Cyllid newydd i hybu ymchwil i glefydau marwol

Y llyngeren sgistosom sy’n achosi’r clefyd a astudir ym Mhrifysgol Aberystwyth

Y llyngeren sgistosom sy’n achosi’r clefyd a astudir ym Mhrifysgol Aberystwyth

19 Ionawr 2022

Mae haint parasitig sy’n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd i gael ei dargedu gan raglen ymchwil gwerth £2.5 miliwn i ddarganfod cyffuriau sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y prosiect fel rhan o gronfa ariannol yr ‘Wellcome HIT-NTD Flagship’, sy'n ceisio datblygu cyffuriau newydd ar gyfer trin rhai o'r clefydau parasitig sydd wedi'u hesgeuluso fwyaf yn y byd.

Haint parasitig yw sgistosomiasis a achosir gan lyngyr lledog pitw bach  sy'n byw yn y pibellau gwaed o amgylch y coluddion neu'r bledren. Mae'r haint i'w gael mewn llawer o ranbarthau trofannol ac isdrofannol y byd ac amcangyfrifir ei fod yn achosi mwy na 230 miliwn o achosion clinigol bob blwyddyn.

Mae'n achosi afiechyd cronig ac, mewn plant, gall eu hatal rhag tyfu ac achosi problemau datblygiad gwybyddol. Yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mae sgistosomiasis yn gyfrifol am tua 200,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Mae gan y paraseit sy'n achosi sgistosomiasis gylch bywyd cymhleth, gan fyw mewn bodau dynol a rhai malwod dyfrol. Mae pobl yn cael eu heintio trwy ddod i gysylltiad â dŵr sydd wedi'i heintio â'r malwod hyn. Dim ond un cyffur sydd wedi'i gofrestru i fynd i'r afael â'r haint hwn, sy'n dangos angen brys am fathau newydd o driniaethau.

Nod y prosiect newydd hwn yw datblygu ffyrdd newydd o gyflymu'r broses gyn-glinigol o ddarganfod cyffuriau a symud ymlaen er mwyn adnabod cyfansoddion sydd â'r potensial i drin y clefyd. Mae’n dod â gwyddonwyr ynghyd o’r Uned Darganfod Cyffuriau ym Mhrifysgol Dundee, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd a pharasitolegwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Karl Hoffmann o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r cydweithrediad ymchwil hanfodol hwn gan y bydd yn cyfrannu at ddatblygu ffyrdd newydd o drin afiechyd sy’n effeithio ar gannoedd o filiynau o bobl ledled y byd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Wellcome am ei buddsoddiad hollbwysig hefyd - ni fyddai’r prosiect hwn yn bosibl heb ei chefnogaeth. Yn Aberystwyth, byddwn yn adnabod cyfansoddion newydd i gyfrannu at y broses o ddarganfod cyffuriau newydd ac yn datblygu dulliau newydd o astudio'r hyn y maent yn ei wneud ar y llyngyr parasitig hyn.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan allweddol o fap ffordd Sefydliad Iechyd y Byd i gyflawni’r nodau datblygu cynaliadwy byd-eang, sy’n golygu dileu sgistosomiasis erbyn 2030. Nid yw’n gynaliadwy i ddibynnu ar un cyffur yn unig i drin y clefyd hwn, a bydd yr ymchwil cydweithredol hwn yn cyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i ddatblygu dewisiadau amgen. Mae hefyd yn adeiladu ar waith blaenorol yma yn Aberystwyth yn y maes bioleg hwn.”

Nod Sefydliad Iechyd y Byd yw dileu sgistosomiasis erbyn 2030 fel rhan o gyflawni Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig i wella iechyd a mynediad at ddŵr glân.