Academydd yn Aberystwyth yn ymchwilio i ffynonellau tywydd y gofod

Ffagliad solar ar wyneb yr Haul (llun: Dr David Kuridze)

Ffagliad solar ar wyneb yr Haul (llun: Dr David Kuridze)

01 Ebrill 2022

Bydd academydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i faes magnetig yr Haul, un o’r ffenomenau mwyaf hynod a phwysig mewn astroffiseg fodern, mewn prosiect sy'n defnyddio telesgop solar mwyaf pwerus y byd.

Bydd Dr David Kuridze, Cymrawd Ymchwil yn yr Adran Ffiseg, yn mesur y maes magnetig wrth barthau allanol yr Haul. Dyma’r ardal sy’n rheoli ffagliadau heulol sy’n achosi problemau, yr echdoriadau neu’r dolenni coronaidd, y cromliniau magnetig llachar sy'n ymddangos ar ffurf bwa sy'n ffurfio uwchben wyneb yr Haul.

Mae’r ynni a gynhyrchir gan y maes hwn yn yr echdoriadau coronaidd lluosog sy’n digwydd yn ystod cyfnodau arbennig o ddifrifol o dywydd y gofod yn gallu achosi problemau enfawr. Yn 1989, gadawyd chwe miliwn o bobl yn Quebec heb drydan oherwydd effeithiau storm heulol.

Mae digwyddiadau anarferol yn nhywydd y gofod hefyd yn gallu amharu ar gyfathrebu drwy loerenni a radio, GPS, ac fe all achosi gwenwyn ymbelydredd mewn pobl, yn enwedig y rhai sydd yn y gofod.

Er hynny, mae hi’n eithriadol o anodd rhagweld tywydd y gofod gan ei fod yn gofyn am fesuriadau manwl ar atmosffer yr haul a'i faes magnetig. Mae atmosffer allanol yr Haul yn cymryd llawer iawn o le ond nid yw'n rhoi fawr ddim goleuni ac mae ganddo faes magnetig gwan iawn (tebyg i fagnet oergell).

Neilltuwyd amser i’r Dr Kuridze yn amserlen Telesgop Solar Daniel K. Inouye (DKIST) yn Hawaii ar gyfer ei waith arsylwi.  Dyma'r telesgop solar mwyaf pwerus yn y byd, pedwar metr ei ddiamedr, sydd fwy na dwywaith maint y diamedr a geir ar galedwedd fwy confensiynol. Mae hyn yn golygu y gall DKIST gasglu saith gwaith yn fwy o oleuni’r haul nag unrhyw delesgop solar arall.

Ar ôl i’r data gael ei gasglu a'i brosesu, bydd Dr Kuridze wedyn yn ei ddadansoddi i ddarganfod cryfder y maes magnetig yn yr atmosffer solar sy'n achosi digwyddiadau anarferol yn nhywydd y gofod, faint o ynni sydd, a sut mae’n cael ei gynhyrchu a'i wasgaru. Gellir defnyddio'r data hwn wedyn i adeiladu offer eraill i fesur y maes magnetig.

Dywedodd Dr David Kuridze o Brifysgol Aberystwyth: "Dyna fe, uwch ein pennau ni drwy’r amser, ond mae cymaint nad ydym yn ei wybod am yr Haul o hyd. Tywydd y gofod yw un o’r pethau hynny ac mae'n bwnc mor hanfodol i'w archwilio gan fod unrhyw ddigwyddiadau difrifol yn cael effeithiau economaidd enfawr.

"Mae stormydd heulol mawr a’u heffaith bwerus ar yr amgylchedd ger y Ddaear yn creu risgiau enfawr i’r gymdeithas a'n hanthroposffer. Mae'n hanfodol bod eu heffaith negyddol yn cael ei lleihau drwy sicrhau rhagfynegiadau cywir.

"Mae'r data y byddwn yn gallu manteisio arno, diolch i rym Telesgop Solar Daniel K. Inouye, yn golygu y byddwn yn cael golwg well nag erioed o'r blaen ar yr hyn sy’n achosi tywydd y gofod. Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r diffyg enfawr yn ein gwybodaeth am ein seren agosaf."

Mae gwaith Dr Kuridze yn adeiladu ar sylfaen degawdau o arbenigedd ymchwil i’r Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyma'r ail brosiect sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y Brifysgol sy'n archwilio tywydd y gofod. Mae Adran Ffiseg y Brifysgol hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion eraill i ddatblygu system i roi rhybuddion cynnar am stormydd solar ar gyfer Swyddfa Dywydd y DU.

Ariennir yr ymchwil gan grant gwerth £400,000 gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.