Piano coch Aber ar faes Eisteddfod yr Urdd

Coch, nid gwyn, fydd lliw'r piano ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod yr Urdd Dinbych

Coch, nid gwyn, fydd lliw'r piano ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod yr Urdd Dinbych

25 Mai 2022

Mi fydd cystadleuwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn gallu trefnu amser ar biano coch newydd Prifysgol Aberystwyth yr wythnos nesaf, cyn perfformio ar lwyfan yr ŵyl.

Mi fydd y piano ar stondin y Brifysgol, drws nesaf i Bafiliwn Gwyrdd yr Eisteddfod, ac ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer ymarferion rhwng 8:30 y bore a 6 yr hwyr yn ystod yr wythnos.

Dyma’r drydedd flwyddyn i Brifysgol Aberystwyth gynnig gofod ymarfer ar y maes, datblygiad sydd wedi bod yn eithriadol boblogaidd ymysg cystadleuwyr sydd eisiau ychydig o ymarfer munud olaf.

Bu’r Brifysgol yn un o brif noddwyr Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd lawer, trefniant sydd yn parhau eleni wrth iddi noddi un o’r tri phrif bafiliwn perfformio ar y maes, y Pafiliwn Gwyrdd.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Heb os mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau’r calendr ac yn gyfle penigamp i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant. Mae’n wych ei gweld yn dychwelyd at ei phererindod o deithio o amgylch Cymru wedi absenoldeb o dair blynedd oherwydd COVID. Ers canrif mae’r Urdd wedi cynnig llwyfan amhrisiadwy i genedlaethau o bobl ifanc. Bu’n destun balchder arbennig i gydweithio gyda’r Urdd ar y Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni ac, fel Prifysgol sydd yn paratoi i ddathlu ei 150 mlwyddiant, mae’n bleser gennym fod yn un o brif noddwyr prif ŵyl ieuenctid Cymru.”

Gellir trefnu amser ymarfer ar y piano coch, hyd at chwarter awr ar y tro, drwy ffonio 07976 896889 neu e-bostio digwyddiadau@aber.ac.uk.

Yn ogystal â gofod ymarfer, mi fydd aelodau o dîm marchnata’r Brifysgol ar y stondin drwy gydol yr wythnos i roi cyngor ar wneud cais i brifysgol a’r dewis helaeth o gyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ac, wrth gwrs, mi fydd cyfle i ddilyn rhai o brif seremonïau’r wythnos ar sgrin fawr y stondin.

Tu hwnt i’r stondin a’r Pafiliwn Gwyrdd, mae’r Brifysgol hefyd yn cefnogi Ardal Chwaraeon yr Eisteddfod, fel rhan o fenter hirdymor yr Urdd i hyrwyddo darpariaeth chwaraeon a datblygu talent newydd ar draws Cymru.