Llwyddiant wrth amseru patrymau gorffwys defaid allai arwain at ddarogan ŵyna
Dr Manod Williams
13 Awst 2021
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gobeithio gallu darogan pryd fydd defaid yn ŵyna wedi iddynt lwyddo i ddilysu dull o fesur am faint mae defaid yn gorwedd.
Mewn papur ymchwil newydd yng nghyfnodolyn Applied Animal Behaviour Science, mae Dr Manod Williams o’r Brifysgol yn dangos bod modd gosod dyfeisiadau mesur - ‘accelerometers’ - ar goesau defaid ac amcangyfrif am faint maent yn gorwedd.
Er bod ffermio defaid yn gyffredin iawn, ychydig a wyddom am eu harferion gorffwys.
Daeth yr ymchwil i’r casgliad bod ymddygiad gorwedd defaid beichiog 10 niwrnod cyn ŵyna yn gysylltiedig gyda ffactorau megis nifer yr wŷn a ddisgwylir, eu pwysau a’u rhyw.
Roedd mamogiaid ag un oen gwrywaidd, ac yn ŵyna dan do, yn gorwedd am awr yn llai bob dydd na’r rhai oedd yn disgwyl ŵyn benywaidd. Gwelwyd hefyd fod cynnydd ym mhwysau gefeilliaid yn golygu bod y ddafad yn gorwedd am gyfnodau byrrach bob dydd.
Nid oedd rhyw'r oen yn effeithio ar ymddygiad gorwedd y defaid a oedd yn wyna yn yr awyr agored, ond roedd pwysau gefeilliaid ar enedigaeth yn effeithio ar hyd ac amlder cyfnodau gorwedd y mamogiaid hyn.
Ar gyfartaledd, roedd y defaid a astudiwyd yn gorwedd am oddeutu 12-13 awr y dydd, gyda’r rhai dan do yn gorwedd ychydig yn hirach na’r rhai’n byw tu allan.
Mae’r astudiaeth yn rhan o ymdrechion i ddatblygu dulliau o amaethu manwl gywir ar gyfer y sector ddefaid, a hwyluso gwell dealltwriaeth o ymddygiad defaid beichiog.
Gallai’r dulliau hyn helpu i wneud y mwyaf o’r adnoddau a dwysedd stocio ar adegau pwysig yng nghalendrau bugeiliaid.
Ymhellach, credir y bydd yr ymchwil yn gymorth i ddarogan pryd fydd defaid yn ŵyna drwy adnabod y ffactorau sy’n effeithio ar am ba hyd y maent yn gorwedd.
Meddai Dr Williams o Brifysgol Aberystwyth a arweiniodd yr ymchwil:
“Mae diffyg dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar batrymau gorwedd defaid: mae angen i ni ddeall yn well am faint dylen nhw orwedd bob dydd, beth sy’n normal, a pha ffactorau corfforol sy’n effeithio arnyn nhw.
“Mae ŵyna yn gyfnod pwysig o ran lles a pha mor gyfforddus yw dafad, ond dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ymddygiad defaid beichiog. Mae bugeiliaid mewn cyswllt amlach â defaid yn ystod y cyfnod hwn ac felly mae’n gyfle i brofi gwerth y technegau monitro hyn.
“Mae ymddygiad gorwedd wedi profi i fod yn ffactor werthfawr wrth astudio rhywogaethau eraill. Fodd bynnag, cyn yr astudiaeth hon, doedd dim dadansoddiadau archwiliadol o ymddygiad gorwedd defaid beichiog gan ddefnyddio dyfeisiadau ‘accelerometers’.”
Ychwanegodd Dr Williams:
“Bydd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol er mwyn deall ymddygiad defaid yn well, yn enwedig ar adegau pan eu bod nhw dan fwy o straen, megis ŵyna. Bydd datblygiad pellach o systemau integredig ar ffermydd yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermwyr er mwyn gwneud penderfyniad rheoli ar lefel anifail unigol yn ogystal â lefel diadell neu fuches. Yn ogystal, mae’r canfyddiadau hyn yn golygu ein bod gam yn agosach at fedru darogan yn fanwl pryd fydd defaid yn ŵyna.”
Cynhaliwyd yr astudiaeth ar ddwy fferm - un yn Fferm Gogerddan ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un arall ar fferm Coleg Cambria, Llysfasi, yn Rhuthun yng ngogledd Cymru.
Roedd yr astudiaeth yn rhan o brosiect ‘PreciseAg’ sy’n ymchwilio i amaethu da byw manwl gywir er mwyn gwella cynaliadwyedd ffermio yng Nghymru. Fe’i hariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.