Hwb o hanner miliwn i gyfleusterau addysg nyrsio newydd Prifysgol Aberystwyth

Delweddau yn dangos sut bydd yr Uned Sgiliau Clinigol yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych

Delweddau yn dangos sut bydd yr Uned Sgiliau Clinigol yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych

20 Ionawr 2022

Bydd grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru yn ariannu cyfleusterau ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer ei chyrsiau nyrsio a fydd yn cychwyn ym mis Medi eleni.

Daw’r cyhoeddiad chwe mis wedi i gynlluniau’r Brifysgol i gynnig cymwysterau nyrsio am y tro cyntaf gael eu cymeradwyo gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn buddsoddi mewn cyfleusterau yng Nghanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd y Brifysgol, sydd wedi’i lleoli gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwaith cyfalaf a phrynu offer er mwyn creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, fel rhan o fuddsoddiad o £1.7 miliwn gan y Brifysgol ar y safle. 

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys Uned Sgiliau Clinigol gydag ardaloedd efelychiad ansawdd uchel sy’n adlewyrchu taith y claf o’r cartref i wasanaethau cymunedol i asesu, gofal wedi’i gynllunio a gofal acíwt. 

Mae disgwyl i’r gwaith ar y cyfleusterau gael ei gwblhau yn ystod mis Mawrth eleni, mewn da bryd ar gyfer y myfyrwyr nyrsio cyntaf a fydd yn dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS:

“Y bobl sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw ei enaid.Mae buddsoddi mewn hyfforddiant a gweithlu’r dyfodol yn flaenoriaeth i ni.Rwy’n falch iawn bod ein cyllid yn helpu i gefnogi cam newydd i Brifysgol Aberystwyth o ran darparu hyfforddiant nyrsio.

“Mae’r cyfleuster newydd yn darparu hyfforddiant amhrisiadwy i fyfyrwyr mewn lleoliad gwledig ac yn adeiladu ar waith rhaglen CARER (Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig), gan roi profiad iddynt o weithio’n agos gyda chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.

“Dros y pum mlynedd diwethaf mae lleoedd ar gyfer hyfforddi nyrsio wedi cynyddu 72% yng Nghymru ac rydym yn falch ein bod wedi cadw bwrsariaeth y GIG ar gyfer myfyrwyr nyrsio er mwyn cefnogi pobl i ddilyn gyrfa mewn nyrsio.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r ganolfan newydd pan fydd yn agor yn y gwanwyn a chwrdd â’r rhai sy’n dechrau ar y daith i fod yn nyrs”.

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure:

“Yn ystod y pandemig, mae gwaith ein nyrsys a’n gweithwyr iechyd a gofal eraill wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n anrhydedd mawr y byddwn ni’n addysgu nyrsys yma am y tro cyntaf ym mis Medi.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad pwysig hwn i gefnogi’r datblygiad. Bydd yr arian hwn yn helpu sicrhau bod gan y myfyrwyr newydd fynediad at yr adnoddau gorau ac addysg o’r radd flaenaf pan fyddant yn dechrau ym mis Medi.

“Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn ddatblygiad pwysig ar gyfer recriwtio a chadw nyrsys yng nghanolbarth Cymru, ac yn cynnig buddion ehangach i’r ardal. Yn ogystal, mae potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd. Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n partneriaid, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig, ac mae sefydlu addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny. Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt.

“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu ein cynlluniau i ddarparu addysg nyrsio yma - gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd lleol a Chyngor Sir Ceredigion - hebddynt, ni fyddai’r datblygiadau cyffrous hyn yn bosibl.”

Datblygwyd y cynigion i sefydlu addysg nyrsio gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd y cyfle i dderbyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

26 Ionawr eleni yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i astudio fel rhan o’r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau ar gael drwy fynd i www.aber.ac.uk/cy/hec   neu drwy e-bostio nrsstaff@aber.ac.uk.