Darlith gyhoeddus i ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd

Yr Athro Jan Selby

Yr Athro Jan Selby

01 Hydref 2021

Goblygiadau newid yn yr hinsawdd i wleidyddiaeth ryngwladol fydd pwnc Darlith Goffa Kenneth Waltz eleni, a gynhelir ddydd Iau, 14 Hydref.

Trefnir Darlith Goffa Kenneth Waltz 2021 gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Bydd a bydd yn cael ei thraddodi gan yr Athro Jan Selby o Brifysgol Sheffield.

Mae newid yn yr hinsawdd a heriau ecolegol wedi ein gorfodi i ailfeddwl amrywiol agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol: nid yn unig sut i hwyluso cydweithio yn y system wleidyddol ryngwladol ond hefyd, yn fwy sylfaenol, sut rydym ni’n deall hanfod natur a hanes gwleidyddiaeth ryngwladol.

Yn ei ddarlith bydd yn cynnig, yn herfeiddiol, y dylem ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yn ‘rhyng-garbonig’: gwleidyddiaeth ryngwladol wedi’i chlymu yn ei hanfod â charbon. Mae goblygiadau pwysig yn codi o ran sut rydym ni’n deall hanes gwleidyddiaeth ryngwladol, disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, her yr hinsawdd a phosibiliadau ar gyfer gwleidyddiaeth y dyfodol.

Dywed yr Athro Milja Kurki o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: ‘does dim un her sy’n fwy pwysig nac â mwy o frys nag ystyried oblygiadau newid yn yr hinsawdd i wleidyddiaeth ryngwladol ac, fel rhan o’r broses hon, sut rydym ni’n ynghlwm wrth y Ddaear a’i deunyddiau mewn amrywiol ffyrdd pwysig, ond trafferthus hefyd. Rydym ni’n falch iawn o gael croesawu’r Athro Selby i’n helpu i feddwl drwy heriau deallusol ac ymarferol y ‘cysylltiadau rhyng-garbonig’.

Cynhelir Darlith Goffa Kenneth Waltz 2021, ‘International/Inter-Carbonic Relations’, ar-lein am 7 yr hwyr ddydd Iau 14 Hydref. Mae’r ddarlith ar agor i unrhyw aelodau o’r cyhoedd, myfyrwyr a staff sydd â diddordeb. I gofrestru, cliciwch: https://event.webinarjam.com/channel/pub-lec-interpol

Mae Darlith Goffa Kenneth Waltz eleni yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a thrafodaethau arbennig ar newid yn yr hinsawdd a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth wrth edrych ymlaen at gynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys Gŵyl wythnos o hyd yn canolbwyntio ar ymchwil i newid yn yr hinsawdd sy’n dechrau ar 18 Hydref.


Y Siaradwr

Mae Jan Selby yn Athro Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Sheffield. Mae’r Athro Selby yn arbenigwr ar wleidyddiaeth newid yn yr hinsawdd, dŵr ac ynn,i ac yn arbennig ar sut mae cwestiynau grym yn gysylltiedig â phob un. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar oblygiadau gwrthdaro a diogelwch newid yn yr hinsawdd a gwleidyddiaeth dŵr, yn enwedig yng nghyd-destun Israel-Palestina a Syria, yn ogystal ag ar gwestiynau militariaeth, adeiladu heddwch, datblygu a llywodraethu byd-eang.


Crynodeb o Ddarlith Kenneth Waltz 2021: Yr Athro Jan Selby ‘International/Inter-Carbonic Relations’

Os gellir damcaniaethu bod cysylltiadau rhyngwladol yn ‘rhyng-destunol’, fel y mae llawer o ôl-strwythurwyr yn ei ddadlau, felly pam lai hefyd – neu, yn wir, yn well byth - ‘rhyng-garbonig’?  Oherwydd, yn ogystal â’r ffaith bod hanes modern carbon i raddau helaeth yn rhyngwladol, mae hefyd llawer o’r cysylltiadau hanesyddol allweddol a nodweddion diffiniol gwleidyddiaeth ryngwladol fodern wedi’u gwreiddio mewn carbon. Neu, yn fwy penodol, yn yr amrywiol arferion a phrosesau ecolegol-gymdeithasol a ddefnyddiwyd i gloddio a dyddodi, ailgylchu a defnyddio, cynrychioli a thrawsnewid carbon. Bydd y ddarlith yn ceisio cyflwyno’r achos hwn, gan ddadlau bod carbon a chysylltiadau rhyngwladol yn gyd-gyfansoddol byth ers y gwawriodd moderniaeth yn 1492, ac y byddant yn anochel yn parhau felly ymhell i’r dyfodol, wrth i’r economi fyd-eang ddal i ddibynnu ar garbon ffosil barhau heb ostegu ac wrth i’r blaned gynhesu’n ddidostur. A fydd newid yn yr hinsawdd yn cynhyrchu gwrthdaro eang, neu hyd yn oed gwymp gwareiddiad? Sut mae dynameg grym gyfoes yn ffurfio ymatebion i newid yn yr hinsawdd? A sut, i’r gwrthwyneb, gallai datgarboneiddio drawsnewid trefn y byd yn yr unfed ganrif ar hugain?  Gan adeiladu ar ymchwil mewn ecoleg wleidyddol, bydd y ddarlith yn dadlau mai dim ond drwy ddadansoddiad dilechdidol o ‘gysylltiadau rhyng-garbon’ y gallwn ddechrau ateb y cwestiynau hyn yn iawn. Bydd yn dadlau bod angen i fyfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol wynebu her newid yn yr hinsawdd drwy osod yr elfen C wrth ganol yn eu dadansoddiadau.