Prifysgol gyntaf Cymru yn dathlu 150 mlynedd o dreftadaeth academaidd

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

07 Ebrill 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth am gynnal blwyddyn o weithgareddau i nodi 150 mlynedd ers ei sefydlu.

Drwy gydol y flwyddyn, bydd Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â’i myfyrwyr a’i staff, yn ymuno â chymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr, ffrindiau a phartneriaid i ddathlu eu cyfraniad eithriadol a’u treftadaeth academaidd ledled Cymru ac ar draws y byd.

Wedi’i sefydlu ym 1872, yn dilyn ymdrechion cymunedol a chenedlaethol i godi arian i sefydlu’r brifysgol gyntaf yng Nghymru, mae’r sefydliad addysgol arloesol hwn wedi helpu i lunio cenedlaethau o ysgolheigion ac academyddion ac yn ymfalchïo mewn bod ar flaen y gad yn natblygiad addysg uwch gyda’i llwyddiannau hanesyddol pwysig.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi arwain y ffordd wrth sefydlu addysgu ac ymchwil ar draws y gwyddorau a’r dyniaethau ac roedd wedi ymrwymo o’r dechrau i agor ei drysau i fyfyrwyr o bob cefndir waeth beth fo’u hil a’u crefydd.

Sefydliad arloesol ac ysbrydoledig

Yn uchel ei pharch a’i chanmoliaeth fel sefydliad academaidd arloesol ac ysbrydoledig, mae ei lwyddiannau hefyd yn cynnwys sefydlu’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf yn y byd ac mae’r sefydliad yn parhau i dorri tir newydd ar gyfer addysg uwch yng Nghymru gydag agoriad Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru, a agorwyd yn swyddogol gan gyn-fyfyriwr y brifysgol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae wir yn anrhydedd bod yn rhan o brifysgol gyntaf Cymru wrth i ni ddathlu carreg filltir mor arwyddocaol. Rydym yn ymfalchio yn ein hanes, a’r gwaddol gwych y mae wedi’i greu, ond bydd y dathliadau hyn yn ymwneud â’n dyfodol yn ogystal â’n gorffennol.

“Fel prifysgol nid ydym erioed wedi sefyll yn ein hunfan, gan ddatblygu’n gyson, wrth i ni ymateb i heriau newydd a chyfnewidiol y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Caiff hyn ei amlygu yn ein hymchwil blaengar a’r prosiectau addysgol uchelgeisiol y mae academyddion Aberystwyth yn arwain arnynt, megis ein gwaith newydd ym maes addysg gofal iechyd a fydd yn cychwyn yn y flwyddyn arbennig hon. Mae hyn yn rhan o’n cenhadaeth, a ddechreuwyd yn yr Hen Goleg yn 1872, ac yn ystod y pen-blwydd hwn bydd cartref gwreiddiol y Brifysgol yn cael ei drawsnewid i fod yn ganolfan weledigaethol i fyfyrwyr, y gymuned ac ymwelwyr.

“Rydym ni’n ddiolchgar i’r nifer o bobl sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn mor hael gyda’u cyfraniadau a byddwn yn parhau i godi arian i’r Hen Goleg trwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i gyflawni ein cynlluniau cyffrous.”

Dathlu gyda'n gilydd
Gyda chynifer o lwyddiannau rhagorol i’w dathlu a’u hanrhydeddu, yn ystod eu 150fed blwyddyn, mae’r brifysgol yn edrych ymlaen at raglen lawn o ddigwyddiadau, sy’n addo bod yn wir ddathliad coffaol o brifysgol gyntaf Cymru wrth iddi hefyd edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous.

Mae cynlluniau ar gyfer dathliadau’r pen-blwydd yn cynnwys partneru gydag Urdd Gobaith Cymru a chymryd rhan yn eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn Oslo, Norwy fis Mai eleni. Bydd y flwyddyn pen-blwydd yn cychwyn wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst gyda rhaglen o weithgareddau ar Y Maes. 

Bydd y pen-blwydd swyddogol yn rhaglen wythnos o hyd o ddigwyddiadau yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain lle gwelir cyhoeddi'r llyfr pen-blwydd sy’n coffáu 150 o straeon trwy 150 o wrthrychau yn adrodd hanes y brifysgol drwy'r gwrthrychau.

Caiff wythnos y Sefydlwyr ei dilyn gan yr Ŵyl Ymchwil a fydd yn arddangos ymchwil flaengar ac yn rhoi llwyfan i ymgysylltu â chymunedau lleol a ledled y byd mewn deialog am eu hanghenion yn y dyfodol.

Drwy gydol y flwyddyn bydd cynulleidfaoedd yn Aberystwyth ac ar draws y byd yn gallu mwynhau cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus a draddodir gan academyddion a siaradwyr gwadd o Aberystwyth.

Mae’r flwyddyn yn un o ddathliadau niferus gyda Chymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth, a sefydlwyd yn 1892, hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 130 oed ynghyd â Chanolfan y Celfyddydau adnabyddus Aberystwyth yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed gan ddechrau gydag arddangosfa arbennig.

Dywedodd Lauren Marks, Llywydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr: “Rydym ni wrth ein bodd yn nodi’r garreg filltir ryfeddol hon yn hanes balch Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Mae gennym ni dros 9,000 o aelodau ledled y byd ac edrychwn ymlaen at eu cynnwys yn y dathliadau ac ymuno â’r brifysgol yn ei rhaglen gyffrous wrth i ni rannu’r penblwyddi arbennig hyn, gan fyfyrio ar hanes balch Aberystwyth ond hefyd edrych i’r dyfodol. I ni, bydd y flwyddyn yn dod i ben gyda phenwythnos aduniad gwych yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2023 pan fydd llawer o’n haelodau’n edrych ymlaen at ddod at ei gilydd i ddathlu wyneb yn wyneb.”

Daw’r flwyddyn i ben gydag wythnos raddio ym mis Gorffennaf 2023 yng nghwmni hapus y myfyrwyr sy’n graddio a’u teuluoedd a’u cefnogwyr yn cloi blwyddyn wirioneddol bwysig pan fydd cymunedau niferus y brifysgol wedi dod at ei gilydd i ddathlu’r pen-blwydd pwysig hwn.

Am ragor o wybodaeth am ddathliadau’r 150fed pen-blwydd, ewch i

https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/150-anniversary/

Diwedd

Llun: Prifysgol Aberystwyth

Dolenni:
Dathliadau 150 Mlwyddiant Prifysgol Aberystwyth https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/150-anniversary/
Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth https://www.aber.ac.uk/cy/development/osa/
Apêl yr Hen Goleg https://www.aber.ac.uk/cy/oldcollege/old-college/

Rhagor o wybodaeth:
I drefnu cyfweliadau neu am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Deian Creunant – deian.creunant@four.cymru / 07855 276740
Ann Bell – ann.bell@four.cymru