Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno gwyddoniaeth hynod i ddisgyblion yn ei digwyddiad allgymorth blynyddol
Disgyblion o Rhyd Y Pennau.
17 Mawrth 2022
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno penglogau anifeiliaid, crwydriaid robotig a bwydydd rhyfedd i bron i 1,000 o ddisgyblion fel rhan o’i digwyddiad allgymorth blynyddol sy’n cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.
Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 15-17 Mawrth a chroesawyd disgyblion Blynyddoedd 5, 6, 7 ac 8 o ysgolion ar draws Ceredigion, Powys a Gwynedd.
Ar fwy nag 20 stondin, gofynnwyd i ddisgyblion ddyfalu i ba anifail yr oedd penglogau penodol yn perthyn, a dangoswyd iddynt bwysigrwydd brechlynnau, sut y gall modelau mathemategol helpu i amddiffyn rhag pandemigau a sut mae tirwedd Ceredigion wedi newid dros y canrifoedd.
Roedd academyddion a staff allgymorth y Brifysgol wrth law i ddangos i ddisgyblion sut mae gwyddoniaeth yn greiddiol i rai o ffenomenau mwyaf trawiadol bywyd ac yn effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn ffyrdd cadarnhaol.
Gwnaed stondinau rhyngweithiol gan adrannau’r Gwyddorau Biolegol, yr Amgylchedd a Gwledig, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Mathemateg, Ffiseg, a Seicoleg y Brifysgol.
Nid yw digwyddiadau allgymorth wyneb yn wyneb yr Wythnos Wyddoniaeth wedi digwydd ers 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.
Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Addysgu a Dysgu: “Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu disgyblion ar gyfer ein digwyddiadau Wythnos Wyddoniaeth Prydain unwaith eto. Mae wir yn rhan hanfodol o’n calendr, gan arddangos hynodrwydd a hwyl y byd gwyddoniaeth, o archwilio glaswelltiroedd i bwysigrwydd tebygolrwydd.
“Gall y digwyddiadau hyn danio dychymyg plentyn ac arwain at yrfa mewn gwyddoniaeth. Rydym eisiau ysbrydoli bechgyn a merched o bob cefndir a chwalu’r dirgelwch am y Brifysgol felly rydym wedi gweithio’n galed i wneud cynhwysiant yn greiddiol i’r digwyddiadau hyn. Yn ogystal, roedd ein staff wedi bod yr un mor greadigol wrth feddwl am syniadau a fyddai’n cyffroi’r disgyblion.
“Roeddwn yn falch iawn o weld niferoedd mor uchel o ysgolion ar draws gorllewin Cymru ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ddisgyblion y flwyddyn nesaf.”