Prifysgol Aberystwyth yn ceisio helpu’r economi wledig gyda lansiad rhwydwaith busnes newydd
Ysgol Fusnes Aberystwyth
08 Hydref 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio rhwydwaith ar gyfer busnesau newydd a mentrau gwledig sy'n ceisio rhannu gwybodaeth.
Mae GRRaIN - Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi - yn dwyn ynghyd weithgareddau menter ar draws Ysgol Fusnes y Brifysgol, ArloesiAber, Dysgu o Bell IBERS a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd sy'n rheoli contract Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Nod y rhwydwaith yw meithrin datblygiad busnesau a gweithgareddau entrepreneuraidd yn y Canolbarth, gyda ffocws ar rannu arloesedd a datrysiadau ymarferol i fusnesau newydd a chyfredol.
Trwy ymchwil meintiol ac ansoddol o safon uchel a datblygiad technoleg newydd, y nod yw sefydlu gorllewin Cymru fel lleoliad o fri rhyngwladol ar gyfer mentrau gwledig blaengar.
Yn draddodiadol mae economi Cymru wedi bod ar ei hôl hi yn y DU yn ei chyfran o ddiwydiannau uwch-dechnoleg, gan arwain at dwf economaidd isel, diweithdra a chynhyrchedd isel oherwydd diffyg sgiliau a chymwysterau.
Fodd bynnag, trwy fabwysiadu technoleg newydd a lansio busnesau newydd, gallai'r rhanbarth adeiladu ar ei gryfderau traddodiadol ym myd amaethyddiaeth a thwristiaeth a denu diwydiannau a gweithlu newydd i amryfalu'r economi yng ngorllewin Cymru.
Dywedodd Dr Wyn Morris, Uwch Ddarlithydd Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Mae busnesau’n dibynnu ar rwydweithiau gwych - rhannu syniadau, herio arferion ei gilydd a rhoi’r ysbrydoliaeth i’r naill a’r llall arloesi ymhellach yn eu maes.
“Bydd GRRaIN yn lle y gall sefydliadau a mentrau yn yr economi wledig gael mynediad at fyfyrwyr, graddedigion, staff y Brifysgol a busnesau newydd a rhannu gwybodaeth. Mae hefyd yn dwyn ynghyd fyfyrwyr entrepreneuraidd mewn gwahanol adrannau yn y Brifysgol i arddangos yr hyn sydd gan Aberystwyth i'w gynnig."
Mae cynlluniau uniongyrchol GRRaIN yn cynnwys cyflwyno ymchwil, datblygu gweithgareddau menter a meithrin cysylltiadau â'r economi wledig trwy gyfres o weminarau a digwyddiadau. Mae'n lansio'n ffurfiol yn ddiweddarach y mis hwn.