Academyddion Aberystwyth yn ymuno â phaneli arbenigol sy'n gosod safonau addysg uwch
Dr Louise Marshall, Dr Gareth Hall, a Dr Jenny Mathers
27 Ionawr 2022
Penodwyd tri academydd o Brifysgol Aberystwyth i baneli arbenigol sy'n helpu i bennu safonau a chynnwys cyrsiau addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Penodwyd Dr Louise Marshall, Dr Jenny Mathers a Dr Gareth Hall yn aelodau o grwpiau cynghori'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), sy'n sicrhau bod safonau mewn addysg uwch yn cael eu cynnal.
Mae'r QAA yn gorff annibynnol sy'n monitro safonau ac ansawdd mewn addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig, ac yn cynghori yn eu cylch. Mae'n arwain y gwaith o ddatblygu Datganiadau Meincnod Pwnc sy'n disgrifio natur yr astudiaeth a'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion mewn meysydd pwnc penodol. Maent yn dangos yr hyn y gellid disgwyl yn rhesymol i raddedigion ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar ddiwedd eu hastudiaethau, ac fe'u defnyddir wrth gynllunio, cyflwyno ac adolygu rhaglenni academaidd.
Caiff pob datganiad ei adolygu'n rheolaidd gan grŵp cynghori, gan gynnwys aelodau o'r gymuned academaidd, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol, a myfyrwyr.
Yn 2022, bydd y QAA yn cynnal arolygiadau Datganiadau Meincnod Pwnc ar 13 pwnc.
Dywedodd Dr Louise Marshall, Darllenydd a Phennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi'n aelod o'r grŵp cynghori sy'n adolygu'r Datganiad Meincnod Pwnc ar gyfer Saesneg. Mae'r meincnodau hyn yn fframwaith pwysig ar gyfer ansawdd a safonau yn narpariaethau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â chydweithwyr o bob rhan o'r sector i ddylanwadu ar ddyfodol y pwnc. Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a disglair o ragoriaeth wrth ddysgu Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Ym mlwyddyn dathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 150 oed, mae’r arbennig o braf gallu cynrychioli Aberystwyth a chydweithwyr ledled Cymru wrth inni ddatblygu ein disgyblaethau."
Dywedodd Dr Jenny Mathers, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r panel Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae'n gyfle gwych i gydweithio â chydweithwyr o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn y ddisgyblaeth hon, ac i rannu fy nealltwriaeth sy’n deillio o’r profiad a'r arbenigedd dysgu ac addysgu yr wyf wedi'u datblygu ym Mhrifysgol Aberystwyth."
Mae Dr Gareth Hall, Uwch Ddarlithydd Seicoleg, wedi dod yn aelod o'r grŵp cynghori sy'n ystyried y Datganiad Meincnod Pwnc ar gyfer Seicoleg. Meddai: "Rwy'n falch iawn o fod yn cefnogi safonau academaidd mewn addysg uwch drwy fy nghyfraniad at waith pwysig y grŵp cynghori. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r aelodau eraill i ddylanwadu ar sut caiff ein disgyblaeth ei dysgu dros y blynyddoedd nesaf."
Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rwy'n llongyfarch fy nghydweithwyr yn gynnes. Mae eu penodi i'r grwpiau cynghori hyn yn tystio i'w henw da a'r parch sydd gan bobl tuag atynt yn eu priod feysydd academaidd. Mae'n braf gwybod bod academyddion Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y gwaith pwysig hwn a fydd yn diogelu dysgu yn y sector addysg uwch yn y meysydd disgyblaeth hyn yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Ailsa Crum, Cyfarwyddwr Aelodaeth, Gwella Ansawdd a Safonau'r QAA: "Mae ymrwymiad ac ymroddiad ein grwpiau cynghori profiadol yn helpu i sicrhau bod Datganiadau Meincnod Pwnc yn parhau i gael eu gwerthfawrogi gan gymunedau disgyblaethol. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi neilltuo amser i gefnogi'r gweithgaredd hanfodol hwn, ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â nhw yn yr adolygiad o Ddatganiadau Meincnod Pwnc eleni."
I weld rhestr lawn o'r grwpiau cynghori a'u haelodaeth, ewch i'r Adolygiadau Datganiadau Meincnod Pwnc 2022 tudalen o wefan y QAA.