Windrush Cymru: Arddangosfa a ffilmiau yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth

07 Ebrill 2022

Agorodd arddangosfa newydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yr wythnos hon, yn dangos sut yr ymgartrefodd Cenhedlaeth Windrush Cymru yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa yn cyflwyno hanesion a adroddir gan fwy na 40 o bobl, yn disgrifio eu taith i Gymru, a’r heriau a’u hwynebai wrth greu bywyd newydd ar dir pell o’u mamwlad, dod o hyd i waith, ac agweddau pobl tuag atynt.

Mae Cenhedlaeth Windrush yn cynnwys amrywiaeth o bobl o wahanol rannau o’r Gymanwlad a gyrhaeddodd Brydain rhwng 1948 a 1988, aoedd ynymateb i wahoddiad Llywodraeth Prydain yncynnig iddynt waith a chyfle am fywyd gwell.

Mae’r arddangosfa’n deillio o’r prosiect ‘Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ sy’n casglu, cofnodi, dogfennu, rhannu, archifo a dathlu cyfraniadau Cenhedlaeth Windrush.

Dan arweiniad Race Council Cymru ac wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, cyflwynir y prosiect mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm, Casgliad y Werin Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Cynhelir yr arddangosfa yng Nghyntedd y Neuadd Fawr tan 3 Mai 2022, yn rhan o daith yr arddangosfa ledled Cymru. Mynediad am ddim.

I gyd-fynd â’r arddangosfa, dangosir dwy ffilm yn Sinema Canolfan y Celfyddydau:

The Stuart Hall Project (2013), a ddangosir am 5yp ddydd Sadwrn, 9 Ebrill. Portread sensitif, emosiynol o’r damcaniaethwr diwylliannol Stuart Hall, un o leisiau mwyaf ysbrydoledig y Chwith ar ôl y rhyfel, a gafodd ddylanwad ysgubol ar fywyd deallusol Prydain yn fuan ar ôl symud yma i fyw o Jamaica ym 1951.

Pressure (1976), a ddangosir am 7.45yp ddydd Mawrth, 3 Mai. Yn enwog fel y ffilm nodwedd gyntaf gan rywun du ym Mhrydain. Mae’n gofnod cignoeth, onest o sefyllfa dynion ifanc duon sydd wedi eu geni, a’u siomi, ym Mhrydain. Wedi’i gosod yn Llundain y 1970au, mae’n adrodd hanes Tony, dyn ifanc disglair ar fin gadael yr ysgol, yn fab i fewnfudwyr Caribïaidd, sy’n ei gael ei hunan wedi’i ddal rhwng cydymffurfiaeth eglwys ei rieni ac ysbryd milwriaethus Pŵer Du ei frawd. 

I archebu tocynnau i’r sinema, gweler gwefan Canolfan y Celfyddydau www.aberystwythartscentre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01970 62 32 32 neu ebostio artstaff@aber.ac.uk