogfennol o Lundain, Christian Cargill, mae'r ffilm fer yn dilyn diwrnod ym mywyd Wilf Davies, bugail o bentref bach Cellan yng Ngheredigion.

Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig addysgu arbenigol ym maes gwneud ffilmiau dogfennol, gwneud ffilmiau ffuglen, gwneud ffilmiau arbrofol, cynhyrchu aml-lwyfan, cynhyrchu stiwdio a sgriptio, yn ogystal â sinema gelf, sinema arswyd a chwlt, Hollywood, astudiaethau rhyw, estheteg teledu, diwylliannau digidol, a gemau fideo.