Cyhoeddi enw cwmni adeiladu'r Hen Goleg a lansio cymal olaf yr ymgyrch codi arian

Cyflwyno allwedd yr Hen Goleg: Yr Athro Elizabeth Treasure yn cyflywno allwedd yr Hen Goleg i Mark Bowen o Andrew Scott Cyf, yng nghwmni Rachel Barwise o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Stephen Lawrence Cyn-Lywydd Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg (ar y dde).

Cyflwyno allwedd yr Hen Goleg: Yr Athro Elizabeth Treasure yn cyflywno allwedd yr Hen Goleg i Mark Bowen o Andrew Scott Cyf, yng nghwmni Rachel Barwise o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Stephen Lawrence Cyn-Lywydd Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg (ar y dde).

14 Ionawr 2022

Mae cynlluniau uchelgeisiol i ddod â bywyd newydd i Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw, ddydd Gwener 14 Ionawr 2022, gyda chyhoeddi enw prif gontractwr adeiladu’r prosiect.

Bydd Andrew Scott Cyf o Bort Talbot yn ymgymryd â’r her o drawsnewid un o adeiladau rhestredig Gradd 1 mwyaf rhagorol Cymru, a chartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, yn ganolfan ddysgu, treftadaeth, diwylliant a menter o bwys.

Bydd y cwmni'n cymryd y safle drosodd ar unwaith ac yn dechrau gweithio ar y prosiect cyn gynted ag y bydd yr holl gamau paratoi angenrheidiol wedi'u cwblhau.

Mae penodiad Andrew Scott Ltd yn nodi dechrau cyfnod adeiladu'r prosiect a fydd yn cynrychioli buddsoddiad o £36m yn yr adeilad eiconig hwn yn Aberystwyth.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae heddiw’n garreg filltir hynod arwyddocaol wrth i ni wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol i ddod â bywyd newydd i’r adeilad eiconig hwn a sefydlu canolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys i Gymru lle gall cymunedau amrywiol ymgysylltu â dysgu a threftadaeth, darganfod ar y cyd a ffynnu wrth fentro.

“Mae hwn yn brosiect hynod bwysig i Aberystwyth – i’r Brifysgol a’r dref, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae’r weledigaeth wedi’i chefnogi gan ein partneriaid a chyn-fyfyrwyr sydd wedi addo cyllid sylweddol i’w cefnogi. Bydd ein gwaith codi arian nawr yn cychwyn ar gyfnod newydd, sydd mor bwysig ag erioed, fel rhan o’r hyn a fydd yn fuan iawn yn brosiect adeiladu byw, ac a fydd yn adfywio ein Hen Goleg hanesyddol.”

Dywedodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Scott Cyf: “Rydym yn eithriadol o falch o fod yn ymgymryd â’r gwaith hanesyddol hwn o adfer yr Hen Goleg mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth. Yr Hen Goleg yw cartref gwreiddiol y Brifysgol ac un o adeiladau diwylliannol pwysicaf Cymru ac rydym yn ymroddedig i sicrhau parhad yr etifeddiaeth wrth i ni ddod â bywyd newydd i’r adeilad.

“Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad o bwys mawr yn Aberystwyth ac yn gyfle unwaith mewn oes i wella sgiliau adeiladu a threftadaeth yn y rhanbarth, tra’n gwneud y mwyaf o’r sgôp ar gyfer uwchsgilio mewn technolegau gwyrdd a chynaliadwy. O’r herwydd, mae Andrew Scott Cyf yn gwbl ymroddedig i greu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy hirdymor i bobl sy’n byw yn Aberystwyth a Cheredigion yn ehangach, drwy sicrhau bod y prosiect yn gwneud y mwyaf o effaith gymdeithasol buddsoddiad cyfalaf yn uniongyrchol i’r gymuned leol, drwy ein polisi gwerth cymdeithasol o gaffael a chyflogaeth leol gynaliadwy.”

Disgwylir i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn ystod haf 2024.

Bywyd Newydd i'r Hen Goleg

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yr Hen Goleg yn ganolfan o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd o Wybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.

Arwyddair y Brifysgol yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer Byd o Wybodaeth a fydd yn cynnwys Canolfan a fydd yn dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa’r Brifysgol, prosiect Pobl Ifanc i ddarparu cyfleoedd i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio myfyrwyr 24-7 a sinema â’r dechnoleg ddiweddaraf.

Y Cwad yw calon yr Hen Goleg, a bydd yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Diwylliant a Chymuned a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid o bwys. Bydd y parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.

Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc ym maes busnesau creadigol a digidol, dwy sector sy’n tyfu’n gyflym ac o bwysigrwydd economaidd mawr i orllewin Cymru.

Yn ogystal bydd mynedfa gyhoeddus newydd drwy’r ddwy fila Sioraidd, 1 a 2 y Promenâd Newydd, ystafell ddigwyddiadau newydd ar gyfer hyd at 200 o westeion gyda golygfeydd godidog allan dros Fae Ceredigion, a llety gwesty 4*.

At ei gilydd, bydd y datblygiad yn darparu mannau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys 10 ystafell gyda chapasiti yn amrywio o 60 i 200 o bobl, a disgwylir iddo ddenu 200,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Codi arian

Eisoes mae’r Brifysgol wedi sicrhau’r mwyafrif helaeth o’r cyllid ar gyfer y prosiect, ac mae penodiad y cwmni adeiladu yn nodi lansio cymal olaf ymgyrch godi arian yr Hen Goleg.

Derbyniodd y prosiect gefnogaeth ariannol sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghyd ag arian gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Wolfson, Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch, Sefydliad Foyle ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.

Yn ogystal, codwyd dros £1.2m mewn rhoddion hael gan unigolion a grwpiau mewn ymateb i apêl ryngwladol yr Hen Goleg, apêl fwyaf uchelgeisiol y Brifysgol ers ei sefydlu ym 1872.

Bydd cymal olaf yr apêl yn parhau tan haf 2024, a bydd yr arian a godir yn galluogi’r Brifysgol i wireddu potensial llawn y prosiect uchelgeisiol a chyffrous hwn er budd myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Mae codi rhagor o arian ar gyfer yr apêl yn hollbwysig o hyd, a bydd yn parhau hyd at ailagor yr Hen Goleg. Mae’r gefnogaeth i apêl yr ​​Hen Goleg wedi bod yn anhygoel ac rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni ein cymuned o gyn-fyfyrwyr a ffrindiau o bedwar ban byd. Hoffem ddiolch yn arbennig i Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, Clwb Cyn-fyfyrwyr Malaysia ac Undeb y Myfyrwyr am eu cefnogaeth.

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth gan gefnogaeth ddyngarol ac mae wedi tyfu i fod yn sefydliad ffyniannus ac uchelgeisiol o ganlyniad i bron i 150 mlynedd o gefnogaeth o bedwar ban byd. Diolch i’r gefnogaeth barhaus hon, bydd adfer yr Hen Goleg yn cadarnhau ei le yn nhreftadaeth Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, a thrwy ei ddyluniad arloesol bydd yn cynhyrchu gweithgareddau addysgol, allgymorth, ymgysylltu, menter ac ymchwil gyda budd cyhoeddus pellgyrhaeddol a hanfodol.”

I gyd-fynd â cham olaf yr ymgyrch godi arian, mae tîm yr Hen Goleg wedi cynhyrchu fideo newydd sy'n cynnwys myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, a chynrychiolwyr o'r gymuned.

Yn ei gyfraniad i’r fideo, dywedodd Bryn Jones, cynrychiolydd cymunedol ar Fwrdd Prosiect yr Hen Goleg: “Ni allaf feddwl am unrhyw adeilad pensaernïol arall ar hyd yr arfordir gorllewinol hwn sy’n fwy haeddiannol o gael ei adnewyddu a’i adfywio. Bydd hyn yn trawsnewid tref Aberystwyth, nid yn unig i’r myfyrwyr, ond i’r gymuned ehangach.”

Mae’r prosiect hefyd wedi derbyn cefnogaeth Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Dywedodd Swyddog Cyfleoedd yr Undeb, Rachel Barwise: “Rydym yn falch iawn o weld prosiect yr Hen Goleg yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae Aberystwyth wedi croesawu cenedlaethau o bobl ifanc o bob cwr o’r byd i astudio yma a dod yn rhan o’n tref a’n cymuned fendigedig. Bydd yn wych gweld yr Hen Goleg yn dychwelyd i fod yn ganolbwynt i’r myfyrwyr sy’n byw yn y dref, a’r posibiliadau cyffrous y bydd yn eu cynnig i genhedlaeth newydd o bobl ifanc.”

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyfrannu at Apêl yr ​​Hen Goleg ar-lein www.aber.ac.uk/appeal.

Allwedd yr Hen Goleg

I nodi dyfarnu cytundeb adeiladu prosiect yr Hen Goleg i Andrew Scott Cyf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi comisiynu allwedd o dderw Cymreig gan Pedair Cainc, cwmni gwaith coed o Landeilo sydd wedi ei sefydlwyd gan Geraint Edwards, un o gyn-fyfyriwr y Brifysgol.

Graddiodd Geraint o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn 2008 a bu’n astudio yn yr Hen Goleg drwy gydol ei gyfnod yn y coleg. Treuliodd flwyddyn hefyd fel Llywydd UMCA.

Mae llafn yr allwedd, sydd ychydig dros fetr o hyd, yn adlewyrchu siap yr Hen Goleg, ac arfbais y Brifysgol ar ei phen.

Mae'r allwedd yn cynrychioli trosglwyddo'r safle i ofal Andrew Scott Cyf ar gyfer cyfnod y gwaith adeiladu. Bydd yn cael ei chyflwyno yn ôl i'r Brifysgol i nodi cwblhau'r gwaith adeiladu.