Prifysgol Aberystwyth yn datblygu technoleg i atal gor-bysgota octopysau

Yr Athro Paul Shaw

Yr Athro Paul Shaw

06 Rhagfyr 2021

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu technoleg newydd i atal gor-bysgota octopysau a chreaduriaid eraill y môr.

Mae pysgota octopysau, sgwid a phenbedogion (seffalopodau) eraill - a adnabyddir hefyd fel pysgod inc gan eu bod i gyd yn gallu chwistrellu inc - wedi cynyddu’n sylweddol dros y chwe degawd diwethaf.

Yn aml, nid yw rhywogaethau octopws yn cael eu hadnabod yn gywir. Yn ogystal, nid yw’r niferoedd sy’n cael eu dal a’u lleoliadau yn cael eu hadrodd yn gywir. O ganlyniad, mae pryder y gallai’r diffyg data amdanyn nhw arwain at or-bysgota, gan beryglu eu dyfodol a ffynhonnell bwysig o fwyd llawn protein ar gyfer poblogaeth y byd.

Nod tîm ymchwil amlddisgyblaethol, sy’n cynnwys academyddion o Aberystwyth, yw mynd i’r afael â hynny drwy ddefnyddio DNA amgylcheddol, dysgu peirianyddol ac offer deallusrwydd artiffisial i greu rhwydwaith olrhain bwyd y môr er mwyn gwella rheoli stoc a sicrhau cynaliadwyedd octopysau a gaiff eu pysgota.

Bydd cam cyntaf y prosiect yn cael ei ariannu gyda $750,000 dros 12 mis o Gyflymydd Cydgyfeirio Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol Llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Un o uwch wyddonwyr y prosiect yw’r Athro Paul Shaw sydd yn Athro Geneteg a Genomeg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yn datblygu bas-data byd-eang o enynnau octopws a fydd yn sail i olrhain cynnyrch pysgod.

Fel rhan o’r prosiect, fe fydd y tîm yn datblygu ap ffôn i alluogi pawb yn y gadwyn cyflenwi pysgod - pysgotwyr, masnachwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid - i gael y wybodaeth sy’n olrhain o ble mae’u bwyd yn dod a pha mor gynaliadwy yw.

Dywedodd Yr Athro Shaw:

“Mae olrhain a rhannu gwybodaeth ynghylch o ble ddaw ein bwyd môr yn rhan allweddol o’r ymdrechion i atal gor-bysgota. Gall olrhain tarddiad bwyd môr gynorthwyo pobl ar draws y gadwyn gyflenwi i wneud dewisiadau gwybodus am bysgota’n gynaliadwy.  Mi fydd y dechnoleg flaengar hon yn defnyddio dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial a dulliau DNA amgylcheddol er mwyn adnabod ac olrhain cynnyrch pysgod.

“Y nod yw darparu prawf o gysyniad y gellir ei gyflwyno i'r diwydiant pysgota yn gyffredinol. Felly, er y bydd y tîm yn canolbwyntio ar benbedogion, neu seffalopodau, y nod tymor hwy yw darparu system gynhwysfawr i alluogi cynaeafu, dosbarthu a phrosesu unrhyw eitem bwyd môr i'r defnyddiwr mewn ffordd a adnabyddir yn glir ac yn gynaliadwy.”

Amcanion y tîm yw datblygu system olrhain prototeip sy'n caniatáu adnabod rhywogaethau ac ardaloedd pysgota octopws gwyllt yn yr Unol Daleithiau ac ar draws y byd.

Byddant hefyd yn dod â rhwydwaith gwyddoniaeth dinasyddion ynghyd i gasglu data newydd ar boblogaethau octopws o becynnau DNA amgylcheddol cludadwy.

Mae DNA amgylcheddol yn DNA rhydd sy'n parhau yn yr amgylchedd, dŵr y môr yn yr achos hwn, gan roi syniad o ba organebau sy'n gyffredin neu yn y cyffiniau.

Bydd samplau dŵr a gesglir gan aelodau’r tîm oddi ar De California a Campeche / Yucatan, Mecsico yn cael eu dadansoddi yn labordy Prifysgol Loyola Marymount, a bydd y canlyniadau’n cael eu storio gyda data arall yn nangosfwrdd SeaTraceBlueNet y prosiect.

Ychwanegodd Demian Willette, athro cynorthwyol bioleg yng Ngholeg Gwyddoniaeth a Pheirianneg Frank R. Seaver Prifysgol Loyola Marymount, a fydd yn gwasanaethu fel prif ymchwilydd arweiniol y tîm:

“Drwy weithio gydag ystod o bartneriaid a thechnoleg flaengar, rydym yn bwriadu cynhyrchu teclyn olrhain a fydd yn caniatáu gwell dealltwriaeth o'r rhywogaethau sy'n cael eu dal, ffynhonnell y cynnyrch, a chadarnhad o'i lwybr cyfreithlon o'r bysgodfa i'r fforc."

Mae'r tîm 15 aelod yn cynnwys arbenigwyr o saith gwlad, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Cymru, De Affrica, Japan a Mecsico, ar draws y meysydd rheoli pysgodfeydd, bioleg forol, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, gwyddoniaeth data a dadansoddeg, anthropoleg amgylcheddol, geneteg, a pholisi masnach pysgodfeydd.

Bydd 14 o bartneriaid y diwydiant, o bysgotwyr i broseswyr bwyd môr, yn helpu i lywio a phrofi dyluniad yr offeryn olrhain i'w ddefnyddio yn y byd go iawn.