Llwyddiant ysgubol i fyfyrwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn y ‘Ryng-gol’

Enillydd y Goron, Twm Ebbsworth, ac enillydd y Gadair, Tomos Lynch. Lluniau: Ifan James

Enillydd y Goron, Twm Ebbsworth, ac enillydd y Gadair, Tomos Lynch. Lluniau: Ifan James

09 Mawrth 2022

Cafodd myfyrwyr o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth lwyddiant rhyfeddol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd ym Mangor ar 5 Mawrth 2022, gan ennill y ddwy brif wobr lenyddol.

Twm Ebbsworth, myfyriwr Ysgrifennu Creadigol uwch-raddedig o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan a gipiodd y Goron, am ei gyfansoddiad rhyddiaith, heb fod yn fwy na 5000 o eiriau, yn ymateb i thema’r ‘Môr’.  Ac yntau’n enillydd cyson mewn eisteddfodau, mae Twm wedi ennill Cadeiriau a Choronau o’r blaen yn y Ryng-Gol ac yn Eisteddfodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion.  Un arall o fyfyrwyr y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, y fyfyrwraig israddedig Lowri Bebb, a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron.

Enillwyd y Gadair fawr ei fri gan fyfyriwr yn ei drydedd flwyddyn sy’n astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae Tomos Lynch, sy’n hanu o Fangor, yn astudio modiwl Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.  Yng nghystadleuaeth y Gadair gofynnwyd am gerdd, yn y wers rydd neu’r mesurau caeth, heb fod yn fwy na 100 o linellau, yn ymateb i thema’r ‘Mynydd’.  Twm Ebbsworth, enillydd y Goron, ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair. 

Dywedodd y Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Dyna fendigedig yw cael dathlu llwyddiant rhai o’n myfyrwyr ni yng nghystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni. Mae hi’n drawiadol faint o feirdd a llenorion Cymru fu’n astudio yma yn Aber, a thrwy ein darpariaeth ysgrifennu creadigol rydym yn parhau i feithrin doniau ein myfyrwyr. Rwy’n siŵr nad dyma’r tro olaf y byddwn yn llongyfarch â’r tri thalentog yma – llongyfarchiadau calonnog iawn i Twm, Tomos, a Lowri!”

Ond nid llên oedd yr unig faes lle y cafodd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth lwyddiant yn y ‘Ryng-gol’ eleni.  Trystan Gwyn, myfyriwr israddedig Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn ei drydedd flwyddyn, oedd enillydd y fedal Wyddoniaeth.  Emily Ellis, myfyrwraig israddedig Hanes a Hanes Cymru yn eu hail flwyddyn, a enillodd Fedal y Celfyddydau.

Dywedodd Mared Edwards, Swyddog Diwylliant Cymru a Llywydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth): "Rydym wrth ein bodd â llwyddiant myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni.  Ar ôl diwrnod o gystadlu brwd ar y llwyfan, ac oddi arno, mae'n wych gweld cynifer o fyfyrwyr talentog Aber ymhlith y buddugwyr teilwng."

Mae'r Eisteddfod Ryng-golegol, a gynhelir bob blwyddyn mewn prifysgol yng Nghymru, yn cael ei gweld yn uchafbwynt cymdeithasol a diwylliannol i fyfyrwyr Cymraeg neu ddysgwyr Cymraeg sy'n astudio yng Nghymru, ac i gymdeithasau myfyrwyr Cymru o dros y ffin.

Dros y blynyddoedd, mae wedi rhoi llwyfan i fyfyrwyr amlygu eu doniau a chystadlu ar ran eu prifysgolion mewn nifer o gystadlaethau ar y llwyfan, gwaith cartref a chwaraeon.

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn enwog am ei hastudiaethau ym meysydd iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd.  Ynghyd â'r Gymraeg, mae'r adran yn cynnig cyfleoedd unigryw i'w myfyrwyr ddysgu Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban, o safon dechreuwyr pur i siaradwyr hyderus a rhugl.   Barnwyd mai Prifysgol Aberystwyth oedd yr orau drwy wledydd Prydain am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd yng Nghanllawiau Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times yn 2021.

Yn ddiweddar, lansiodd yr Adran gynllun gradd BA newydd, sef Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi.  Dan arweiniad y llenorion arobryn Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, mae’r cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu doniau creadigol, gan ddod o hyd i'w lleisiau llenyddol eu hunain, yn ogystal â dysgu am y diwydiant cyhoeddi.