Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol i hyrwyddo byw’n gynaliadwy trwy gyfrwng celf
Heledd Wyn
12 Ebrill 2022
Bydd astudiaeth newydd gan academydd o Brifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar gelfyddyd fel modd i ddeall sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein bywydau bob dydd.
Mae Heledd Wyn, sy'n dysgu Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, yn un o wyth artist sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn rhan o'r Gymrodoriaeth, bydd Heledd yn derbyn grant o £25,000 ac yn cydweithio â gwyddonwyr a meddylwyr sy'n gweithio i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw.
Bydd cyfleoedd hefyd i ddatblygu ei gwaith artistig ei hun, ond hefyd i herio'r ffordd y mae pobl yn meddwl am newid yn yr hinsawdd er mwyn annog pobl i fyw mewn ffodd mwy cynaliadwy.
A hithau’n ffotograffydd, yn wneuthurwr ffilmiau, yn artist gweledol ac addysgwr, mae gan Heledd radd mewn Drama o Royal Holloway (Prifysgol Llundain) ac mae wedi derbyn hyfforddiant gan yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS) a'r BBC.
Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2021 fel darlithydd ar y prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch.
Mae'r prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun amlddisgyblaethol unigryw rhwng adrannau Cyfrifiadureg, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
Gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ei nod yw gwella arloesedd a chynhyrchiant yn sector diwydiannau creadigol Cymru trwy hyfforddi gweithwyr proffesiynol a graddedigion i fanteisio ar dechnolegau newydd mewn cynhyrchu cyfryngau.
Dywedodd Heledd: “Mae’n anrhydedd ac yn gyfle i ddatblygu fy arfer creadigol mewn ffilm yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned i ddyfeisio strategaethau artistig a gwyddonol a fydd yn dylanwadu ar fywyd mwy cynaliadwy yng Nghymru.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn bartneriaid ar y cyd i Gymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol. Mae’n rhan o raglen ehangach o waith sy’n gysylltiedig â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Natur Greadigol i ddeall yn well sut y gall celf a diwylliant chwarae rhan fuddiol wrth ymgysylltu â phobl ar faterion allweddol megis yr hinsawdd ac argyfyngau natur.
Bydd y Gymrodoriaeth yn archwilio'r effaith y mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar bobl Cymru gan ganolbwyntio ar dair prif thema, sef Ynni, Bwyd a Thrafnidiaeth.
Dywedodd Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydym wedi dewis wyth artist rhagorol. Byddant yn ysbrydoli dulliau newydd o ymwneud â chynaliadwyedd, lles, yr argyfwng hinsawdd a chyfiawnder hinsawdd gan gysylltu â bywyd pobl Cymru a’r tu hwnt.
“Cawsom ein syfrdanu gan angerdd ac ymrwymiad yr ymgeiswyr. Byddwn yn manteisio wedyn ar eu cyfoeth o arbenigedd wrth inni ddatblygu ein cynllun i fynd i’r afael â chyfiawnder hinsawdd a'r celfyddydau.”
Dywedodd Joe Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’n gymaint o fraint dod â’r grŵp anhygoel hwn o artistiaid at ei gilydd. Gwyddom o’n Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 fod angen inni, fel cymdeithas, fyw’n wahanol os ydym am helpu i gyfyngu ar gyfraniad Cymru at y cynnydd yn nhymheredd y byd. Mae diwylliant Cymreig wedi’i blethu mor sylfaenol â byd natur mae’n hanfodol bod diwylliant yn rhan o’n sgwrs am y blaned rydyn ni’n ei gadael i genedlaethau’r dyfodol.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyffrous i gael gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ar y Gymrodoriaeth hon. Mae’n ymgorffori llawer o’r gwerthoedd y sefydlwyd gennym i’w cefnogi, ac yn rhoi creadigrwydd ac empathi wrth galon ein hymateb i newid yn yr hinsawdd.”
Aelodau eraill Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yw Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, a Fern Thomas.
Cafodd y Cymrodyr gyfle i gyfarfod fel grŵp ddiwedd mis Mawrth ar gwrs preswyl deuddydd a gynhaliwyd gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, a fu’n gyfle i glywed gan rai o'r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ym maes materion amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.