Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â’r 40 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

17 Medi 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â’r 40 uchaf yng nghanllaw prifysgolion The Times and Sunday Times ’Good University Guide’ 2022, gan adlewyrchu ei chryfderau o ran rhagoriaeth y dysgu a boddhad myfyrwyr.

Mae'r Brifysgol yn safle 38 allan o 135 o brifysgolion y DU, gan ddringo o safle 42 y llynedd. Mae'r safle'n seiliedig ar nifer o feini prawf, gan gynnwys boddhad ag ansawdd y dysgu, profiad myfyrwyr a chyfraddau cwblhau gradd.

Daw'r newyddion yn dilyn perfformiad neilltuol y Brifysgol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ym mis Gorffennaf, lle sgoriodd yr uchaf yng Nghymru am Ragoriaeth y Dysgu a Boddhad Myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae'n newyddion gwych bod cynnydd neilltuolPrifysgol Aberystwyth yn cael ei gydnabod gan The Times and Sunday Times Good University Guide 2022. Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd i'r staff a myfyrwyr fel ei gilydd ond mae ein staff dysgu wedi perfformio'n eithriadol yng nghanol yr amgylchiadau hyn.

“Fe wnaethon ni symud yn gyflym i gyflwyno dulliau dysgu arloesol a hyblyg wrth i’r pandemig daro a blaenoriaethu anghenion y myfyrwyr yn gyntaf wrth wneud penderfyniadau. Roeddwn yn falch iawn fod ansawdd y dysgu yn debyg i’r hyn ydoedd mewn amgylchiadau mwy arferol. Mae ein perfformiad yn y Good University Guide 2022 yn dangos i ni pa mor awyddus oedd staff i beidio â gadael i’r safonau uchel sydd gennym ostwng ar unrhyw adeg ac mae fy niolch yn fawr iddynt. ”

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: "Rwyf wrth fy modd bod yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn cael ei adlewyrchu yn ein safle yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2022. Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ragori o safbwynt rhagoriaeth y dysgu a lefelau uchel o foddhad myfyrwyr, felly nid yw'n syndod ein gweld ymhlith y 40 Prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig.

Roedd hyn yn bosibl diolch i waith caled ein staff academaidd ac maent yn haeddu eu canmol am ein llwyddiant.

"Fodd bynnag, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau. Yn hytrach, rydym yn gweithio'n galed i wella profiad y myfyrwyr ymhellach. Mae ein hysgol filfeddygol newydd yn agor yn ddiweddarach y mis hwn, sef unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ac mae'n dilyn buddsoddiad o £1 miliwn mewn cyfleusterau newydd ar ein Campws Penglais. Byddwn hefyd yn cynnig cymwysterau nyrsio o fis Medi 2022, gan roi hwb i'r gwasanaeth iechyd yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt.

Mae'r ddau ddatblygiad hyn, yn ogystal â'r cyrsiau rydym eisoes yn eu cynnig, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i addysg o ansawdd uchel ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Cyhoeddir The Times and Sunday Times Good University Guide 2022 heddiw ar-lein (17 Medi), gydag atodiad 96 tudalen i ddilyn ddydd Sul, 19 Medi.