Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysau heb eu darganfod a chemegau peryglus, yn ôl adroddiad newydd

Rhew parhaol

Rhew parhaol

30 Medi 2021

Mae gan rew parhaol yr Arctig sy'n dadmer yn gyflym, y potensial i ryddhau gwastraff ymbelydrol o longau tanfor ac adweithyddion niwclear rhyfel oer, bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau a feirysau a allai fod heb eu darganfod, yn ôl  ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth a’i waith ar y cyd â thîm o’r Unol Daleithiau.

Wrth ysgrifennu yn Nature Climate Change, cyd-ysgrifennodd Dr Arwyn Edwards, o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), bapur ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi gydag academyddion o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau a’r Jet Propulsion Laboratory yn Ne California, sy’n rhan o NASA.

Mae rhew parhaol, neu dir wedi'i rewi'n barhaol, yn gorchuddio tua naw miliwn o filltiroedd sgwâr. Mae mwyafrif rhew parhaol yr Arctig yn hyd at oddeutu miliwn o flynyddoedd oed, ac, fel arfer, po ddyfnaf ei lefel, yr hynaf yw'r cyfnod y mae'n tarddu ohono. Yn ogystal â microbau, mae ystod amrywiol o gyfansoddion cemegol wedi bod yno dros filenia boed trwy brosesau naturiol, damweiniau neu storfa fwriadol. Fodd bynnag, gellir colli hyd at ddwy ran o dair o rew parhaol yr Arctig sy’n agos at yr arwyneb erbyn 2100 oherwydd newid hinsawdd - mae'r ardal yn cynhesu cymaint â thair gwaith y gyfradd fyd-eang ar gyfartaledd.

Ystyrir rhew parhaol sy’n dadmer fel cyfrannwr at allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth i storfeydd enfawr o garbon pridd yr Arctig gael eu rhyddhau i'r atmosffer fel carbon deuocsid a methan, yn ogystal ag achosi newidiadau sydyn i'r dirwedd. Fodd bynnag, canfu'r ymchwil fod goblygiadau newidiadau yn yr Arctig yn llawer ehangach a bod llai yn eu deall - gyda'r potensial ar gyfer rhyddhau gwastraff niwclear ac ymbelydredd, firysau anhysbys a chemegau eraill sy'n peri pryder.

Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer rhyddhau deunydd ymbelydrol o bosibl wrth i hen ddeunydd o’r rhyfel oer ddadmer wrth i’r Arctig gynhesu. Rhwng 1955 a 1990, cynhaliodd yr Undeb Sofietaidd 130 o brofion arfau niwclear yn atmosffer ac yn agos at gefnfor archipelago Novaya Zemlya oddi ar arfordir gogledd-orllewin Rwsia. Defnyddiodd y profion 224 o ddyfeisiau ffrwydrol ar wahân, gan ryddhau tua 265 megaton o ynni niwclear. Suddwyd mwy na 100 o longau tanfor niwclear wedi'u digomisiynu ym moroedd Kara a Barents gerllaw.

Er bod llywodraeth Rwsia wedi lansio cynllun glanhau strategol ers hynny, mae'r adolygiad yn nodi bod profion yn yr ardal wedi dangos lefelau uchel o sylweddau ymbelydrol cesium a phlwtoniwm, rhwng gwaddod tanfor, llystyfiant a llenni iâ.

Cynhyrchodd cyfleuster ymchwil yr Unol Daleithiau Camp Century - a leolwyd o dan yr rhew yn yr Ynys Las ac a gafodd ei bweru gan niwclear - wastraff niwclear a disel sylweddol. Pan gafodd ei ddadgomisiynu ym 1967, gadawyd gwastraff yn yr iâ sy'n wynebu bygythiad tymor hwy yn sgil newidiadau i Llen Iâ'r Ynys Las. Roedd damwain bomiwr Thule 1968 yn yr un wlad wedi gwasgaru llawer iawn o blwtoniwm ar len iâ'r Ynys Las.

Dywedodd Dr Arwyn Edwards, Darllenydd mewn Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Bydd newidiadau yn hinsawdd ac ecoleg yr Arctig yn dylanwadu ar bob rhan o’r blaned wrth iddi fwydo carbon yn ôl i’r atmosffer a chodi lefelau’r môr. Mae'r adolygiad hwn yn nodi sut y gall risgiau eraill ddeillio o'r Arctig sy'n cynhesu. Mae wedi bod yn rhewgell ddofn ers amser maith ar gyfer ystod o bethau niweidiol, nid nwyon tŷ gwydr yn unig. Mae angen i ni ddeall mwy am dynged y microbau a'r llygryddion niweidiol hyn a deunyddiau niwclear er mwyn deall yn iawn y bygythiadau y gallen nhw eu peri.

“Mae’r rhain yn oblygiadau newydd ac ar ben  yr hyn roedden ni’n gwybod a fyddai’n digwydd pe bai rhew parhaol yn parhau i doddi. Mae'n hanfodol bod uwchgynhadledd COP26 y mis nesaf yn gweithredu’n glir gan y dylai’r canfyddiadau hyn fod yn destun pryder i bawb. Yn ogystal â chyflawni targedau Cytundeb Paris a gostwng y cynnydd yn nhymheredd yr hinsawdd fyd-eang i 1.5 Celsius, mae angen ymrwymiad cryf ar unwaith i ariannu ymchwil yn y maes hwn. Yr hyn a ddylai ein poeni yw faint yn rhagor sydd angen i ni ddysgu am yr Arctig, pa mor bwysig yw hi i'n dyfodol ni ni gyd a pham ei bod yn werth ei gwarchod. ”

 

Rhew parhaol dwfn o fwy na thairmetr yw un o'r ychydig amgylcheddau ar y Ddaear nad yw wedi bod yn agored i wrthfiotigau modern. Canfuwyd bod mwy na 100 o ficro-organebau amrywiol mewn rhew parhaol dwfn Siberia yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Wrth i'r rhew parhaol doddi, mae potensial i'r bacteria hyn gymysgu â dŵr tawdd a chreu mathau newydd o firysau sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Mae newid hinsawdd yn cynyddu'r risg y bydd y rhain yn dod i’r golwg trwy ddadmer sydyn fel y'i gelwir, lle mae'r haenau o rew parhaol yn dod i’r amlwg yn sydyn ac yn ddidrafferth, gan gynyddu'r cyfle i ryddhau blynyddoedd lluosog o rywogaethau ar yr un pryd.

Mae risg arall yn ymwneud â sgil-gynhyrchion tanwydd ffosil, sydd wedi'u cyflwyno i amgylcheddau rhew parhaol ers dechrau'r Chwyldro Diwydiannol. Roedd yr Arctig hefyd yn cynnwys dyddodion metel naturiol, gan gynnwys arsenig, mercwri a nicel, sydd wedi cael eu cloddio ers degawdau ac sydd wedi achosi halogiad enfawr o ddeunydd gwastraff ar draws degau o filiynau o hectar.

Mae llygryddion crynodiad uchel a chemegau a storiwyd yn flaenorol yn y rhew parhaol, gan gynnwys DDT, mewn perygl o ail-dreiddio'r atmosffer wrth iddo doddi. Mae llif dŵr cynyddol yn golygu y gall wasgaru'n eang, gan niweidio rhywogaethau anifeiliaid ac adar yn ogystal â mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol. Er bod asesiadau risg presennol yn awgrymu’r potensial y bydd bobl amsugno’r cemegau hyn gydag amlygiad ac amser, mae’n debygol bod y risg wedi’i thanamcangyfrif.

Yn osgytal, mae mwy o le i gludo llygryddion a firysau / bacteria. Mae mwy na 1,000 o aneddiadau – prosiectau sy’n echdynnu adnoddau, rhai milwrol a gwyddonol - wedi'u sefydlu ar draeth y môr yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Mae hynny, ynghyd â'r boblogaeth leol, yn cynyddu'r tebygolrwydd o gyswllt neu ryddhau damweiniol.

Er gwaethaf canfyddiadau adroddiad heddiw, dywed nad yw’r risgiau o ficro-organebau a chemegau sy'n dod i'r amlwg o fewn y rhew parhaol yn cael eu deall na’u mesur yn dda chwaith.Dywed fod ymchwil fanwl bellach yn yr ardal yn hanfodol er mwyn deall yn well y risgiau ac i ddatblygu strategaethau lliniaru.

 Ychwanegodd prif awdur yr adolygiad, Dr Kimberley Miner, Gwyddonydd Daear a Hinsawdd o Jet Propulsion Laboratory NASA:

“Mae'n bwysig deall effeithiau eilaidd a thrydyddol y newidiadau hyn ar y Ddaear ar raddfa fawr fel dadmer rhew parhaol.Er bod rhai o'r peryglon sy'n gysylltiedig â dadmer hyd at filiwn o flynyddoedd o ddeunydd wedi'u cofnodi, rydym yn bell o allu modelu a rhagfynegi'n union pryd a ble y byddant yn digwydd.Mae'r ymchwil hwn yn hollbwysig.”

 

Cefnogir gwaith ymchwil Dr Edwards gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU.