Y Philomusica i berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth
01 Rhagfyr 2021
Nos Sadwrn 4 Rhagfyr 2021, bydd cerddorfa symffoni Philomusica Aberystwyth a Chantorion y Brifysgol yn perfformio ar lwyfan Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Arweinir y gerddorfa a’r côr am y tro cyntaf gan Gyfarwyddwr Cerdd newydd y Brifysgol, Iwan Teifion Davies.
Bydd rhaglen y noson yn cynnwys perfformiad cyntaf erioed y darn grymus Vale gan y cyfansoddwr o Gymru, David Roche, yn ogystal â Requiem Mozart a Phumed Symffoni Shostakovich.
Mae gan y gerddorfa enw am gyflwyno rhaglenni gloyw a llawn dychymyg, ac o’i fath mae’n un o’r grwpiau mwyaf ei faint a’i lwyddiant yng Nghymru. Ymhlith a saith deg o aelodau y mae myfyrwyr a cherddorion amatur a phroffesiynol. Yn ymuno â’r gerddorfa ar y llwyfan fydd côr cymysg mawr Cantorion y Brifysgol.
Meddai’r arweinydd, Iwan Teifion Davies: “Bydd yn bleser cael arwain y Philomusica a Chantorion y Brifysgol am y tro cyntaf. Cyfyngodd y pandemig ar berfformiadau cerdd ers amser, ac fe fydd yn wych i’r offerynwyr a’r cantorion dawnus hyn gael cyfle i berfformio unwaith eto.
“Wrth ystyried rhaglen y cyngerdd, dewisais Requiem Mozart yn destament i’r boen a deimlwyd gan bawb ohonom ers mis Mawrth 2020; mae Vale gan David Roche yn rhoi darlun o obaith a chofnod o oroesi, ac mae Pumed Symffoni aruthrol Shostakovich, a gyfansoddwyd mewn amgylchiadau gwleidyddol amhosibl, yn dangos bod celfyddyd bob amser yn gorchfygu.”
Cynhelir cyngerdd y Philomusica a Chantorion y Brifysgol am 8pm nos Sadwrn 4 Rhagfyr yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau. Gellir cael tocynnau o’r Swyddfa Docynnau, am £12 (gostyngiadau £11) neu ddim ond £3.50 i fyfyrwyr – 01970 623232 / www.aberystwythartscentre.co.uk. Wrth gyrraedd, bydd yn rhaid i’r rhai sy’n prynu tocyn ddangos prawf eu bod wedi cael pob brechiad COVID-19 neu dystiolaeth o ganlyniad negyddol i brawf Dyfais Llif Unffordd.
Daeth Iwan Teifion Davies i swydd Gyfarwyddwr Cerdd yn y Brifysgol ym mis Awst. Bydd yn gweithio gyda Chyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth i arwain darpariaeth gerddorol y Brifysgol, gan ddod â'r Brifysgol a'r gymuned at ei gilydd a meithrin cysylltiadau newydd trwy raglen unigryw o weithgareddau.