Cyfle i bobl leol lywio addysg nyrsio newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Addysg Gofal Iechyd
10 Medi 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal diwrnodau agored er mwyn ymwneud â’r gymuned leol am ei chynlluniau ar gyfer cynnig cymwysterau nyrsio am y tro cyntaf.
Mae’n dilyn llwyddiant diweddar y Brifysgol i ennill tendr i addysgu nyrsys oedolion a nyrsys iechyd meddwl.
Bydd y myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd ar gyfer eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022.
O fis nesaf, bydd tîm nyrsio'r Brifysgol yn agor ei drysau i aelodau’r cyhoedd - gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff o sefydliadau iechyd a gofal arall - er mwyn dangos ei chyfleusterau newydd a thrafod ei chynlluniau gyda’r gymuned ehangach yn y Canolbarth.
Mae’r digwyddiadau croesawu’r gymuned, sy’n agored i bawb, yn cael eu cynnal ar gyfer 13 Hydref, 23 Hydref, 10 Tachwedd, 1 Rhagfyr a 4 Rhagfyr eleni. Mae angen cadw lle yn y digwyddiadau o flaen llaw drwy e-bostio nrsstaff@aber.ac.uk.
Dywedodd Sally Hore, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Bydd ein digwyddiadau croesawu’r gymuned yn gyfle i ddeall y rhaglen nyrsio newydd yn well, cwrdd â’r tîm a gweld y cyfleusterau newydd sbon sydd ar gael yma fel rhan o’r addysg nyrsio newydd.
“Rydyn yn awyddus i rannu ac i arddangos y rhaglen nyrsio newydd gyda’r cyhoedd yn yr ardal yn ehangach, yn enwedig gan fod defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn rhan hanfodol o addysg nyrsio. Gall myfyrwyr nyrsio ddysgu llawer iawn o’u hadroddiadau personol a’u profiadau.”
Mae pobl sy’n byw o fewn radiws o 20 milltir i'r Brifysgol yn gallu ymgeisio i ymuno â grŵp Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr ac Ymwneud Cyhoeddus tîm nyrsio’r Brifysgol yn ogystal.
Mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn gallu cymryd rhan o fewn y cwricwlwm mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu, digwyddiadau dewis a recriwtio myfyrwyr, asesiadau myfyrwyr a hwyluso prosiectau cymunedol.
Darperir hyfforddiant a chefnogaeth i bawb cyn ymgymryd ag unrhyw rôl.
Yn ogystal, mae’r tîm nyrsio yn fodlon ymweld â grwpiau elusennol a digwyddiadau lleol o fewn yr ardal er mwyn hyrwyddo a rhannu manylion yr addysg nyrsio a chyfleoedd gwirfoddoli.
Ychwanegodd Sally Hore:
“Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, mae’r holl dîm nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen at groesawu a chwrdd â’r gymuned leol. Rydyn ni’n awyddus iawn i weithio ar y cyd i sicrhau llwyddiant y rhaglen nyrsio.”
Gall pobl sydd â diddordeb yn y cyfleoedd a’r digwyddiadau hyn gysylltu â’r tîm nyrsio ar nrsstaff@aber.ac.uk.