Mae gwlyptiroedd arfordirol y Ddaear yn diflannu - ymchwil mapiau newydd
Credyd llun: Catherine Lovelock, Recriwtio Mangrove i fflat llanw, Bae Mangrove, Ningaloo, Gorllewin Awstralia
13 Mai 2022
Mae pedair mil o gilometrau sgwâr o wlyptiroedd llanw’r byd wedi’u colli dros ugain mlynedd, ond mae adfer ecosystemau a phrosesau naturiol yn helpu i leihau colledion yn gyfan gwbl, yn ôl ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.
Mae dadansoddiad grŵp rhyngwladol o fwy na miliwn o ddelweddau lloeren yn dangos bod newid byd-eang a gweithredoedd dynol yn sbarduno newidiadau cyflym mewn gwlyptiroedd llanw.
Mae'r data newid rhynglanwol byd-eang yn dangos bod y 13,700 cilomedr sgwâr o wlyptiroedd llanw - corsydd llanw, mangrofau a fflatiau llanw - sydd wedi'u colli ledled y byd, wedi'i wrthbwyso gan enillion o 9,700 cilomedr sgwâr. O ganlyniad, roedd colled net o 4,000 cilomedr sgwâr dros y cyfnod o ddau ddegawd, rhwng 1999 a 2019.
Mae dros biliwn o bobl bellach yn byw mewn ardaloedd arfordirol lefel isel, ac mewn perygl o ganlyniad i golli’r gwlyptiroedd hyn, gan gynnwys drwy ymyrraeth â gwasanaethau’r ecosystem, megis bioamrywiaeth a diogelu arfordiroedd.
Dywedodd yr Athro Richard Lucas o Brifysgol Aberystwyth, a fu’n rhan o’r prosiect:
“Mae gwlyptiroedd llanw o bwysigrwydd aruthrol i ddynoliaeth, gan ddarparu buddion megis dal a storio carbon, amddiffyn yr arfordir, a gwella pysgodfeydd. Mae monitro ar raddfa fyd-eang bellach yn hanfodol os ydym am reoli newidiadau mewn amgylcheddau arfordirol yn effeithiol.”
“Mae ymdrechion i amcangyfrif statws presennol a dyfodol gwlyptiroedd llanw ar raddfa fyd-eang yn cael eu llesteirio gan ansicrwydd ynghylch sut y maent yn ymateb i’r ffactorau sy’n achosi newid. Ynghyd â chydweithwyr yn Awstralia, roeddem am fynd i’r afael â hynny a darparu sail ar gyfer gwarchod ecosystemau arfordirol. I wneud hyn, cynhaliwyd dadansoddiad peiriant-ddysgu o archifau helaeth o ddelweddau lloeren hanesyddol i ganfod maint, amseriad a math y newid ar draws gwlyptiroedd llanw’r byd rhwng 1999 a 2019.”
“Darganfyddodd y dadansoddiad fod 27 y cant o golledion ac enillion yn gysylltiedig â gweithgareddau dynol uniongyrchol, megis newid defnydd tir i amaethu ac adfer gwlyptiroedd coll. Daethon ni i’r casgliad bod yr holl newidiadau eraill yn ganlyniad i ffactorau anuniongyrchol megis effeithiau dynol ar ddalgylchoedd afonydd, datblygiad helaeth mewn parthau arfordirol, ymsuddiant arfordirol, prosesau arfordirol naturiol a newid hinsawdd.”
Digwyddodd tua thri chwarter y gostyngiad byd-eang net mewn gwlyptir llanw yn Asia, gyda bron i 70 y cant o'r cyfanswm hwnnw yn Indonesia, Tsieina a Myanmar.
Arweiniodd Dr Nicholas Murray, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol James Cook yn Awstralia, yr astudiaeth. Ychwanegodd:
“Asia yw canolbwynt byd-eang o ran colli gwlyptir llanw o ganlyniad i weithgareddau dynol uniongyrchol. Roedd gan y gweithgareddau hyn rôl lai yn y colledion o wlyptiroedd llanw yn Ewrop, Affrica, America ac Ynysoedd y De, lle'r oedd newidiadau i wlyptiroedd arfordirol yn cael eu hachosi’n bennaf gan ffactorau anuniongyrchol megis gwlyptiroedd yn symud, addasiadau arfordirol a newid dalgylchoedd.”
Canfu'r gwyddonwyr fod bron i dri chwarter o golledion gwlyptiroedd llanw yn fyd-eang wedi'i wrthbwyso gan sefydlu gwlyptiroedd llanw newydd mewn ardaloedd lle nad oeddent yn bresennol yn flaenorol - gydag ehangu nodedig yn y Ganges a deltas Amazon.
Ychwanegodd Dr Murray:
“Cafodd y rhan fwyaf o ardaloedd newydd o wlyptiroedd llanw eu creu o ganlyniad i ffactorau anuniongyrchol. Mae hynny’n amlygu’r rôl amlwg sydd gan brosesau arfordirol eang o ran cynnal maint y gwlyptiroedd llanw a hwyluso adferiad naturiol. Mae’r canfyddiad hwn yn dangos bod angen i ni ganiatáu i wlyptiroedd arfordirol symud yn y dyfodol mewn ymateb i newid byd-eang cyflym.”