Prif Weinidog Cymru yn Agor ArloesiAber yn Swyddogol

O'r chwith i'r dde: yr Athro Melanie Welham, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, Dr Rhian Hayward MBE, yr Athro Elizabeth Treasure

O'r chwith i'r dde: yr Athro Melanie Welham, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, Dr Rhian Hayward MBE, yr Athro Elizabeth Treasure

22 Hydref 2021

Dathlodd ArloesiAber ei agoriad swyddogol ddydd Iau 21 Hydref 2021 mewn seremoni a lywyddwyd gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru.

Wedi’i leoli ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, mae ArloesiAber yn cynnig cyfleusterau ac arbenigedd o ansawdd byd-eang ar gyfer y sectorau biotechnoleg, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod.

Roedd y digwyddiad yn nodi agoriad swyddogol y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn y datblygiad gwerth £43.5m, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) – sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU - a Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru: "Roedd yn bleser helpu i ddathlu agoriad Campws Arloesi a Menter newydd Aberystwyth. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r fenter a rhoi dros £23m drwy'r rhaglen ERDF. Mae ArloesiAber bellach mewn sefyllfa berffaith i ddatblygu prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol."

Mae ArloesiAber yn ddatblygiad 3,500m2 a adeiladwyd yn unol â Safonau Rhagorol BREEAM. Mae’n cynnwys pedwar parth a gynlluniwyd yn bwrpasol ar gyfer ymchwil a datblygu mewn bwyd-amaeth a'r economi gylchol: ei Chanolfan Bioburo, Canolfan Bwyd y Dyfodol, Uwch Ganolfan Ddadansoddi a Biofanc Hadau Prifysgol Aberystwyth.

Wedi'i gydleoli ar y safle mae Deorfa ArloesiAber, swyddfeydd ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach a chanolig sy'n awyddus i gydweithio ag academyddion Prifysgol Aberystwyth gan ddefnyddio cyfleusterau'r Campws.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae heddiw'n garreg filltir hynod bwysig i ArloesiAber ac i Gampws Gogerddan y Brifysgol. Mae'r cyfleusterau arloesol hyn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol o fewn y sectorau biotechnoleg, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod yn caniatáu i ddiwydiant a'r byd academaidd gydweithio i fynd i'r afael â rhai o'n heriau pwysicaf, megis lliniaru newid yn yr hinsawdd a throsglwyddo i economi carbon isel.”

Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar y campws ym mis Awst 2020 gan Willmott Dixon, ac yn dilyn cyfnod o gaffael a chomisiynu offer, bu modd i nifer cyfyngedig o wahoddedigion fod yn bresennol i ddathlu'r agoriad swyddogol. Gwahoddwyd grŵp ehangach o randdeiliaid i ymuno'n rhithwir.

Wrth hyrwyddo’r cyfleusterau ymchwil a datblygu newydd, mae tîm ArloesiAber wedi llwyddo i ddenu busnesau i fod yn denantiaid yn Neorfa newydd ArloesiAber, ac ar hyn o bryd mae pob un lle wedi’i lenwi ac mae 14 o gwmnïau arloesol ar y safle.

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber: “Rydym wedi cyrraedd carreg filltir bwysig. Rwy'n falch iawn o Dîm ArloesiAber, sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu'r cyfleusterau unigryw hyn. Nawr gall ein tenantiaid ar y safle, y gymuned fusnes leol a'n rhwydwaith cynyddol o gwmnïau byd-eang, ddefnyddio'r adnoddau newydd i ddatblygu eu cynhyrchion a'u gwasanaethau.

Mae ein tîm yn barod i’w cynorthwyo i feithrin cyswllt ag arbenigwyr yn y brifysgol, cyllidwyr a darparwyr gwasanaethau proffesiynol ac rwy'n hyderus y bydd ArloesiAber yn cyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd yma yng nghanolbarth Cymru.”

Dywedodd yr Athro Melanie Welham, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC): "Fel un o bartneriaid ariannu ArloesiAber, rydym yn helpu i ddod ag ymchwilwyr, arloeswyr a busnesau at ei gilydd i ymestyn ffiniau a chreu diwydiannau newydd. Mae ArloesiAber yn golygu bod dyfodol arloesedd yn y rhanbarth mewn dwylo da ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith cyffrous a fydd yn deillio o'r ganolfan."

Hefyd, fel rhan o'r digwyddiad, cymerodd y Prif Weinidog a'r Athro Melanie Welham ran mewn sesiwn holi ac ateb yn edrych ymlaen at COP26 fel rhan o Ŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.  Cadeiriwyd y sesiwn gan y darlledwr a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, Betsan Powys, a ofynnodd gwestiynau a gyflwynwyd gan staff a myfyrwyr.