Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi’r frwydr yn erbyn malaria drwy fapio gyda dronau

Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar ar waith

Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar ar waith

25 Chwefror 2022

Mae ymdrechion i fynd i’r afael â malaria yn Nwyrain Affrica yn elwa o weithio gyda gwyddonwyr ar fapio gyda dronau.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi awdurdodau yn Zanzibar gyda thechnoleg dronau a ffonau clyfar er mwyn canfod pyllau dŵr lle mae mosgitos yn bridio.

Ariennir y prosiect gan y Consortiwm Rheoli Fector Arloesol a sefydlwyd yn 2005 drwy grant cychwynnol o $50 miliwn gan Sefydliad Bill & Melinda Gates.

Er bod nifer o astudiaethau wedi edrych ar botensial y technolegau wrth fynd i’r afael â malaria, dyma’r tro cyntaf iddi gael ei rhoi ar waith o fewn rhaglen ymyrraeth eang.

Mae Zanzibar yn grŵp o ynysoedd oddi ar arfordir Tanzania yn Nwyrain Affrica. Mae’r ynysoedd a’r tir mawr yn Nhanzania wedi brwydro am gyfnod hir yn erbyn malaria.

Yn fyd-eang, mae’r afiechyd yn heintio dros 200 miliwn o bobl yn flynyddol ac yn gyfrifol am ladd mwy na 400,000 o bobl bob blwyddyn.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar er mwyn hedfan dronau dros ardaloedd sydd â phroblem malaria.

Mae angen ar i’r awdurdodau iechyd allu lleoli a mapio safleoedd bridio mosgito mewn ardaloedd sydd â phroblem malaria er mwyn iddynt allu targedu eu hymdrechion i dileu’r afiechyd.

I’r drefn hon fod yn llwyddiannus, mae angen offer, megis dronau, er mwyn mapio’r safleoedd bridio. 

Wedi i’r ardaloedd dŵr sydd â phroblem malaria gael eu hadnabod o luniau’r dronau, wedyn gall yr awdurdodau ddefnyddio data drwy ap ffôn clyfar pwrpasol er mwyn lleoli’n fanwl gywir a thrin cynefinoedd mosgitos, ac er mwyn olrhain eu cynnydd a maint yr ardal y maent wedi llwyddo ei thrin.

Wrth siarad am ddefnyddio’r dechnoleg mapio yn yr ardal, dywedodd Dr Andy Hardy o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae lleihau nifer yr achosion Malaria yn Affrica i’r De o’r Sahara wedi bod yn llwyddiant mawr eisoes, a hynny diolch i’r ymyriadau megis rhwydi gwely a gwaith chwistrellu pryfleiddiad dan do. Mae wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol, gan arwain at ostyngiad nodedig mewn achosion yr afiechyd. Mae lefelau’r haint wedi disgyn o 40% o’r boblogaeth i lai na 1% mewn rhai ardaloedd yn Zanzibar.

“Mae rheolwyr iechyd cyhoeddus bellach yn edrych i ategu defnydd presennol rhwydau gwely a chwistrellu pryfladdwyr dan do gyda datrysiadau tu allan. Rydym yn mynd â’r frwydr i’r mosgitos.

“Mae dronau yn rhan allweddol o’r arfau yn erbyn yr afiechyd. Un o brif heriau sy’n wynebu rheolwyr yr afiechyd yw canfod pyllau bach o ddŵr lle mae mosgitos yn bridio. Dyma le mae dronau yn gallu cynorthwyo - am y tro cyntaf, mae lluniau dronau yn gallu cael eu tynnu’n rheolaidd gan y rhaglen dileu malaria yn Zanzibar er mwyn creu mapiau manwl gywir o safleoedd bridio potensial.”

“Rydym yn llawn cyffro wrth weld sut y gall ein system sydd wedi ei harwain gan dechnoleg wella gweithrediadau dileu malaria yn Zanzibar. O fewn 20 munud, mae un drôn yn gallu archwilio cae reis 20 hectar. Mae’r delweddau hyn yn gallu cael eu proses a’u dadansoddi ar yr un prynhawn i leoli a mapio safleoedd bridio potensial. Mae hyn wedi profi i fod yn hynod gywir ac effeithlon.”

Yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, mae’r bartneriaeth yn cynnwys Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar, Labordai Hedfan Tanzania, Zzapp Malaria, Ysgol Meddyginiaeth Drofannol Lerpwl, ac Ysgol Hylendid a Meddyginiaeth Drofannol Llundain.

Mae’r tîm rhyngwladol nawr yn ymgorffori lluniau’r drôn a’r dechnoleg ffonau clyfar mewn system deallusrwydd gofodol er mwyn cynorthwyo llywio ymdrechion i ddileu’r afiechyd. Enillodd y dechnoleg ffonau clyfar a ddatblygwyd gan Zzapp Malaria Wobr-X IBM Watson. 

Ychwanegodd Dr Silas Majambere, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwyddonol Cymdeithas Rheoli Mosgito Pan Affrica:

“Wrth i ni ymdrechu tuag at y nod pennaf o ddileu malaria, rydym yn edrych at dechnegau a thechnolegau newydd i lywio strategaethau ymyrraeth.  Am y tro cyntaf, mae gwaith Dr Hardy ar fapio gwlyptiroedd yn helpu i ddarparu’r wybodaeth gynllunio lefel uchaf hon trwy roi asesiad ar raddfa eang o ble mae cyrff dŵr parhaol a lled-barhaol yn bodoli - targedau allweddol ar gyfer rheoli mosgito malariaidd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio’n agos gyda rhaglenni rheoli malaria cenedlaethol mewn sawl gwlad yn Affrica, ac rwyf wedi cynnig y dylid defnyddio dulliau mapio gwlyptir Dr Hardy i gynllunio ac arwain gweithgareddau ar lefel genedlaethol.

“Yn ogystal, mae gwaith Dr Hardy wedi arddangos buddion defnyddio dronau ar gyfer darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer timau maes rheoli malaria - mae ganddo botensial gwirioneddol i gael ei gymhwyso mewn rhaglenni rheoli malaria cenedlaethol eraill. Yn hynny o beth, rwyf wedi cynnig defnyddio dull Dr Hardy mewn ymgyrchoedd malaria cenedlaethol eraill yn Affrica, gan gynnwys Rwanda, Tanzania, Uganda, a Ghana.”

Dywedodd David Malone, Uwch Swyddog Rhaglen o Sefydliad Bill & Melinda Gates:

"Mae'r cydweithrediad hwn rhwng Prifysgol Aberystwyth a Rhaglen Dileu Malaria Zanzibar, yn dangos y gall technoleg drôn a ffonau clyfar ddarparu data hanfodol ar gyfer rheoli mosgitos malaria mewn modd cymharol rad. Ar ben hynny, mae'r gwaith hwn yn dangos bod rhaglenni rheoli malaria cenedlaethol, fel yr un yn Zanzibar, yn gallu cymryd perchnogaeth o'r math hwn o dechnoleg, ac felly'n cynrychioli buddsoddiad pwysig yn y frwydr i ddileu malaria."