Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod Sylfaenwyr 2021
Cicio’r Bar ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr, 2021.
22 Hydref 2021
Ddydd Gwener 15 Hydref, nododd Prifysgol Aberystwyth 149 mlynedd ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf, gyda gorymdaith Diwrnod y Sylfaenwyr o’r Hen Goleg i gicio’r bar ym mhen gogleddol y Promenâd.
Mae'r digwyddiad blynyddol yn coffáu'r diwrnod pan groesawyd 26 o fyfyrwyr i'r Hen Goleg, a oedd yn gyn-westy, gan y Prifathro Thomas Charles Edwards ym mis Hydref 1872.
Yn unol â'r traddodiad, arweiniwyd yr orymdaith gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith y myfyrwyr, aelodau staff a chynrychiolwyr etholedig ac aelodau o'r gymuned leol.
Gan fod yr Hen Goleg ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu, cynhaliwyd derbyniad Diwrnod y Sylfaenwyr eleni yng nghanolfan gynhadledda Medrus ar gampws Penglais.
Y siaradwr gwadd eleni oedd Y Gwir Anrhydeddus Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.
Yn wreiddiol o Eltham yn Llundain, graddiodd Liz mewn Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Aberystwyth yn 1987, a dysgodd Gymraeg yn ystod ei chyfnod yma.
Wrth annerch y derbyniad, dywedodd: “Mae’n braf iawn cael bod yn ôl yma yn Aberystwyth, a derbyn gwahoddiad i nodi dyddiad sydd mor bwysig yng nghalendr y Brifysgol.
“Mae'n bleser mawr gen i weld ymrwymiad y Brifysgol i Gymru fel cenedl sy’n gynyddol hyderus ymysg cenhedloedd y byd. Mae'r myfyrwyr sy'n teithio yma o bell ac agos, fel y gwnes i fy hun, yn dod i Aberystwyth i gael eu trawsnewid. Mae'r genhedlaeth hon wedi profi rhwystrau, na fu'n rhaid i ni eu dioddef erioed, a bydd eu profiadau yn ystod eu cyfnod yma yn hanfodol ar gyfer eu lles a'u gyrfaoedd. Y wybodaeth a'r sgiliau a roddwyd iddynt gan y Brifysgol hon fydd yr offer a fydd yn eu galluogi i lunio dyfodol dynoliaeth yn ein hamgylchedd bregus. Ac am hynny, mi fyddai’n sylfaenwyr yn falch.”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Roedd yn hyfryd cael croesawu pawb i’n dathliad Diwrnod y Sylfaenwyr eleni. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn ac roedd yn hyfryd gallu cwrdd â chynrychiolwyr o'r dref a'r gymuned ehangach wyneb yn wyneb a diolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig. Mae hanes y Brifysgol yn un o bobl o bob cefndir yn dod ynghyd i wireddu gweledigaeth, un sydd heddiw’n darparu un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU gyfan. Y cydweithio agos hwn rhwng y Brifysgol, sefydliadau lleol, darparwyr iechyd a’r gymuned ehangach sydd wedi ein cynnal yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe’n galluogodd yma yn y Brifysgol i barhau i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr, er gwaethaf y cyfyngiadau a fu ar waith.”
Bydd Diwrnod y Sylfaenwyr 2022 yn rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant y Brifysgol, carreg filltir bwysig y mae'r Brifysgol yn dymuno ei rhannu â chymaint o'i myfyrwyr, staff, aelodau o'r gymuned leol, cyn-fyfyrwyr a ffrindiau o amgylch y byd.
Bydd y flwyddyn hefyd yn nodi pen-blwydd arbennig Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr yn 130 oed.
Er na fu’n bosibl dathlu yn yr Hen Goleg eleni, mae'r prosiect i drawsnewid yr adeilad eiconig yn ganolfan fywiog ar gyfer dysgu, diwylliant a menter ac yn gatalydd o bwys ar gyfer datblygu Aberystwyth yn dangos cynnydd cryf.
Datblygwyd yr Hen Goleg yn wreiddiol fel gwesty gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin. Prynwyd yr adeilad ym 1867 cyn iddo gael ei orffen, a’i addasu’n gartref i’r Brifysgol mewn pryd ar gyfer croesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 1872.
Ymhlith y pynciau ar y cwricwlwm bryd hynny oedd Cemeg, Ieitheg Gymharol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Groeg, Hebraeg (hefyd Arabeg, Syrieg, Sanskrit, Twrceg a Pherseg), Hanes, Eidaleg, Lladin, Rhesymeg ac Athroniaeth, Mathemateg, Gwyddorau Naturiol a Seryddiaeth.
O'r cychwyn cyntaf, bu cyfraniadau ariannol gan y cyhoedd yn bwysig iawn i ddatblygiad y Brifysgol. Ym 1875 datganodd capeli ledled Cymru y byddai casgliad yn cael ei wneud ar gyfer y Brifysgol ar Sul olaf mis Hydref, Sul y Brifysgol. Cyfrannodd dros 70,000 o bobl a chasglwyd £3,100.
Os am wybod mwy am hanes Prifysgol Aberystwyth ewch i wefan Hanes Prifysgol Aberystwyth