Gŵyl ymchwil newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth i edrych at heriau COP26
O’r chwith i’r dde: Yr Athro Julian Agyeman; Yr Athro Sarah Davies (Prifysgol Aberystwyth); Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS; Comisiynydd Amgylchedd yr UE Virginijus Sinkevičius; a’r Athro Milja Kurki (Prifysgol Aberystwyth)
06 Hydref 2021
Mi fydd arbenigwyr ar newid hinsawdd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth am wythnos o ddigwyddiadau er mwyn trin a thrafod heriau cyn uwch-gynhadledd COP26.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford, Comisiynydd Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd Virginijus Sinkevičius, a’r Athro Julian Agyeman, sy’n arbenigwr mewn polisi amgylcheddol, ymhlith y prif siaradwyr yng Ngŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol, sy’n dechrau ar 18 Hydref 2021.
Yn y cyfnod yn arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) ym mis Tachwedd 2021, mi fydd yr ŵyl yn Aberystwyth yn canolbwyntio ar gwestiynau allweddol ac yn trafod atebion posibl i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd-eang.
Bydd yn cynnwys ystod o brosiectau ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n gweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyfrannu at dargedau di-garbon net.
Yn ogystal, fel rhan o’r wythnos, cynhelir symposium undydd ar y thema ‘HinsawddAber: Colled, Difrod, Adnewyddiad’.
Bydd siaradwyr o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys academyddion o Aberystwyth, yn eu plith yr Athro Sarah Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a’r Athro Milja Kurki deiliad Cadair EH Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl a manylion am sut i gadw lle yn rhad ac am ddim, naill ai wyneb yn wyneb yn Aberystwyth neu’n rhithiol, ar gael drwy fynd i http://aber.ac.uk/gwylymchwil.
Dywedodd Yr Athro Rhys Jones, Cadeirydd Gŵyl Ymchwil 2021 Prifysgol Aberystwyth:
“Mae dynoliaeth a byd natur yn wynebu argyfwng yng nghyd-destun newid hinsawdd. Mae angen dybryd i ni weithredu er mwyn atal rhai o effeithiau negyddol a phellgyrhaeddol newid hinsawdd ond mae angen hefyd i’r gweithredoedd hyn fod yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol sy’n digwydd mewn prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth.
“Un o brif amcanion yr Ŵyl yw ymwneud â chymunedau lleol ynghyd â rhannu syniadau a mewnwelediadau. Rydyn ni eisiau hyrwyddo deialog gadarnhaol rhwng ein prifysgol, ein gwleidyddion a’r cyhoedd.”
Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure:
“Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’n planed, ac fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil sy’n helpu i ddatblygu atebion ar gyfer y byd go iawn. Wrth i arweinwyr rhyngwladol ymgynnull yn y DU i drafod gweithredu byd eang, bydd yr Ŵyl yn helpu i daflu goleuni ar y materion dwys sy’n ein hwynebu ac yn darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth dreiddgar ar draws pob disgyblaeth.
“Mae’n addas iawn mai dyma yw testun ein gŵyl ymchwil gyntaf, gan fod gennym yma draddodiad balch o ragoriaeth ymchwil mewn meysydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”
Yn ogystal â darlithoedd a thrafodaethau panel, mi fydd cystadleuaeth i ysgolion lleol i gynnal prosiectau ymchwil bach ar newid hinsawdd. Yn ogystal, cynhelir Talwrn y Tywydd gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.
Hon fydd yr Ŵyl Ymchwil flynyddol gyntaf o’i math ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac y bydd yn cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein eleni. Y nod yw ei sefydlu fel digwyddiad blynyddol o hyn allan.