Dyfarniad Efydd i Brifysgol Aberystwyth am ei amgylchedd LGBTQ+ cynhwysol

I nodi Mis Hanes LGBT eleni, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn chwifio baner Balchder Croestoriadol. Yn ogystal â lliwiau cyfarwydd yr enfys, mae'r faner yn cynnwys streipiau du a brown i gynrychioli cymunedau LGBT ymylol o liw, a phinc, glas golau a gwyn a ddefnyddir ar y Faner Balchder Trawsryweddol.

I nodi Mis Hanes LGBT eleni, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn chwifio baner Balchder Croestoriadol. Yn ogystal â lliwiau cyfarwydd yr enfys, mae'r faner yn cynnwys streipiau du a brown i gynrychioli cymunedau LGBT ymylol o liw, a phinc, glas golau a gwyn a ddefnyddir ar y Faner Balchder Trawsryweddol.

23 Chwefror 2022

Mae ymrwymiad parhaus Prifysgol Aberystwyth i ddarparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i staff a myfyrwyr LGBTQ+ wedi’i gydnabod gan yr elusen flaenllaw Stonewall.

Mae’r Brifysgol wedi derbyn Gwobr Efydd fel rhan o ymgyrch Dewch â’ch Hun i Weithio Stonewall, sy’n amlygu pwysigrwydd amgylcheddau gwaith cynhwysol.

Mae’r wobr, a gyhoeddwyd heddiw (23 Chwefror), yn cyd-fynd â’r newyddion bod y Brifysgol wedi dringo 25 safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle’r elusen.

Bu’r Brifysgol yn rhan o’r Mynegai ers ei dyddiau cynnar, ac mae wedi dringo i safle 104 o blith mwy na 400 o sefydliadau sydd wedi cynnwys yn rhifyn 2022 o’r mynegai, ac a gasglodd farn dros 79,000 o staff ledled y DU.

Dywedodd yr Athro Neil Glasser (fe/ei), Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn ymfalchïo yn natur gynhwysol ein cymuned yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae gwobr Efydd Stonewall yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’r gwaith polisi pwysig gan gydweithwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei holl ffurfiau mor bwysig ac mae ymrwymiad y Brifysgol i gynhwysiant yn gonglfaen i’n gwaith yma. Edrychwn yn awr at adeiladu ar y seiliau cadarn hyn i gryfhau ein cymuned er lles pawb.”

Mae Ruth Fowler (hi/ei), Cadeirydd Rhwydwaith LGBT Prifysgol Aberystwyth, hefyd wedi croesawu gwobr Efydd Stonewall: “Rydym wrth ein bodd gyda’r achrediad Gwobr Efydd hwn yn ogystal â’r ffaith ein bod wedi dringo yn y mynegai unwaith eto. Mae’n adlewyrchiad o ymroddiad staff a myfyrwyr sy’n creu awyrgylch mor groesawgar a chynhwysol.”

Yn ôl ymchwil gan Stonewall, mae mwy na thraean o staff LGBTQ+ (35 y cant) yn cuddio pwy ydyn nhw yn y gwaith, tra bod bron i un o bob pump (18 y cant) wedi bod yn darged sylwadau negyddol oherwydd eu bod yn LGBTQ+.

Dywedodd Liz Ward, Cyfarwyddwr Rhaglenni Stonewall (hi/ei): “Rydym yn treulio cymaint o’n hamser yn y gwaith, a gall ein gyrfa fod yn rhan enfawr o’r ffordd yr ydym yn diffinio ein hunain. Dylai pob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar allu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. O ddeall sut y bydd polisïau AD, megis absenoldeb rhiant, yn effeithio arnynt, i gael sicrwydd y gallant siarad yn agored am eu bywydau a phartneriaid wrth y peiriant coffi, gall effaith gweithleoedd cynhwysol newid bywydau.

“Mae’n wych bod Prifysgol Aberystwyth wedi ennill y wobr Efydd am ei hymdrechion a’i hymrwymiad i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, ac edrychwn ymlaen at weld a chefnogi gweddill ei thaith cynhwysiant.”

Disgrifiwyd Aberystwyth fel ‘prifddinas hoyw answyddogol Cymru!’ gan yr awdur Niall Griffiths. Sefydlwyd Rhwydwaith Staff LGBT y Brifysgol yn 2010 ac mae’n agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y Brifysgol (mewn unrhyw swyddogaeth), ac unrhyw ôl-raddedigion sy’n ystyried eu hunain fel LGBTQ, ynghyd â ffrindiau a chefnogwyr y gymuned.

Gyda chefnogaeth y Brifysgol, mae'r rhwydwaith wedi dod yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o faterion LGBT.