Myfyriwr graddedig mewn Cyfrifiadureg yn cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Arloesedd i Beirianwyr mewn Busnes
Karl Swanepoel
14 Hydref 2021
Mae Karl Swanepoel, sy’n ddwy ar hugain oed, ac yn fyfyriwr Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg graddedig o Brifysgol Aberystwyth wedi sicrhau lle yn rownd derfynol cystadleuaeth arloesedd Engineers in Business Champion of Champions.
Enillodd Karl gystadleuaeth entrepreneuriaeth myfyrwyr Gwobr CaisDyfeisio 2021 y Brifysgol gyda'i ddyfais Revolancer, marchnad lawrydd sy'n cysylltu gweithwyr llawrydd medrus â busnesau uchelgeisiol sy'n ceisio tyfu.
Cynhelir rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth arloesedd Engineers in Business Champion of Champions ar 22 Hydref 2021 yn yr Academi Beirianneg Frenhinol, dan ofal y cyflwynydd teledu Rob Bell.
Yn y digwyddiad, bydd Karl yn cyflwyno ei ddatblygiad newydd yn erbyn naw tîm arall o fyfyrwyr a graddedigion sy’n arloesi, mewn cystadleuaeth ar-lein ar ffurf ‘Dragon’s Den’. Bydd gan Karl chwe munud i argyhoeddi'r beirniaid, trwy ei gyflwyniad a sesiwn Cwestiwn ac Ateb, y dylid ei goroni’n Bencampwr y Pencampwyr.
Mae swm o £15,000 ar gael, sy’n darparu arian cychwynnol hanfodol i helpu'r enillwyr i ddatblygu eu datblygiad newydd. Bydd yr enillwyr hefyd yn derbyn mentora gan arweinwyr busnes sy'n aelodau o Rwydwaith Cymrodyr Rheoli Sainsbury, ynghyd â phecynnau CV gan Purple CV a llyfrau entrepreneuraidd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.
Noddir y gystadleuaeth gan yr elusen gofrestredig, Engineers in Business Fellowship sy'n cefnogi un o'r gwobrau yng nghystadleuaeth flynyddol Gwobr CaisDyfeisio Prifysgol Aberystwyth.
Mae syniad busnes Karl, Revolancer, yn farchnad lawrydd sy'n defnyddio rheolaeth ansawdd wedi'i bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel safon, gan gadw gorbenion yn isel. O ganlyniad, mae prynwyr sy'n llogi gweithwyr llawrydd yn cael gwerth ac ansawdd heb gyfaddawdu. Lansiodd Karl Revolancer Beta yn ddiweddar, ac mae ganddo dros 150 o ddefnyddwyr eisoes yn mwynhau'r platfform. Mae bwrdd cynghori Revolancer yn cynnwys Prif Weithredwr sefydlol Just Eat.
Daeth y syniad am Revolancer i Karl yn ystod ei arddegau ac ar ôl meithrin sgiliau arloesi busnes mae wedi cychwyn ar redeg ers graddio eleni fel y mae’n egluro: “Fe wnes i weithio ar fy liwt fy hun yn fy arddegau i wneud rhywfaint o arian ar-lein. Sylweddolais yn gyflym nad yw llwyfannau presennol yn trin gweithwyr llawrydd yn deg, a bod ffordd well o wneud pethau. Dwi wastad wedi bod eisiau cychwyn busnes, ac mae hon yn broblem roeddwn i'n teimlo'n angerddol am ei datrys."
Dyluniwyd y gystadleuaeth Peirianwyr mewn Busnes i ysbrydoli peirianwyr i astudio busnes ac arloesedd. Dywedodd Karl: “Mae gan beirianneg ac entrepreneuriaeth lawer yn gyffredin. Gyda'r ddau, rydych chi'n ymdrechu i ddod o hyd i atebion creadigol i broblemau cymhleth, ac yn darparu gwerth trwy wneud rhywbeth yn fwy effeithlon. Dylid dysgu sgiliau busnes i fyfyrwyr peirianneg ochr yn ochr â mentoriaeth. Ni allwn fod wedi cyflawni'r hyn sydd gennym heb fentoriaeth nifer o unigolion profiadol, a roddodd eu hamser yn garedig i'n helpu i ddatblygu cynnig a model busnes cryfach.”
Wrth sôn am gyrraedd Rownd Derfynol Engineers in Business Champion of Champions dywedodd Karl, “Mae cymryd rhan yn y rownd derfynol yn gyfle anhygoel, ac rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cyrraedd y cam hwn. Roedd hi’n wych cwrdd â'r cystadleuwyr eraill a dysgu am eu syniadau hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno i'r beirniaid a gobeithio ennill eu cefnogaeth. ”