Academydd o Aberystwyth yn curadu archif BBC a ryddhawyd i nodi 85 mlynedd o adloniant teledu

Dr Jamie Medhurst, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau, Prifysgol Aberystwyth a Darllenydd mewn Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Dr Jamie Medhurst, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau, Prifysgol Aberystwyth a Darllenydd mewn Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

26 Awst 2021

Mae academydd o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu casgliad archif newydd sy'n dathlu hanes cyfoethog y BBC o ddiddanu'r genedl.

Dr Jamie Medhurst yw Prif Guradur yr archif Entertaining the Nation, sy’n rhoi cipolwg unigryw ar adloniant darlledu ar hyd y blynyddoedd trwy gyfrwng cyfweliadau a ryddhawyd yn ddiweddar o Gasgliad Hanes Llafar y BBC, yn ogystal â llu o ffotograffau na welir yn aml.

Mae'r casgliad wedi cael ei ryddhau i nodi 85 mlynedd o adloniant teledu, ac mae'n rhan o brosiect BBC History:100 Voices That Made The BBC.

Mae uchafbwyntiau'r archif yn cynnwys mewnwelediadau i sgetshis poblogaidd o’r rhaglen Morecambe and Wise, hanes dadleuol creu Doctor Who a'i hangenfilod arswydus, fformatau blaengar a arloeswyd yn Sportsview, dechreuadau digon di-nod y rhaglennu byd natur sydd bellach yn fyd-enwog, ac wrth gwrs y frwydr holl bwysig ymhlith rhaglenni teulu am gynulleidfa nos Sadwrn.

Mae'r Casgliad hefyd yn cynnwys delwedd nas gwelwyd o’r blaen o'r act taflu cyllyll cyntaf erioed i gael ei ddarlledu, a berfformiwyd yn ystod adran adloniant ar y rhaglen Here’s Looking At You yn 1936.

Esboniodd Dr Jamie Medhurst, Darllenydd mewn Ffilm, Teledu a'r Cyfryngau: "Mae gan y BBC draddodiad hir a balch o ddiddanu eu gwrandawyr a'u gwylwyr. Ers bron i ganrif, mae'r Gorfforaeth wedi cynhyrchu amrywiaeth o raglenni sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd, eu caniatáu i ddianc, eu herio, a gwneud iddynt chwerthin a chrio. Drama a chomedi, chwaraeon a byd natur, darllediadau o ddigwyddiadau o bwys a rhaglenni wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer y cenhedloedd – mae'r BBC wedi bod wrth galon darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol.

“Darlledwyd sioe amrywiaeth, neu sioe adloniant, gyntaf y BBC 85 mlynedd yn ôl ar 26 Awst 1936. Roedd Here’s Looking at You yn rhan o'r rhaglennu a ragflaenodd lansiad swyddogol Gwasanaeth Teledu'r BBC ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Darlledwyd y rhaglenni o'r stiwdios teledu yn Alexandra Palace i'r arddangosfa radio yn Olympia, gorllewin Llundain, fel rhan o ymdrech i annog pobl i brynu setiau teledu.

“Mae’r mewnwelediadau a geir yn y cyfweliadau yng Nghasgliad Hanes Llafar y BBC yn hynod werthfawr. Cawn gyfle i glywed lleisiau, llawer ohonynt am y tro cyntaf, sy’n bwrw goleuni ar benderfyniadau polisi, rhaglenni, actorion … a’r hyn roedd Eric Morecambe yn ei feddwl o’r sgetsh Concerto Piano Grieg gydag Andre Previn!”

Wrth siarad am y deunydd diweddaraf i’w ryddhau o’r archif dywedodd Robert Seatter, Pennaeth BBC History: “Mae’r lleisiau unigryw o Gasgliad Hanes Llafar y BBC, sydd wedi'u curadu a'u cyflwyno’n ofalus gan ein hacademyddion partner, yn cynnig darlun byw o swyddogaeth amrywiol y BBC fel diddanwr o 1936 ymlaen. Mae’n hynod ddiddorol gwrando ar y mewnwelediadau allweddol gan y bobl oedd yn gyfrifol am rai o'r rhaglenni adloniant mwyaf eiconig ar deledu Prydain a sut y gwnaethant arloesi'r hyn a welwn heddiw.”

Mae’r prosiect archif 100 Voices that Made the BBC yn gydweithrediad gyda Labordy Dyniaethau Sussex, Prifysgol Sussex; Canolfan Hanes y Cyfryngau, Prifysgol Aberystwyth; Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Caerlŷr, a’r Amgueddfa Cyfryngau Genedlaethol.

Mae Canolfan Hanes y Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n elwa o’r arbenigedd ym maes hanes y cyfryngau torfol ledled y Brifysgol.

Yn ogystal â’i swyddogaeth fel curadur, mae Dr Jamie Medhurst wedi ysgrifennu adrannau ar 'Diddanu'r Genedl' sy'n canolbwyntio ar 'Gomedi', 'Drama', 'Nos Sadwrn', 'Cerddoriaeth', 'Byd Natur', a 'Diddanu'r Cenhedloedd (Cymru a'r Alban)’.

Cyfrannodd Dr Siân Nicholas o'r Adran Hanes a Hanes Cymru adran ar 'Digwyddiadau sy'n uno’r genedl'.

Diddanu'r Genedl yw'r wythfed rhifyn yng nghasgliad 100 Voices That Made The BBC. Y rhifynnau blaenorol yw Elections, The Birth of TV and Radio Reinvented, People, Nation, Empire and Pioneering Women.

At ei gilydd, mae Casgliad Hanes Llafar y BBC yn cynnwys rhai o raglenni teledu adloniant mwyaf poblogaidd y BBC, gan gynnig mewnwelediadau newydd ynglŷn â’r broses o’u creu, a’u hesblygiad.

Mae’r casgliad llafar llawn “100 Voices that made the BBC: Entertaining the Nation” ar gael yn: https://www.bbc.com/historyofthebbc/100-voices/entertaining-the-nation