Mae prifysgolion yng Ngheredigion yn cyfrannu £135m i'r sir, yn ôl adroddiad newydd

Aberystwyth

Aberystwyth

08 Hydref 2021

Mae prifysgolion yng Ngheredigion yn cyfrannu £135 miliwn i economi'r sir drwy gyfuniad o wariant uniongyrchol a phrynu gan staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Dangosodd adroddiad annibynnol newydd a gomisiynwyd gan Brifysgolion Cymru werth y sector i Gymru, sef hwb o £5 biliwn i'r economi ac un o bob 20 swydd ledled y wlad.

Ledled Cymru, mae prifysgolion Ceredigion yn cynhyrchu gwerth £241.67 miliwn i economi'r wlad. Mae'r prifysgolion hyn hefyd wedi creu 3,303 o swyddi yng Ngheredigion naill ai'n uniongyrchol yn y brifysgol neu sydd yndibynnu arni.

Mae buddion eraill y sector yn cynnwys ymchwil sy'n newid bywydau ac addysgu gweithlu yfory ar draws y sector preifat a chyhoeddus. Amcangyfrifwyd y bydd 10,000 o nyrsys, 4,000 o arbenigwyr meddygol ac 8,000 o athrawon yn hyfforddi ym Mhrifysgolion Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan allweddol yn hyn gyda lansiad cymwysterau nyrsio y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr hyn y mae Prifysgol Aberystwyth yn ei gyfrannu yng Ngheredigion ac economi ehangach Cymru. O ddarparu mynediad i addysg a sgiliau i weithio gyda busnes ar ymchwil ac arloesi blaengar, mae'r gwaith yr ydym ni a'r sector ehangach yn ei gysylltu'n agos â phobl a lleoedd Cymru.

 

“Yr hyn sy'n fwyaf nodedig am ganfyddiadau'r adroddiad hwn yw nid yn unig effaith economaidd uniongyrchol y gweithgareddau rydyn ni'n eu cynnal, ond sut rydyn ni'n dod â buddion ar draws cymunedau lleol ac, yn wir, ledled Cymru.

“Wrth i ni ailadeiladu ac adfer o effaith pandemig Covid-19, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, wrth i wynebu heriau byd sy'n newid. Mae gan y sector prifysgolion nod ar y cyd o ran tyfu a chynnal sector addysg uwch lwyddiannus, fentrus sy'n denu arbenigedd a rhagoriaeth ryngwladol wrth gyflawni dros Gymru gyfan.”

Canfu’r adroddiad hefyd fod sector ehangach prifysgolion Cymru wedi cynhyrchu £5.3 biliwn o allbwn, yn cynnal 61,722 o swyddi, wedi arwain at un swydd i bob dau fyfyriwr rhyngwladol, wedi cyfrannu 11.8% (£661 miliwn) o holl enillion allforio sector gwasanaeth Cymru sy'n cyfateb i £2.8 biliwn o CMC.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad pwysig hwn yn fawr, sy’n nodi cryfderau sefydliadau addysg uwch Cymru a’u cyfraniad hanfodol i gymdeithas Cymru ac i’n heconomi.

“Yng Nghymru, rydym yn gwerthfawrogi ein prifysgolion fel ysgogwyr ymchwil ac arloesi, gan greu a dosbarthu gwybodaeth newydd a all drawsnewid sut rydym yn byw ac yn gweithio. Maen nhw’n rhan hanfodol o'r gadwyn sgiliau, gan addysgu a hyfforddi ein pobl ar gyfer swyddi'r dyfodol, a chynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau gydol oes.

“Yn hanfodol, mae ein prifysgolion yn sefydliadau hollbwysig yn ein cymunedau lleol, yn darparu neu'n cyfrannu at gyflogaeth 1 o bob 20 o bobl yng Nghymru, ac yn chwarae rhan allweddol mewn economïau lleol. Rwy'n arbennig o falch bod Cymru yn perfformio'n well na chenhedloedd eraill y DU ar gyfran y busnesau cychwynnol graddedigion fesul pen - gydag amrywiaeth drawiadol o fusnesau'n dod i'r amlwg o brifysgolion Cymru. Mae’r busnesau hyn yn ein helpu i gadw ein talent, sy’n hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

“Trwy eu gweithgareddau addysgu, ymchwil ac arloesi ac ymgysylltu dinesig, mae gan brifysgolion ran hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi ein cynlluniau adfer a'n Rhaglen blaenoriaethau . Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu Cymru mwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach."