Lledu’r gair am atebion di-garbon drwy farddoniaeth

Golygfa o’r awyr ar Ganolfan y Dechnoleg Amgen  Credyd: Canolfan y Dechnoleg Amgen

Golygfa o’r awyr ar Ganolfan y Dechnoleg Amgen Credyd: Canolfan y Dechnoleg Amgen

09 Chwefror 2022

Bydd y rhan y gall barddoniaeth ei chwarae wrth gyfleu heriau'r argyfwng hinsawdd, ac wrth fynd i’r afael â’r argyfwng, o dan y chwyddwydr mewn prosiect newydd lle bydd beirdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Chanolfan y Dechnoleg Amgen.

Bydd aelodau o adrannau'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr ar atebion di-garbon yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) ac yn cyfansoddi cerddi sy'n ymdrin ag atebion amgylcheddol sy'n deillio o ymchwil ac ymarfer di-garbon.

Bydd y cerddi hyn, yn Gymraeg a Saesneg, wedyn ar gael i’w gweld gan y cyhoedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth, cyn iddynt gael eu harddangos ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Matthew Jarvis o Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Drwy'r prosiect, bydd grŵp o lenorion o'r Brifysgol yn cydweithio'n agos â staff yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen i elwa ar eu gwybodaeth a'u harbenigedd di-garbon.

"Drwy hyfforddiant, darlithoedd a thrafodaethau â nhw, byddwn yn astudio ymatebion ymarferol i sicrhau dyfodol cynaliadwy drwy faterion fel bioamrywiaeth, ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy. Dysgwn am arwyddocâd gosod nod sero-net wrth gynllunio atebion amgylcheddol i'r argyfwng hinsawdd; ac ystyriwn sut beth fyddai bywyd di-garbon.

"Byddwn wedyn yn defnyddio'r wybodaeth hon i greu barddoniaeth sy'n trin a thrafod y materion hyn, ac a fydd, gobeithio, yn meithrin dealltwriaeth ehangach o'r cysyniad o ddyfodol di-garbon i ddarllenwyr."

Dywedodd y Dr Anna Bullen o dîm Prydain Ddi-Garbon y Ganolfan:  "Ein cenhadaeth yn y Ganolfan yw ysbrydoli, dysgu a galluogi'r ddynoliaeth i ymateb i argyfyngau’r hinsawdd a bioamrywiaeth. Bydd y ddealltwriaeth newydd a gawn am yr heriau a'r potensial a gynigir gan waith creadigol i gyfrannu at y ddisgwrs ddi-garbon yn bwydo i’n hymdrechion i gyfathrebu’n effeithio â’r cyhoedd ehangach ynghylch atebion amgylcheddol."

Y beirdd sy'n cydweithio ar y prosiect yw'r Athro Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yr Athro Matthew Jarvis a’r Dr Gavin Goodwin o Adran y Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r Dr Hywel Griffiths o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Ariennir y prosiect o’r cyllid y mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i gael o Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol drwy’i gronfa “Discipline Hopping for Environmental Solutions”.  Mae'r cyllid hwn yn rhoi cymorth i academyddion ac ymchwilwyr i weithio ar draws ffiniau disgyblaethau ac, wrth wneud hynny, i ddatblygu dealltwriaeth am wahanol safbwyntiau a methodolegau ymchwil y gellid eu defnyddio i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol.