Cyflogau teg i awduron yng Nghymru yn destun arolwg newydd
Logo Prifysgol Aberystwyth a Llenyddiaeth Cymru
09 Mai 2022
Bydd gwneud cyflogau awduron yn decach a sefydlu meincnodau ar gyfer gwahanol fathau o incwm awduron yn rhan o astudiaeth newydd gan Brifysgol Aberystwyth.
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Aberystwyth yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth genedlaethol newydd i edrych ar enillion awduron sy’n gweithio yng Nghymru.
Mae’r sefydliad llenyddol yn gweithio i sicrhau bod awduron Cymraeg a Saesneg yn cael cyflog teg am eu gwaith - o ddigwyddiadau a chomisiynau i weithdai a pherfformiadau.
Fodd bynnag, oherwydd diffyg data, mae’n cyhoeddi arolwg sy’n agored i unrhyw awdur sy’n gweithio yng Nghymru. Gofynnir iddynt am eu gwaith gan gynnwys incwm ysgrifennu, y ffordd y cawsant eu cyhoeddi, a pha gyfran o'u hincwm sy'n deillio o ddigwyddiadau.
Bydd awduron hefyd yn cael eu holi am eu defnydd o dechnoleg a rhwydweithiau, yn ogystal ag effeithiau COVID-19 ar eu gwaith.
Yna, bydd panel o 30 awduron cynrychioliadol yn cymryd rhan mewn cyfweliadau cynhwysfawr un-i-un gydag academyddion yn Ysgol Busnes Aberystwyth er mwyn canfod rhagor o wybodaeth am eu profiadau.
Bydd ymchwilwyr o'r adran yn cyfweld, ar wahân, â 15 o sefydliadau comisiynu i ddarganfod sut maen nhw'n cyfrifo faint maen nhw'n talu awduron am wahanol dasgau.
Bydd canlyniadau’r holiadur yn cael eu defnyddio i ddeall cyfraddau cyflog presennol awduron yng Nghymru a phennu sut maen nhw’n amrywio yn ôl lefel profiad, iaith, ffurf yr ysgrifennu a lleoliad. Bydd y rhain wedyn yn dylanwadu ar faint mae'r sefydliad yn talu ei awduron
Mae Llenyddiaeth Cymru yn bwriadu cynhyrchu set o ganllawiau talu y gall sefydliadau comisiynu eraill eu defnyddio a sut y dylai ffactorau, megis natur digwyddiad neu faint a statws y comisiynydd dan sylw, ddylanwadu ar y rhain.
Dywedodd Dr Sophie Bennett-Gillison, Darlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Busnes Aberystwyth:
“Mae’r sector creadigol yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru, o safbwynt economaidd a diwylliannol, ond eto rydym yn gwybod bod incwm yn y sector hwn yn amrywio’n fawr ac nad yw’n deillio o ysgrifennu yn unig bellach. Mae rhai awduron yn ennill incwm o ymddangosiadau cyhoeddus neu gyflwyno digwyddiadau llenyddol i ychwanegu at eu hincwm.
“Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad hwn i gyflogau awduron yn amlygu’r cyfraniad a wneir gan y rhai sy’n gweithio yn yr is-sector creadigol hwn i’r economi, yn ogystal â helpu i sicrhau cyfraddau cyflog teg i bawb. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar y prosiect hwn.”
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro ac Arweinydd Creadigol:
“Mae grym llenyddiaeth yn helpu i lunio a gwella ein cymdeithas, ein heconomi, a’n diwylliant. Mae gan lenyddiaeth, yn ei hamrywiaeth eang, y grym i gysylltu cymunedau a dod â chysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Wrth graidd y gwaith hwn mae awduron Cymru.
“Fel y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru, rydym yn hybu arferion cyflogaeth teg i awduron, gan gynnwys cyfraddau teg o gyflog. Bydd yr ymchwil hwn yn llywio cyfraddau cyflog Llenyddiaeth Cymru yn uniongyrchol ac yn cael ei rannu â’r sector lenyddol fel canllawiau, gan sicrhau bod awduron Cymru yn cael eu talu’n deg yn unol â’u sgiliau proffesiynol.”
Dolen i’r arolwg - https://www.surveymonkey.co.uk/r/YRXQLBS