Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn talu teyrnged i berfformiad llawn ysbrydoliaeth gan staff a myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 20/21
Prifysgol Aberystwyth
28 Ionawr 2022
Mae Is-Ganghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi sôn am eu balchder yn y sefydliad ac am ba mor ddiolchgar ydynt am yr hyn a gyflawnwyd gan ei staff wrth i’r sefydliad gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 – blwyddyn ac arni effeithiau COVID-19.
Yn yr adroddiad, mae’r Athro Elizabeth Treasure yn disgrifio’r ymatebion i'r heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn fel rhai sy’n ysbrydoliaeth, a hynny gan fyfyrwyr a chan staff a frwydrodd i gynnal y profiad addysgol.
Er gwaethaf y pandemig, cynyddodd yr incwm ymchwil i £20 miliwn yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21, llwyddodd y Brifysgol i ddenu mwy o fyfyrwyr na'r disgwyl, gosodwyd y sylfeini ar gyfer dau faes dysgu ac ymchwil academaidd newydd, ac enwyd y Brifysgol yn brifysgol orau Cymru gan yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, a hynny am y chweched flwyddyn yn olynol.
Byddai'r Brifysgol wedi sicrhau gwarged cymedrol ar gyfer ei blwyddyn ariannol oni bai am effeithiau digynsail pandemig COVID-19 a'r camau hanfodol a gymerwyd i gynnal amgylchedd dysgu a phrofiad o ansawdd uchel i’r myfyrwyr. Aeth y Brifysgol ati i fuddsoddi mewn mesurau diogelwch ledled y campws, ad-dalu ffioedd llety myfyrwyr a darparu adnoddau dysgu ychwanegol. Yn sgil y buddsoddiad hwn, a cholli incwm masnachol oherwydd y pandemig, cofnododd y Brifysgol ddiffyg ariannol gweithredol o £3.2 miliwn ar gyfer y flwyddyn.
Meddai'r Athro Treasure: "Wrth edrych yn ôl ac ystyried yr amgylchiadau hynod o heriol yr ydym oll wedi'u hwynebu fel cymuned, mae'r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn destun balchder aruthrol a llawer iawn o ddiolch.
"Unwaith eto, mae ein rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu wedi bod o fudd mawr i’r Brifysgol yn ystod cyfnod heriol. Bu cynnydd mewn incwm ymchwil i fwy na £20 miliwn, ac mae hynny’n dyst i ddyfeisgarwch a dycnwch ein staff ymchwil ac yn adlewyrchiad o waith blaenllaw'r Brifysgol ym maes iechyd anifeiliaid, ymdrechion heddwch rhyngwladol, datblygu’n ddi-garbon a’r newid yn yr hinsawdd, a’r ddealltwriaeth o'n hanes diwylliannol. Roedd y cynnydd mewn ceisiadau gan fyfyrwyr ac yn y nifer a dderbyniwyd hefyd yn galonogol gan mai dyma'r ail flwyddyn yn olynol inni weld twf o'r fath.
"Mae'r costau ychwanegol tymor byr a achoswyd gan COVID-19 yn dangos pa mor benderfynol oeddem i flaenoriaethu diogelwch ar y campws, yn ogystal â’r profiad addysgol ac academaidd a ddarparwn yma yn Aberystwyth. Nid yw'r costau tymor byr hyn yn adlewyrchu cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol, a hebddynt byddem wedi cofnodi gwarged cymedrol y flwyddyn ariannol hon."
Roedd Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, yn cytuno â’r Is-Ganghellor, ac ychwanegodd: "Yn fy nghyflwyniad i Adroddiad Blynyddol 2019/20 y Brifysgol, cyfeiriais at y flwyddyn honno fel un o'r rhai mwyaf heriol yn hanes y Brifysgol. Digon yw dweud bod 2020/2021 wedi bod yr un mor eithriadol ei heriau, wrth inni barhau i deimlo effaith pandemig COVID-19 ledled y sefydliad a'r gymuned ehangach y mae'r Brifysgol yn rhan mor annatod ohoni.
"Mae Cyngor y Brifysgol wedi cael gwybodaeth reolaidd am y sefyllfa. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i'r Is-Ganghellor, staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid, yn lleol ac yn genedlaethol, am y modd y maent wedi ymateb ac am bopeth y maent wedi'i gyflawni yn ystod cyfnod o ansicrwydd mawr. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad ym mhob agwedd wedi creu argraff sylweddol arnom."
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn tynnu sylw at nifer o bethau a gyflawnwyd gan y Brifysgol yn ystod ei blwyddyn ariannol ddiweddaraf.
- Cyhoeddodd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr mai Aberystwyth oedd y Brifysgol orau yng Nghymru am y chweched flwyddyn yn olynol. Cyhoeddwyd hefyd mai hi oedd yr orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr a’i bod yn perfformio'n well na chyfartaledd y DU.
- Agorwyd ArloesiAber yng Ngogerddan, adnodd gwerth £40.5 miliwn sy’n cynnig cyfleusterau arloesol yn y sectorau biotechnoleg, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod.
- A hithau newydd gael ei hadnewyddu, croesawodd neuadd breswyl Pantycelyn ei charfan gyntaf o fyfyrwyr, gan olygu ein bod, unwaith eto, yn gweld yr adeilad hanesyddol hwn yn cael ei ddefnyddio yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
- Sefydlodd y Brifysgol ei Hysgol Gwyddor Filfeddygol newydd wrth iddi baratoi ar gyfer y garfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi 2021.
- Rhoddwyd cymeradwyaeth i gynlluniau'r Brifysgol i ddod ag addysg nyrsio i Aberystwyth am y tro cyntaf erioed.
- Yn ystod y flwyddyn, parhaodd y prosiect i ailddatblygu’r Hen Goleg i symud ymlaen wrth i’r Brifysgol anelu at adfer y safle hanesyddol hwn i'w hen ogoniant.
- Parhaodd y Brifysgol i fuddsoddi i gyflawni ei nodau strategol, ac yn anad dim i ddal ati i gynnig addysg ac ymchwil rhagorol.
Meddai'r Athro Treasure:
"Er gwaethaf yr heriau yr ydym wedi'u hwynebu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, rwy'n eithriadol o falch ein bod wedi cynnig rhai o’r lefelau uchaf o ddysgu wyneb yn wyneb o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig, pan oedd rheoliadau'r llywodraeth yn caniatáu hynny. Mae hynny'n dyst i ymdrechion parhaus ein staff, ac mae ansawdd eu haddysgu a'u hymroddiad i'w swyddi yn gwneud argraff sylweddol arnaf o hyd. Mae hefyd yn dyst i'n gallu i gyflawni'r gweithgareddau hyn mewn ffordd ddiogel er budd ein staff, ein myfyrwyr a'r gymuned ehangach yma yn Aberystwyth.
"Mae'r Brifysgol yn parhau i wneud cynnydd da ac edrychaf ymlaen at gryfhau ein sylfeini ymhellach wrth i ni baratoi i ddathlu ein pen blwydd yn 150."