Myfyrwyr Aberystwyth yn mynd â neges heddwch yr Urdd i Sefydliad Nobel

18 Mai 2022

Mae myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn Sefydliad Nobel yn Norwy heddiw, ddydd Mercher 18 Mai ar gyfer cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru.

Thema’r neges yw’r argyfwng hinsawdd. Cafodd ei llunio gyda chymorth myfywyr o Brifysgol Aberystwyth yn ystod cyfres o weithdai gyda siaradwyr gwadd o fudiadau megis Cyfeillion y Ddaear a Force of Nature, tua diwedd 2021.

Fel rhan o’r gwaith, bu’r myfyrwyr yn trafod eu pryderon a’u cwynion ynghylch yr argyfwng hinsawdd a chafwyd cyfle i drafod syniadau gyda myfyrwyr o Brifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy.

Yn dilyn y gweithdai aeth y myfyrwyr ati i recordio cyfres o addewidion argyfwng hinsawdd personol, sy’n cynnwys teithio llai, prynu cynnyrch lleol, gwneud defnydd mwy darbodus o golur ac osgoi ffasiwn cyflym, ac ymgyrchu dros faterion amgylcheddol. Mae'r addewidion unigol i'w gweld yma.

Mae’r neges Heddwch ac Ewyllys Da ar ffurff ffilm fer ac ar gael mewn 100 o ieithoedd, gan adlewyrchu’r ffaith fod yr Urdd yn dathliau ei gan mlwyddiant eleni.

Mae’r neges wedi ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd ac mae gwahoddiad i bawb ei rhannu gan ddefnyddio’r hashnod #Heddwch100.

Fel rhan o’r cyhoeddi cynhelir derbyniad yn Sefydliad Nobel yn Norwy yng nghwmni myfyrwyr o Aberystwyth a Phrifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy, Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Neges Ganmlwyddiant Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd a rôl ganolog ein myfyrwyr yma yn Aberystwyth yn ei datblygu hi.

“Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’n planed, ac mae ymroddiad personol ein myfyrwyr i leihau eu hôl-droed carbon yn destun ysbrydoliaeth i ni i gyd. Mae eu neges hefyd yn adlewyrchu traddodiad balch o ragoriaeth ymchwil ac addysgu yma yn Aberystwyth mewn meysydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys datblygu atebion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a datblygu ffynonellau bwyd hanfodol sy'n gallu gwrthsefyll ei effeithiau.

“Mae ein hymrwymiad yn ymestyn i’n gweithgareddau ein hunain hefyd, wrth i ni weithio tuag at ystâd ddi-garbon erbyn 2030.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: “Canolfan Heddwch Nobel yw'r lleoliad delfrydol i'r Urdd rannu neges heddwch y canmlwyddiant gyda'r byd.

"Ar adeg pan fo heddwch y byd mewn cymaint o berygl, nid yw'r neges, na gwaith yr Urdd wrth groesawu ffoaduriaid i Gymru erioed wedi bod yn fwy arwyddocaol.

"Bydd thema'r argyfwng hinsawdd hefyd yn taro tant gyda phobl ifanc o bob cwr o'r byd wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddiogelu'r blaned fregus hon".

Cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyntaf yr Urdd ei chyhoeddi ar y 18fed o Fai 1922, ac mae wedi ei chyhoeddi bob blwyddyn ers hynny.  

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae rhannu neges heddwch yr Urdd yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn addas iawn ar gyfer neges heddwch sy’n gan mlynedd oed ac mae bod mewn lle mor arwyddocaol yn rhoi’r llwyfan y mae llais ieuenctid Cymru yn ei haeddu mewn gwirionedd i gael ei glywed ledled y byd.

“Fel sefydliad, mae gennym ddyletswydd i’r genhedlaeth nesaf i ddefnyddio’r llwyfan hwn i gryfhau eu lleisiau, oherwydd mae rhoi llais i bobl ifanc Cymru yn ganolog i holl weithgareddau’r Urdd. Ni allwn anwybyddu nac oedi’r argyfwng hinsawdd, ac er lles ein plant a phlant ein plant, rhaid i bawb weithredu nawr, mae hi wirioneddol yn ‘amser deffro’.”